You are on page 1of 64

Camau

Newydd
Strategaeth Integredig ar gyfer y

Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol

dros Loegr a Chymru

FFRAMWAITH STRATEGOL

2001 – 2004

YN GADARN O BLAID POBL ANABL

Y GWASANAETH PRAWF CENEDLAETHOL


dros Loegr a Chymru

BUDDSODDWR MEWN POBL Gorfodaeth, adsefydlu ac amddiffyn y cyhoedd


Cyhoeddwyd gan y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol dros Loegr a Chymru
a Chyfarwyddiaeth Gyfathrebu’r Swyddfa Gartref
Awst 2001

National Probation Service for England and Wales


Horseferry House, Dean Ryle Street, London SW1P 2AW
020 7273 4000
www.homeoffice.gov.uk
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

Y
Y Prif Weinidog ar Droseddu

P R I F
W E I N I D O G

Does ’na’r un pwnc sy’n cyffwrdd ein

dinasyddion yn fwy na throseddu a chyfraith

a threfn ar ein strydoedd, ac mae angen i ni

A R
D R O S E D D U
wneud y newidiadau fel bod gennym system

gyfiawnder troseddol sy’n cosbi’r troseddwr

ond sydd hefyd yn cynnig cyfle i’r rhai a

ddyfarnwyd yn euog adsefydlu a throi cefn

’’
ar fywyd o droseddu.

Tony Blair, Prif Weinidog

i
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

ii
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

B E T H
Beth yw’r Gwasanaeth Prawf
Cenedlaethol dros Loegr a Chymru (GPC)?

Y W ’ R
Asiantaeth gorfodi cyfraith yw’r GPC ac mae’n darparu cosbau cymunedol, yn goruchwylio
ac yn gweithio gyda throseddwyr, yn unol â’r telerau a nodwyd gan y Llys neu’r Bwrdd
Parôl, mewn ffyrdd sy’n helpu troseddwyr i beidio â throseddu eto ac sy’n amddiffyn y

G W A S A N A E T H
cyhoedd yn well. Bydd peidio â chydymffurfio â’r gofynion goruchwylio yn arwain at
gamau tor-amod drwy’r Llysoedd, a gall arwain at ddedfryd o garchar. Lle bo’r troseddwr
wedi ei ryddhau’n gynnar ar drwydded statudol, mae’n bosib mai canlyniad y camau a
gymerwyd o ganlyniad i dorri amodau prawf fydd galw’r troseddwr yn ôl i’r carchar.

Mae’r GPC yn un o’r prif wasanaethau statudol ym maes cyfiawnder troseddol ac mae’n
gweithio mewn cysylltiad agos iawn â chydweithwyr yn yr heddlu ac mewn carchardai, yn
ogystal â Gwasanaeth Erlyn y Goron, llysoedd, awdurdodau lleol, iechyd, addysg, tai a
llawer o wahanol bartneriaid o’r sectorau annibynnol a gwirfoddol.

P R A W F
Beth mae’n ei wneud?

• Bob blwyddyn mae’r gwasanaeth prawf yn dechrau goruchwylio tua 175,000 o

C E N E D L A E T H O L
droseddwyr. Mae nifer yr achosion ar unrhyw ddiwrnod arbennig dros 200,000. Mae
tua 90% o’r troseddwyr hyn yn wrywod a 10% yn fenywod.

• Mae ychydig dros chwarter y troseddwyr sydd â dedfrydau cymunedol rhwng 16 ac 20


oed, ac mae ychydig yn llai na thri chwarter ohonynt yn 21 oed a throsodd. Mae tua
9% o’r rhai sy’n dechrau gorchmynion yn dod o grwpiau lleiafrifoedd ethnig. Mae tua
5% yn ddu (mwy na’r disgwyl), tua 2% o dras De Asiaidd (llai na’r disgwyl) a 2% o dras
ethnig arall.

• Bydd tua 70% o’r troseddwyr sy’n cael eu goruchwylio wedi cael dedfryd gymunedol,
a bydd 30% wedi cael carchar â chyfnod dan oruchwyliaeth trwydded statudol yn y
gymuned fel rhan annatod o’r ddedfryd.

D R O S
• Mae holl waith y GPC gyda throseddwyr yn cyfuno asesiad parhaus a rheoli risg a
pherygl â darparu rhaglenni goruchwylio arbenigol sydd wedi eu llunio er mwyn lleihau
aildroseddu. Rhoddir blaenoriaeth i orfodi amodau’r gorchymyn/trwydded.
L O E G R

• Bob blwyddyn bydd y GPC yn helpu ynadon a barnwyr i benderfynu ar ddedfryd trwy
ddarparu tua 235,000 o adroddiadau cyn-dedfrydu, ac 20,000 o adroddiadau gwybodaeth
am fechnïaeth.
A

• Bob blwyddyn bydd staff y gwasanaeth prawf yn canfod ac yn goruchwylio tuag 8


miliwn o oriau o waith di-dâl gan droseddwyr mewn cymunedau lleol, er mwyn sicrhau
C H Y M R U ?

eu bod yn cyflawni gofynion eu gorchmynion cosbau cymunedol.

• Mae’r GPC yn gwneud cyfraniad pwysig iawn i benderfyniadau sy’n ymwneud â rhyddhau
carcharorion yn gynnar trwy gynhyrchu adroddiadau (tuag 87,000 y flwyddyn) sy’n
cyfuno asesiadau risg a pherygl â chynigion ar gyfer cynlluniau goruchwylio cymunedol.
Mae’r rhain yn helpu byrddau parôl a byrddau adolygu carcharorion oes ac Uned Gorfodi

iii
C H Y M R U ? F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

Dedfrydau’r Gwasanaeth Carchardai, i benderfynu pa bryd i ryddhau ac ar ba delerau


ac amodau. Y GPC sydd â’r cyfrifoldeb statudol am ddod â charcharorion sydd wedi eu
rhyddhau’n gynnar (sydd â dedfrydau sy’n ymestyn am fwy na blwyddyn) yn ôl yn ddiogel
i’r gymuned, gan eu goruchwylio trwy gydol y cyfnod a nodwyd. Bydd troseddwr yn
cael ei alw’n ôl i’r carchar os nad yw’n cydymffurfio â’r telerau, neu os yw’n ymddwyn
mewn modd sy’n peri i’r swyddog goruchwylio asesu bod y cyhoedd yn gyffredinol, neu
ddioddefwr penodol, yn wynebu risg annerbyniol.
A

• Bydd 100 o hosteli prawf cymeradwyedig yn parhau i chwarae rhan sylweddol yn


L O E G R

strategaeth amddiffyn y cyhoedd y GPC, gan ddarparu amgylchedd wedi ei reoli ar gyfer
troseddwyr sydd ar fechnïaeth, troseddwyr sydd â dedfrydau cymunedol a throseddwyr
sydd â thrwyddedau ar ôl rhyddhau.

• Lle bo modd cysylltu â dioddefwyr y troseddau treisgar mwyaf difrifol, gan gynnwys trais
D R O S

rhywiol, a lle bo’r dioddefwr yn dymuno hynny, bydd effaith y drosedd a phryderon
ynghylch eu diogelwch yn y dyfodol yn rhan annatod o’r gwaith asesu a wneir gan staff
y gwasanaeth prawf cyn ac ar ôl rhyddhau (c. 50,000 o achosion y flwyddyn ac yn
cynyddu). Mae amddiffyn y cyhoedd yn ganolog i’r gwaith o gynllunio goruchwyliaeth.
C E N E D L A E T H O L

• Mae llawer o staff y gwasanaeth prawf yn cael eu secondio i weithio mewn timau
troseddau ieuenctid, mewn carchardai ac mewn llawer o asiantaethau eraill sydd hefyd
yn ymwneud ag amddiffyn y cyhoedd ac atal neu leihau troseddu. Mae eu sgiliau, yn
enwedig wrth asesu risg a pherygl, yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr.

Nodau’r GPC yw:

• Amddiffyn y cyhoedd

• Lleihau aildroseddu
P R A W F

• Cosbi troseddwyr yn briodol yn y gymuned

• Sicrhau bod troseddwyr yn ymwybodol o effeithiau troseddu ar ddioddefwyr troseddau


a’r cyhoedd
G W A S A N A E T H

• Adsefydlu troseddwyr

Mae’n gweithredu yn unol â Fframwaith Polisi Cywiro’r Llywodraeth, gan gyfrannu’n


bennaf tuag at:

• Nod 3 y Swyddfa Gartref: “Sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei ddarparu’n


effeithiol, heb unrhyw oedi diangen, a bod y gwaith ymchwilio, canfod ac erlyn a’r
trefniadau llys yn effeithlon. Sicrhau bod tystion yn wynebu cyn lleied ag sy’n bosib o
fygythiad a dychryn a chysylltu â dioddefwyr a’u cefnogi.”
Y W ’ R

• Nod 4 y Swyddfa Gartref: “Cyflwyno dedfrydau o garchar a dedfrydau


cymunedol mewn modd effeithiol er mwyn lleihau aildroseddu ac amddiffyn y
B E T H

cyhoedd, trwy bartneriaeth rhwng y gwasanaeth carchardai a’r gwasanaeth prawf a


Bwrdd Cyfiawnder yr Ifanc.”

iv
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

C Y N N W Y S
C Y N N W Y S
tudalen

Rhagair gan yr Ysgrifennydd Cartref vii

Crynodeb Gweithredol 1

Camau Newydd: Cyflwyniad 5

Gweledigaeth a Fframwaith Moesol y GPC 7

Amcan Ymestynnol I 9

Amcan Ymestynnol II 15

Amcan Ymestynnol III 19

Amcan Ymestynnol IV 27

Amcan Ymestynnol V 29

Amcan Ymestynnol VI 31

Amcan Ymestynnol VII 33

Amcan Ymestynnol VIII 39

Gwasanaeth Unedig Cenedlaethol 47

Gwariant y Gwasanaeth Prawf 2001/2002 hyd 2003/2004 48

Amcan Ymestynnol IX 49

Byrfoddau 52

v
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

vi
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

R H A G A I R
Rhagair gan yr Ysgrifennydd Cartref

Mae’n ofynnol i bob rhan o’r system gyfiawnder troseddol ennyn ymddiriedaeth y cyhoedd
a pharch y gymuned trwy gyflawni ei dyletswydd mewn modd cymwys a chydwybodol.
Mae gan y System Gyfiawnder Troseddol ran bwysig i’w chwarae yn y gwaith o leihau
troseddu, anhrefn cyhoeddus a chyfraddau aildroseddu.

G A N
Bydd adroddiad John Halliday yn gyfraniad pwysig i’r agenda ar gyfer diwygio dedfrydu a’r
System Gyfiawnder Troseddol. Bwriadaf ddefnyddio’r adroddiad i sbarduno ymgynghoriad
ehangach. Hoffwn glywed beth yw eich barn ynghylch yr awgrymiadau sydd yn yr adroddiad

Y R
a hefyd ynghylch rhaglen ehangach fyth o newidiadau posib.

Y S G R I F E N N Y D D
Mae gennym gyfle unigryw i chwyldroi’r hyn sy’n bosib nid yn unig wrth atal aildroseddu,
ond hefyd wrth sicrhau bod troseddwyr yn cael eu hadsefydlu. Rhaid i ni hefyd gadw at y nod
draddodiadol o amddiffyn y cyhoedd, pennu cosb briodol a cheisio dilyn y rhaglen ddiweddar
sy’n canolbwyntio ar wneud iawn am drosedd. Ac mae gan y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
ran hanfodol i’w chwarae.

Mae’r gwasanaeth prawf wedi ei ad-drefnu yn ddiweddar – gan sefydlu’r Gwasanaeth


Prawf Cenedlaethol ynghyd â threfniadau newydd ar gyfer ei reoli mewn deddfwriaeth
newydd – ac mae’r ad-drefnu hwn yn ganolog i’n strategaethau lleihau troseddu. Rhaid
dangos yn awr bod y Gwasanaeth yn gallu sicrhau gostyngiad amlwg mewn aildroseddu a
chynnig mwy o amddiffyniad i’r cyhoedd.

C A R T R E F
Mae’r Camau Newydd yn nodi’n bendant ym mhle mae modd gwneud gwelliannau. Mae
cymunedau a dioddefwyr yn dibynnu ar staff y gwasanaeth prawf i wneud eu gwaith yn
dda a chredaf y bydd yr amcanion sydd yn y strategaeth integredig newydd hon yn creu
gwasanaeth cenedlaethol gydag arweiniad clir a phroffesiynol.

Rhaid i’r GPC allu darparu tystiolaeth o’r hyn a gyflawnir ganddo, a rhaid sicrhau hefyd ei
fod yn deall pryder y cyhoedd ynghylch troseddu, risg, amddiffyn dioddefwyr ac adsefydlu
troseddwyr.

Mae’r ddogfen hon yn dangos bod gan y Gwasanaeth amcanion clir sy’n gydnaws â
sefydliadau eraill sy’n delio gyda throseddwyr a dioddefwyr: yn garchardai ac asiantau
cymunedol fel yr heddlu, awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol. Ac yma, yn y cymunedau,
y gall y gwaith a wneir gennym ar y cyd sicrhau’r gwelliant mwyaf yn ansawdd bywyd ac
ategu’r gwaith adfer ac adfywio ehangach yr hoffwn ei weld yn digwydd yn ein cymdeithas.

Mae’n bleser gennyf gymeradwyo’r Camau Newydd. Llongyfarchiadau i’r Gwasanaeth am


sicrhau cystal dechreuad i’r daith.

Y Gwir Anrhydeddus David Blunkett AS


Ysgrifennydd Cartref

vii
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

viii
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

C R Y N O D E B
Crynodeb Gweithredol

Y CAMAU NEWYDD
Mae’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (GPC) newydd wedi cyflwyno amcanion a
dyletswyddau newydd i’r gwasanaeth prawf; mae wedi cyflymu’r broses o ddatblygu dulliau
effeithiol o weithio gyda throseddwyr ac mae wedi creu strwythurau newydd yn ganolog

G W E I T H R E D O L
ac yn lleol.

Mae gan y Gwasanaeth newydd gylch gorchwyl clir a phendant sy’n nodi y dylai fod yn
wasanaeth cyhoeddus sy’n amddiffyn y cyhoedd, yn gweithredu ac yn gorfodi gorchmynion
y llys a thrwyddedau carchar, ac yn adsefydlu troseddwyr er mwyn iddynt allu byw bywyd
sy’n parchu’r gyfraith.

Y nod gyffredinol yw y dylai’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol:

• erbyn 2004 sefydlu ei hun fel arweinydd byd o ran cynllunio a gweithredu rhaglenni i
asesu a goruchwylio troseddwyr sy’n llwyddo i ostwng lefelau aildroseddu a gwella
diogelwch y cyhoedd; ac

• erbyn 2006, gael ei gydnabod yn wasanaeth cyhoeddus sydd ar y brig yn ôl meincnodau’r


Model Rhagoriaeth Ewropeaidd (MRhE).

Fel fframwaith strategol o safon, mae’r Camau Newydd yn seiliedig ar “amcanion ymestynnol”
ac mae’n nodi’r naw maes lle ceir yr her neu’r newidiadau mwyaf. Nodir y rhain isod.

Asesu a rheoli risg a pherygl yn gywir ac yn effeithiol


Er mwyn bod yn effeithiol, rhaid i staff y gwasanaeth prawf allu gwahaniaethu rhwng
troseddwyr unigol, eu troseddau a’u dioddefwyr er mwyn cymryd y camau sy’n angenrheidiol
i amddiffyn y cyhoedd yn well ac er mwyn sicrhau bod troseddwyr yn dilyn y rhaglenni sydd
fwyaf tebygol o’u rhwystro rhag troseddu eto.

Y cyfrwng sylfaenol fydd OASys (y Drefn Asesu Troseddwyr), a ddatblygwyd ar y cyd rhwng
y GPC a’r Gwasanaeth Carchardai. Erbyn 2003, bydd risg a pherygl yn ogystal ag
anghenion troseddwyr yn cael eu hasesu ym mhob achos sydd dan oruchwyliaeth ac ym
mhob adroddiad a baratoir.

Os tybir y gallai troseddwyr fod yn peri risg-uchel, mae angen ymateb yn gyflymach byth.
Dan y fframwaith cenedlaethol, ac yn unol â gofynion Cyfraith Sarah, bydd y gwasanaeth
yn adeiladu ar y gwaith o sefydlu Panelau Amddiffyn y Cyhoedd Aml-asiantaeth (PACAu),
gan adolygu’r trefniadau cyfredol a’r protocolau cydweithio ac ymestyn y defnydd o hosteli
neu fesurau megis monitro electronig.

Rhoi mwy o ran yn y broses i ddioddefwyr troseddau rhyw a


throseddau treisgar eraill
Amcan y GPC yw datblygu fframweithiau polisi ac ymarfer cydlynol erbyn 2002/03 ac
ehangu hyn yn gyflym drwy ddefnyddio cyfuniad o gynnig arweiniad a chyfeiriad,
adnoddau ychwanegol at yr hyn a nodwyd yn SR2000 a thargedau i sicrhau bod
dioddefwyr yn fwy bodlon, gan gynnwys gweithio ar sail ein harolwg sylfaenol ni’n hunain.

1
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

Yn ogystal â sicrhau bod pob rhaglen achredig newydd yn cynnwys modiwlau ar


G W E I T H R E D O L

ymwybyddiaeth o ddioddefwyr a newid ymddygiad troseddwyr, bydd y Gwasanaeth yn


sicrhau “ymagwedd sy’n canolbwyntio mwy ar y dioddefwyr”, gan annog cyfiawnder a
gwneud iawn adferol lle bo hynny’n briodol.

Rhaglenni troseddwyr sydd â hanes o lwyddiant o ran


gostwng lefel aildroseddu
Mae’r GPC wedi ymrwymo i ymarfer ar sail tystiolaeth (Beth sy’n Gweithio) ac mae targedau’r
Llywodraeth yn nodi y dylem geisio sicrhau gostyngiad o 5% yn nifer y rhai dan
oruchwyliaeth y Gwasanaeth a ailddyfernir yn euog. Ar gyfer y rhai sy’n camddefnyddio
cyffuriau, y targed yw gostyngiad o 25%.
C R Y N O D E B

Llwyddir i gyflawni hyn drwy ledaenu rhaglenni sy’n seiliedig ar dystiolaeth a achredir yn
annibynnol ac a fydd ar gael yn gyson ledled y wlad. Bydd blaenoriaethau’r GPC yn arwain
at fwy o raglenni sydd wedi’u hanelu at ailintegreiddio ac adsefydlu yn y gymuned gan roi
mwy o bwyslais ar ostwng lefel aildroseddu mewn gorchmynion cosbau cymuned (yr hen
orchmynion gwasanaeth cymunedol).

Bydd y ddarpariaeth leol yn cyfateb i broffiliau a blaenoriaethau troseddu lleol. Cyfeirir y


sylw at droseddu rheolaidd gan bobl sy’n camddefnyddio cyffuriau a throseddwyr mynych
eraill sy’n cyflawni mwy o gyfran o droseddau nag a ddisgwylid ac ystyried eu nifer.

Ymyrryd yn fuan i dywys pobl ifanc oddi ar lwybr troseddu


Bydd y GPC yn ceisio darparu – yn uniongyrchol neu mewn partneriaeth – amrywiaeth o
gefnogaeth mechnïaeth, ymyriadau cymunedol a gwasanaethau adsefydlu sydd wedi eu
cynllunio a’u hasesu i fod yn addas ar gyfer y grwp oedran hwn. Dylai rhaglenni a fydd yn rhoi
sylw i ddatblygu sgiliau meddwl a datrys problemau fod yn elfen amlwg o’r ddarpariaeth.

Bydd y GPC yn cryfhau ei berthynas gyda Bwrdd Cyfiawnder yr Ifanc ac yn defnyddio’r


gwersi o ymarfer ar sail tystiolaeth gydag oedolion ifanc sy’n troseddu.

Gorfodaeth
Mae hyder yn y gwasanaeth prawf yn dibynnu ar i ba raddau y mae staff yn gorfodi telerau
gorchmynion a thrwyddedau yn gywir. Yr amcan yw bod y Gwasanaeth yn cwrdd â’r
safonau cenedlaethol mewn 90% o’r achosion sy’n gofyn i’r staff gymryd camau tor-amod.
Disgwylir i ardaloedd prawf adlewyrchu’r flaenoriaeth hon yn eu cynlluniau blynyddol, ac,
fel cymhelliant, rhoddir cryn bwys ar orfodaeth yn fframwaith rheoli perfformiad y GPC.

Darparu gwybodaeth a gwasanaethau cyn-treial da i’r llysoedd


Mae ennill ymddiriedaeth barnwyr ac ynadon yn un o’r prif ofynion strategol.

Mae gan y GPC dargedau i sicrhau bod adroddiadau’n cael eu paratoi’n fwy prydlon a
chynyddu’r gyfran o adroddiadau dedfryd benodol.

Gwerthfawrogi a sicrhau amrywiaeth yn y Gwasanaeth Prawf


Cenedlaethol a’r gwasanaethau y mae’n eu darparu
Mae’n rhaid cael cynhwysiant, cydraddoldeb a thegwch er mwyn sicrhau cyfiawnder syml.
Mae’r nodweddion hyn hefyd yn gwneud sefydliad yn effeithiol ac yn barod i ymateb, ac
yn ei alluogi i ennill ymddiriedaeth cyhoedd amrywiol ei natur.

2
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

Bydd y GPC yn plethu’r gwerthoedd a’r disgwyliadau hyn i’w waith datblygu a chynllunio.

C R Y N O D E B
Ni ddylai neb gael ei gau allan o’r GPC nac o’n gwasanaethau oherwydd eu rhyw, eu hil,
eu hethnigrwydd, eu credoau crefyddol, eu hanabledd na’u tueddfryd rhywiol.

Mae datblygiadau calonogol yn mynd rhagddynt mewn sawl maes ac mae’r gyfran o staff
lleiafrifoedd ethnig sydd yn y Gwasanaeth eisoes yn uwch na’r targed a osodwyd gan yr
Ysgrifennydd Cartref blaenorol (9.9%, o’i gymharu â tharged o 8.3%). Fodd bynnag, mae
yna broblemau. Er enghraifft, mae nifer y staff o dras Asiaidd yn llai nag y dylai fod ac mae
nifer y staff o bob lleiafrif ethnig y llwyddir i’w cadw yn is na nifer y bobl wyn.

G W E I T H R E D O L
Un enghraifft o’n llwyddiant yw’r gyfran dda o gadeiryddion ac aelodau’r byrddau prawf
lleol newydd sy’n dod o grwpiau ethnig lleiafrifol, ond mae nifer fach y rheolwyr o
leiafrifoedd ethnig yn gofyn am sylw yn ddi-oed. Hefyd, nid yw nifer y rheolwyr a’r prif
swyddogion sy’n fenywod yn adlewyrchu nifer y menywod sy’n gweithio gyda throseddwyr
yn y rheng flaen.

Byddwn yn parhau i roi sylw i gyflwyno gwasanaethau, yn enwedig monitro ethnig, fel y
gall y GPC fod yn dawel ei feddwl ei fod yn gwneud popeth sydd yn ei allu i sicrhau bod
gwasanaethau ar gael a’u bod yn ystyrlon i holl ystod y troseddwyr a’r dioddefwyr sy’n dod
i gysylltiad â’r Gwasanaeth. Un flaenoriaeth y bydd angen ei datblygu fydd ein hymateb i
anabledd.

Adeiladu sefydliad rhagorol


Bydd y Model Rhagoriaeth Ewropeaidd (MRhE) yn gyfrwng hunan-asesu empirig ac yn
dangos y ffordd tuag at yr hyn sy’n ofynnol. Bydd y GPC, ymhlith pethau eraill, yn
canolbwyntio ar wella sgiliau, cadw staff, cynllunio’r gweithlu, adolygu systemau cyflogau
a gwobrwyon a pholisïau recriwtio.

Bydd y systemau ariannol yn cael eu newid i gwrdd â gofynion y strwythurau newydd, i


ganiatáu ar gyfer trefniadau archwilio newydd ac i sefydlu prosesau busnes cyffredin.
Cydnabyddir bod gwybodaeth yn holl bwysig ym mhob un o weithgareddau’r GPC ac fe
ddatblygir strategaethau newydd ar gyfer rheoli gwybodaeth a TG fel sylfaen ar gyfer
systemau’r dyfodol.

Bydd strwythurau prawf cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, sy’n adlewyrchu’r ffiniau a rennir
gydag asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill a chyrff eraill, yn cael eu defnyddio er mwyn
sicrhau cydweithio strategol a darparu mecanweithiau ar gyfer cyfathrebu, ymgynghori a
datblygu polisïau.

Adeiladu fframwaith rheoli perfformiad effeithiol


Mae fframwaith rheoli perfformiad sydd wedi’i deilwrio’n arbennig drwy ddefnyddio sawl
elfen sydd wedi’u hymgorffori yn y Model Rhagoriaeth Ewropeaidd (MRhE) ac sy’n cwrdd
â gofynion y strategaeth Gwasanaethau o Ansawdd Gwell (GAG) wrthi’n cael ei lunio. Bydd
hyn o gymorth i sicrhau gwelliant parhaus ac yn cyfrannu at greu’r “economi gymysg” y
bydd ei hangen er mwyn gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd.

Bydd y fframwaith yn cynnig cymhelliant ariannol i wella perfformiad a chwrdd â’r targedau
y cytunwyd arnynt fel rhan o SR2000.

3
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

4
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

C A M A U
Camau Newydd:
Cyflwyniad

Nid oes y fath beth â throsedd heb ddioddefwyr. Bydd rhai troseddau’n effeithio ar unigolion

N E W Y D D :
penodol, ac eraill yn effeithio ar y cymunedau neu’r amgylchedd rydym yn byw ynddo.

Rhaid i staff y gwasanaeth prawf wneud i droseddwyr sylweddoli faint o niwed y maent
wedi ei achosi a pha effaith y mae eu troseddau’n ei gael ar fywydau ac ar les pobl eraill.
Byddant yn goruchwylio’n ofalus, ac yn asesu bob amser y risg o aildroseddu a’r perygl
posib. Trwy orfodi dedfrydau cymunedol a thrwyddedau ar ôl rhyddhau yn llym byddant yn
cael troseddwyr i ddeall bod yr ymddygiad hwn yn annerbyniol a bod cosb yn anochel.

C Y F L W Y N I A D
Ond rydym hefyd yn rhan o gymdeithas nad yw’n dymuno troi cefn ar bobl. Disgwylir i
waith y GPC felly ymgorffori’r ddwy agwedd hyn ar gyfiawnder, sef cosb briodol a chyfle i
newid ac adsefydlu.

Bydd cyflwyno’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol i gyfraith teulu yn Hydref 2000
yn ein hatgoffa o hyd bod gan ddioddefwyr a throseddwyr hawliau fel dinasyddion, sy’n
cynnwys cael eu trin yn deg ac yn ddyngarol.

Diffiniwyd arweinyddiaeth fel “y gallu i gymryd dynion a merched cyffredin a’u hysbrydoli
a’u galluogi i gyflawni pethau rhyfeddol iawn.”

Dyma’r her arweiniol y mae’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol newydd dros Loegr a
Chymru’n ei hwynebu yn awr. Ni welodd y Gwasanaeth erioed gymaint o newidiadau a
diwygiadau ag a gyflwynwyd yn sgil Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys
2000, ac mae’r targedau darparu gwasanaeth yn anelu’n uchel iawn. Mae’r portffolio Beth
sy’n Gweithio, sy’n cynnwys rhaglenni sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gweithio gyda
throseddwyr, yn torri tir newydd gan ei fod ar raddfa na welwyd ei thebyg o’r blaen ym
maes gwasanaethau cywiro, maes sy’n newid yn gyflym iawn.

Yr unig ffordd o gyflawni’r diwygiadau a’r canlyniadau hyn yw trwy sicrhau newid sylfaenol
yn y sefydliad. Mae’r ardaloedd prawf wedi dechrau’n dda yn barod a byddwn yn cydnabod
y llwyddiannau hyn ac yn adeiladu arnynt. Weithiau, fodd bynnag, byddaf yn arwain y
Gwasanaeth i gyfeiriad gwahanol i’r hyn y mae wedi bod yn anelu tuag ato’n draddodiadol,
er mwyn gallu darparu’r gwasanaethau hyn a sicrhau perfformiad penodol o safon.

Fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol, fy mhrif amcan strategol yw datblygu gallu’r GPC i gyflawni
blaenoriaethau a gofynion yr Ysgrifennydd Cartref. Mae’r ddogfen hon yn egluro
gweledigaeth y GPC ac yn nodi sut y bydd staff y gwasanaeth prawf, gyda’i gilydd, yn
ymgymryd â’r her hon.

Mae’n fframwaith strategol o safon sy’n defnyddio ‘amcanion ymestynnol’ er mwyn


pwysleisio beth y mae’n rhaid i’r Gwasanaeth ei newid a’i ddarparu a sut y bydd yn gwneud
hynny. Mae’r amcanion hyn yn dweud wrthym pa ran o’r sefydliad fydd yn cael ei ymestyn
yn ystod y tair blynedd nesaf. Ceisir rhoi cyfeiriad clir a phwrpas cyffredin i bob rhan o’r
GPC yn ystod blynyddoedd cynnar holl bwysig y broses o ad-drefnu. Bydd y fframwaith
strategol yn gweithredu fel canllaw ar gyfer cynllunio a buddsoddi ym mhob rhan o’r
sefydliad, a bydd fframwaith rheoli perfformiad yn dangos y gwasanaethau y disgwylir inni
eu darparu.

5
C Y F L W Y N I A D F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

Gan fod y GPC yn wasanaeth cyhoeddus, dylai ei waith fod yn hysbys ac yn ddealladwy i
gynifer o bobl ag sy’n bosib. Er mwyn bod yn effeithiol, mae angen i ni newid delwedd y
Gwasanaeth ac ennyn ymddiriedaeth a chefnogaeth y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu
ym mhob cwr o Loegr a Chymru. Cyhoeddi’r strategaeth integredig hon yw’r cam cyntaf
tuag at sicrhau bod y gwasanaeth yn fwy agored, yn fwy eglur ac yn fwy atebol i’r cyhoedd.
Rwy’n gobeithio y bydd yn helpu i sicrhau bod gan weinidogion y Llywodraeth a’r cyhoedd fwy
o hyder yn y Gwasanaeth yn y dyfodol.

Rwyf wedi rhoi’r teitl Camau Newydd i’r strategaeth er mwyn crynhoi a chyfleu hanfod y
rhaglen hon o newidiadau sylweddol.
N E W Y D D :

Mae’r strategaeth hefyd yn ddatganiad cyhoeddus o’n bwriad. Ein nod gyffredinol yw
sicrhau y bydd y GPC:

• erbyn 2004 wedi sefydlu ei hun fel arweinydd byd o ran cynllunio a gweithredu
rhaglenni i asesu a goruchwylio troseddwyr, rhaglenni sy’n llwyddo i ostwng lefelau
aildroseddu a gwella diogelwch y cyhoedd; ac
C A M A U

• erbyn 2006, wedi gallu dangos y lefelau rhagoriaeth o fewn y sefydliad a fydd yn ennyn
cydnabyddiaeth iddo fel gwasanaeth cyhoeddus sydd ar y brig.

Bwriadwn sicrhau bod gan ein cymdeithas asiantaeth sancsiynau cymunedol gredadwy er
mwyn rheoli troseddwyr, boed oedolion neu droseddwyr ifanc, ac ymyrryd mewn modd sy’n
ein galluogi i leihau’r tebygolrwydd y byddant yn aildroseddu ac i’w gwneud yn llai peryglus.

Yr unig ffordd o wneud hyn, fodd bynnag, yw trwy weithredu mewn partneriaeth gyda’n
cymunedau, a chwilio gyda’n gilydd, ar sail tystiolaeth, am ffyrdd mwy effeithiol o wneud
ein cymunedau’n fwy diogel trwy atal a lleihau troseddu.

EITHNE WALLIS
Cyfarwyddwr Cenedlaethol y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
dros Loegr a Chymru

6
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

G W E L E D I G A E T H
Gweledigaeth a Fframwaith Moesol
y GPC

Canolbwynt ein gweledigaeth yw cymdeithas sydd â llai o ddioddefwyr newydd ac sy’n


cynnig gwell amddiffyniad i’r rhai sydd eisoes wedi dioddef o ganlyniad i drosedd gan
sicrhau, trwy waith y GPC, na fyddant yn dioddef eto. Bydd dioddefwyr sydd mewn cysylltiad
uniongyrchol â staff y gwasanaeth prawf yn teimlo bod rhywun wedi gwrando arnynt, bod
y niwed a wnaethpwyd iddynt wedi ei gydnabod, a’u bod wedi cael gwybodaeth briodol a
chyfle i brofi cyfiawnder.

A
Yn y weledigaeth hon, bydd cymunedau’n ddiogelach, ac ni fydd troseddu ac ofn troseddau

F F R A M W A I T H
wedi eu creithio i’r fath raddau gan fod y GPC yn darparu rhaglenni ar gyfer gweithio gyda
throseddwyr a fydd yn llwyddo i leihau aildroseddu ac yn amddiffyn y cyhoedd. Bydd y
Gyfarwyddiaeth Genedlaethol, ac ardaloedd a rhanbarthau prawf, yn gweithio gyda’i
gilydd fel tîm cenedlaethol cryf i sicrhau’r adnoddau a datblygu’r rhaglenni a’r isadeiledd
sydd ei angen er mwyn eu darparu. Bydd y ffordd y mae’r gwasanaeth yn cael ei drefnu’n
lleol yn seiliedig ar y proffil o droseddu a throseddwyr, yn ogystal â’r ffyrdd gorau o
ddarparu gwasanaeth yn yr ardal dan sylw.

Bydd byrddau ardaloedd prawf yn sicrhau bod y trefniadau’n gydnaws â gofynion y fforwm
diogelwch cymunedol, a thrwy hyn yn uniaethu o ddifri â phryderon a blaenoriaethau lleol.
Bydd hyder yn y GPC yn cynyddu gan fod pobl leol, lle bynnag y bo modd, yn ymwneud

M O E S O L
â’r gwaith o bennu a darparu gwasanaethau ymarferol. Bydd y GPC, yn ei dro, yn fwy
effeithiol oherwydd y bydd cymunedau’n gweithio’n gadarnhaol gyda staff y gwasanaeth
prawf, gan chwarae mwy o ran yn y gwaith o atal a lleihau troseddu yn eu hardaloedd, yn
ogystal â disgwyl cael eu hamddiffyn rhag troseddau. Bydd hyn hefyd yn golygu bod y
cymunedau hyn yn gyfrifol am gwrdd â’r gofynion sy’n gysylltiedig ag adsefydlu
troseddwyr a’u derbyn yn ôl i’r gymuned yn unol â’r telerau a bennwyd gan y gorchmynion
llys neu’r trwyddedau statudol.

Y
G P C
Mae’r weledigaeth yn seiliedig ar gysyniad o roi cosb briodol i droseddwyr, sef y gosb a
bennwyd yn y gorchymyn llys neu’r drwydded – dim mwy, dim llai. Ni fydd staff y
gwasanaeth prawf yn lleihau’r gosb nac yn gosod troseddwyr yn agored i unrhyw driniaeth
ddiraddiol sy’n seiliedig ar eu credoau personol hwy. Bydd y GPC yn parchu pob troseddwr
y mae’n gyfrifol am ei oruchwylio ac yn sicrhau bod pob un yn cael ei drin yn gyfartal,
mewn modd dyngarol.

Y llys hefyd fydd yn pennu graddau a natur yr anghymhwyster, gan eu hegluro’n fanwl yn
y telerau rhyddhau yn gynnar o’r ddalfa neu trwy benderfyniadau rhyngasiantaethol dan
drefniadau lleol a sefydlwyd ar gyfer asesu a rheoli troseddwyr peryglus ar y cyd. Bydd
ymyrraeth y GPC ym mywydau troseddwyr a’r adnoddau a dargedir yn dibynnu ar
ddifrifoldeb y drosedd, yr asesiad proffesiynol o risg a pherygl i bobl eraill a’r gofynion sy’n
ymwneud ag amddiffyn y cyhoedd/dioddefwr.

Dan oruchwyliaeth y GPC, bydd y troseddwyr a’r cyhoedd yn ‘gwybod’ eu bod wedi cael eu
cosbi trwy’r amser y mae’n rhaid iddynt ei dreulio, a natur y gwaith a’r ymddygiad a ddisgwylir
ganddynt, a chan fod cydymffurfiant wedi ei sicrhau neu gamau tor-amod wedi eu cymryd.

Dan oruchwyliaeth y GPC, bydd y troseddwyr a’r cyhoedd hefyd yn ‘gwybod’ eu bod wedi
cael cyfle gwirioneddol i newid a chael eu hadfer, gan eu bod wedi cael cyfle i ddilyn
rhaglenni sy’n seiliedig ar dystiolaeth o lwyddiant blaenorol.

7
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

Yn dilyn gwersi a ddysgwyd o ymchwiliad Stephen Lawrence, mae’r GPC hefyd yn awyddus
G P C

i weld cymdeithas lle bydd y gyfraith yn cael ei gweinyddu’n deg ac yn gyfartal i ac ar ran
pob rhan o’n cymunedau, a bydd y Gwasanaeth yn sicrhau hyn yn ei waith gyda
throseddwyr a dioddefwyr.
Y

Mae blaenoriaethau a thargedau’r Ysgrifennydd Cartref yn cysylltu’r GPC yn uniongyrchol


M O E S O L

â phob agwedd ar y weledigaeth hon trwy’r gwaith y disgwylir i’r Gwasanaeth ei gyflawni.

Elfen olaf y weledigaeth felly yw datblygu sefydliad rhagorol, sydd wedi ei gynllunio a’i ad-
drefnu ym mhob ffordd er mwyn sicrhau bod ganddo’r cyfle gorau i lwyddo; gyda staff
brwdfrydig, sydd â sgiliau da, sy’n darparu’r gwasanaethau hyn ac yn mwynhau’r
gydnabyddiaeth a’r gwobrau a ddaw yn sgil gwneud y gwahaniaeth hwn.
F F R A M W A I T H

Rydym yn awyddus i ddelwedd y Gwasanaeth fod yn un o ‘wasanaeth proffesiynol sy’n


cadw llygad barcud’, yn dreiddgar a manwl:

• wrth oruchwylio troseddwyr;

• wrth gasglu gwybodaeth a dadansoddi’r ymchwil a’r dystiolaeth arfarnu, ac wrth


gynllunio a darparu rhaglenni blaengar ar gyfer troseddwyr; ac

• yn ein harferion o fewn y sefydliad – buddsoddi yn ein hadnoddau dynol a’n hisadeiledd
cefnogi; bob amser yn chwilio am fantais fasnachol fel bod staff a rhaglenni rhagorol yn
A

cyfuno â phrosesau blaengar, a’r cyhoedd yn cael cymaint ag sy’n bosib yn ôl o’u buddsoddiad.
G W E L E D I G A E T H

Mae gwerthoedd y GPC yn llifo’n naturiol o’r weledigaeth hon:

• Sylweddoli gwerth staff y GPC a chydweithwyr sy’n rhan o’r bartneriaeth – eu


gweld fel prif gaffaeliad y sefydliad.

• Cydymdeimlad â dioddefwyr ac ymwybyddiaeth ohonynt yn ganolog.

• Amddiffyn y cyhoedd o’r pwys mwyaf yn enwedig lle gwyddys am bobl benodol
sydd wedi dioddef trais rhywiol a throseddau treisgar eraill.

• Gorfodi’r gyfraith, gan gymryd camau cadarnhaol er mwyn sicrhau cydymffurfiant


ond, lle bo hyn yn methu, gweithredu’n gyflym er mwyn dechrau achosion tor-amod
neu alw troseddwr yn ôl i’r ddalfa.

• Adsefydlu troseddwyr, gan weithio’n gadarnhaol er mwyn eu hadfer.

• Empiriaeth, gan seilio’r holl waith sy’n cael ei wneud gyda throseddwyr a dioddefwyr
ar dystiolaeth ‘Beth sy’n Gweithio’ – defnyddio’r un egwyddorion hefyd wrth gynllunio
ac ad-drefnu’r Gwasanaeth.

• Gwelliant parhaus, gan geisio rhagoriaeth bob amser.

• Bod yn agored ac yn eglur ym mhob agwedd ar ddarparu gwasanaeth ac yng


ngwaith mewnol y GPC.

• Ymateb a dysgu gweithio’n gadarnhaol gyda gwahaniaeth er mwyn


gwerthfawrogi a sicrhau amrywiaeth.

• Datrys problemau fel ffordd o oresgyn gwrthdaro a ‘chyflawni’.

• Partneriaeth, gan ddefnyddio dull sy’n dibynnu llawer ar gydweithredu er mwyn


helpu’r GPC i sicrhau’r canlyniadau disgwyliedig trwy ychwanegu gwerth.

• Gwasanaethau o Ansawdd Gwell, fel bod y cyhoedd yn cael gwasanaethau effeithiol


am y pris gorau.

8
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

A M C A N
AMCAN YMESTYNNOL I
Asesu a rheoli risg a pherygl yn fwy
cywir ac effeithiol

I
1. GOFYNION STRATEGOL
Bydd y niwed y mae pob un o’r 200,000 o droseddwyr wedi ei achosi yn amrywio gan
ddibynnu ar y drosedd a’i heffaith ar bobl. Nid yw’r rhan fwyaf o droseddau’n dreisgar a
chawn brofiad anuniongyrchol ohonynt trwy droseddau yn ymwneud â siopau a
fandaliaeth, neu’n uniongyrchol o ganlyniad i golli eiddo personol neu ddifrod iddo. Mae
troseddau treisgar, gan gynnwys trais rhywiol, yn llawer llai cyffredin ond mae’r niwed a
achosir i’r dioddefwyr hyn yn niwed corfforol a seicolegol, ac mae’r effaith y mae’r niwed
yn ei gael yn gyffredinol yn para am byth.

Er mwyn bod yn effeithiol, rhaid i staff y gwasanaeth prawf felly allu


gwahaniaethu rhwng troseddwyr unigol, eu troseddau a’u dioddefwyr er mwyn
cymryd y camau sy’n angenrheidiol i amddiffyn y cyhoedd yn well ac er mwyn
sicrhau bod troseddwyr yn dilyn y rhaglenni sydd fwyaf tebygol o’u rhwystro rhag
troseddu eto.

Rhaid sicrhau bod gan bob adroddiad prawf ac achos goruchwylio broffil unigryw ar gyfer
y troseddwr, yn seiliedig ar asesiadau actiwaraidd a dynamig o risg ac anghenion, a bod y
proffil hwn yn cael ei sefydlu fel sylfaen ar gyfer pob penderfyniad rheoli achos.

Gall y Gwasanaeth Prawf ymfalchïo yn y datblygiadau sylweddol y mae wedi eu sicrhau i’r
perwyl hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond rhaid i’r GPC ddal i ddatblygu ei allu i
ganfod yn fwy cywir y troseddwyr peryclaf. Rhaid i’r broses ganfod hon hefyd fynd law yn
llaw â threfniadau pendant a dibynadwy rhwng gwahanol asiantaethau ar gyfer arolygu/
goruchwylio a chadw rheolaeth gyffredinol arnynt, er mwyn amddiffyn dioddefwyr posibl.
Bydd hyn hefyd yn golygu sicrhau bod modd trosglwyddo’r troseddwr yn gyflym ac yn ddiogel
i ardaloedd eraill pan fo angen er mwyn amddiffyn dioddefwyr penodol neu’r troseddwr.

Yn dilyn trychineb marwolaeth Sarah Payne, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref becyn o


fesurau ym Medi 2000 er mwyn amddiffyn plant yn well a darparu gwell gwybodaeth i’r
cyhoedd ynghylch rheoli troseddwyr rhyw a throseddwyr treisgar eraill yn y gymuned.
Mae’r rhain wedi eu cyflwyno trwy adran 69 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau
Llys 2000. Mae bellach yn ofynnol i’r GPC weithio mewn cysylltiad agos â’r heddlu, sy’n
rhannu nifer o’r dyletswyddau hyn gyda’r gwasanaeth prawf, a chymryd camau er mwyn
gweithredu gofynion penodol Deddf Sarah ac, yn fwy cyffredinol, weithio yn naws y
Ddeddf hon.

1.1: Gwell asesiad o risg/perygl ac anghenion troseddwyr


OASys yw’r prosiect a weithredir ar y cyd gan y gwasanaeth prawf a’r gwasanaeth
carchardai er mwyn datblygu trefniadau asesu troseddwyr. Mae’n elfen bwysig mewn
ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn un o’r prif feysydd lle mae’r ddau wasanaeth yn
gweithio gyda’i gilydd. Mae’n darparu fframwaith cyffredin er mwyn asesu troseddwyr a
dod o hyd i ymyriadau priodol ar eu cyfer. Bydd y cyfrwng holl bwysig hwn yn helpu
ymarferwyr i wneud penderfyniadau cadarn y gellir eu hamddiffyn ynghylch risg ac
anghenion troseddwyr er mwyn gallu gweithredu mewn modd priodol. Mae’n mesur newid

9
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

dros gyfnod o amser ac yn ein galluogi i asesu effaith ein gwaith gyda throseddwyr. Bydd
I

hefyd yn rhoi i’r ddau wasanaeth un o’r cronfeydd data mwyaf cynhwysfawr yn y byd o
A M C A N

safbwynt proffiliau troseddwyr. Gydag amser, bydd hyn yn ychwanegu at ein gwybodaeth
a’n gallu i gynllunio’r rhaglenni priodol, eu darparu a’u targedu mewn ffyrdd a fydd yn cael
yr effaith fwyaf ar aildroseddu ac amddiffyn y cyhoedd, yn ogystal â gwella cost-
effeithlonrwydd cyffredinol y GPC.

Mae’r gwaith o ddatblygu’r OASys wedi ei gwblhau. Newidiwyd llawer ar y cyfrwng


gwreiddiol o ganlyniad i dystiolaeth o’r cynlluniau peilot cychwynnol lle defnyddiwyd
OASys 2,000 o weithiau, a chynhyrchwyd dau fersiwn – patrwm byr i’w ddefnyddio wrth
baratoi adroddiadau a fersiwn hwy a fyddai’n addas i ddibenion goruchwyliaeth barhaus.
Cynhaliwyd cynlluniau peilot ar gyfer y cyfryngau diwygiedig hyn mewn chwe ardal brawf
ac 17 carchar rhwng Medi a Rhagfyr 2000 a defnyddiwyd y canlyniadau i baratoi achos
busnes llawn. Erbyn hyn mae’r ddau wasanaeth wedi ymrwymo i’w weithredu.

Y dyddiad a bennwyd ar gyfer dechrau cyflwyno system bapur yn y GPC yw Medi 2001, a
bydd yn cael ei chefnogi gan fersiwn TG yn 2002. Bydd OASys yn cael ei ddefnyddio ym
mhob un o’r 42 ardal brawf yn 2002/3.

Roedd y cytundeb SR2000 yn darparu £637,000 dros gyfnod o dair blynedd o 2001-4 ar
gyfer costau datblygu a chynnal gwasanaethau ar y cyd. Yn ychwanegol at hyn, bydd £2.5
miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y gwaith o hyfforddi staff y gwasanaeth prawf ac £20
miliwn ar gyfer yr amser staff ychwanegol wrth ei ddefnyddio, yn ystod yr un cyfnod.

Ni all unrhyw system unigol asesu’n fanwl holl wahanol ymddygiadau ac anghenion
troseddwyr. Mae systemau arbenigol er mwyn asesu anghenion a risg mwy penodol fel
troseddau rhyw neu fathau eraill o drais, naill ai ar gael neu yn cael eu datblygu. Bydd
OASys yn arwain at yr asesiadau ychwanegol hyn mewn achosion priodol.

Targed cyffredinol y GPC yn y maes ymestynnol hwn yw y dylai asesu risg a


pherygl ac anghenion troseddwyr, fod yn digwydd ym mhob adroddiad sy’n cael ei
baratoi, ac ym mhob achos sy’n cael ei oruchwylio, erbyn 2003.

Mae’n hanfodol bod pob un o’r 42 ardal brawf yn defnyddio’r un dosbarthiadau o risg a
pherygl a bod y dosbarthiadau hyn yn cael eu datblygu ar y cyd â’r gwasanaeth carchardai
a’r heddlu. Bydd hyn yn golygu bod modd canfod y troseddwyr mwyaf peryglus yn well a
bod modd i wasanaethau ac ardaloedd gyfathrebu â’i gilydd yn fwy effeithiol. Mae’n
bwysig iawn bod pob asiantaeth cyfiawnder troseddol, ynghyd â phartneriaid allweddol yn
y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol (a dedfrydwyr) yn ymwybodol o’r datblygiadau
hyn ac yn gysylltiedig â hwy. Bydd y GPC yn chwarae rhan arweiniol yn y fenter hon, gan
fuddsoddi ei adnoddau gyda’r bwriad o sicrhau gwelliannau sylweddol mewn cyd-
ddealltwriaeth a mwy o gysondeb mewn ymarfer ym mhob rhan o’r system gyfiawnder
troseddol erbyn 2004. Un o’r llwyddiannau cynnar yw’r cytundeb rhwng y GPC, yr heddlu
a’r carchardai i ddefnyddio cyfrwng asesu cyffredin ar gyfer troseddwyr rhyw. Mae’r
hyfforddiant cenedlaethol wedi dechrau a bydd wedi ei gwblhau ymhen 18 mis.

1.2: Gwell rheolaeth a goruchwyliaeth ar gyfer troseddwyr a


allai fod yn beryglus yn y gymuned
Mae’r gwasanaeth prawf a’r heddlu wedi bod yn cynnal trafodaethau er mwyn ailarfarnu’r
trefniadau presennol a gweithredu’r gwelliannau a ddisgwylir yn sgil Deddf Sarah a
gyflwynwyd trwy adrannau yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000, a
ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2001. Mae’r darpariaethau sydd yn y Ddeddf yn cynnwys:

10
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

A M C A N
• rhoi dyletswydd statudol newydd bwysig i’r gwasanaeth prawf a’r heddlu ar y cyd a
fydd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt sefydlu trefniadau (h.y. Panelau Amddiffyn y
Cyhoedd Aml-asiantaeth (PACAu)) er mwyn asesu a rheoli’r risg sy’n gysylltiedig â phob
troseddwr rhyw a throseddwyr peryglus eraill sydd yn y gymuned yn barod neu sydd ar
fin cael eu rhyddhau. Mae darpariaeth o’r fath yn bodoli’n barod ym mhob un o’r 42
ardal, ond bod y dulliau gweithredu a’u heffeithiolrwydd yn amrywio, a’r nod yn awr

I
yw sicrhau bod y polisïau, y trefniadau a’r safonau yn gyson drwy’r wlad, ar sail y
dystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio orau.

• cyfuno hyn â hawl i’r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi canllawiau yn ymwneud â’r
trefniadau hyn, a sicrhau bod y trefniadau’n agored i gymunedau.

• rhoi caniatâd i’r GPC ddal ati i weithio gyda throseddwyr a allai fod yn beryglus, hyd yn
oed ar ôl i gyfnod eu goruchwyliaeth/trwydded statudol ddod i ben, a sicrhau bod
hosteli prawf cymeradwyedig ar gael er mwyn eu rheoli a’u goruchwylio.

• cyflwyno trefniadau tagio newydd. Mae’r Ddeddf yn creu gorchymyn cau allan newydd,
a fydd yn seiliedig ar drefniadau arolygu electronig, ac a fydd yn mynnu bod troseddwr
yn cadw draw o rai llefydd ar adegau penodol. Bydd y Ddeddf hefyd yn sicrhau bod modd
defnyddio tagiau electronig i arolygu llawer o wahanol orchmynion goruchwyliaeth
gymunedol, a bod modd gwneud defnydd helaethach o arolygu electronig fel un o
amodau trwydded pan fydd troseddwr yn cael ei ryddhau o garchar yn gynnar.

Rhoddodd Deddf Troseddau ac Anhrefn 1998 hawl i lysoedd roi dedfrydau estynedig i
droseddwyr sydd wedi cyflawni troseddau rhywiol a threisgar difrifol, sy’n golygu y gallant
wynebu cyfnod estynedig o oruchwyliaeth gan y GPC ar ôl cael eu rhyddhau, cyfnod o hyd
at 10 mlynedd yn achos troseddwyr rhyw a 5 mlynedd yn achos troseddwyr treisgar. Mae
hyn yn ychwanegol at eu telerau carcharu cyfredol a goruchwyliaeth ar ôl cael eu rhyddhau
dan ddarpariaethau Deddf Cyfiawnder Troseddol 1991.

Mae Deddf Troseddau (Dedfrydau) 1997 yn ei gwneud yn ofynnol i’r llysoedd roi dedfryd
orfodol o garchar am oes i droseddwyr sydd dros 18 oed os ydynt wedi cyflawni ail drosedd
ddifrifol a hwythau eisoes wedi eu cael yn euog o gyflawni trosedd ddifrifol arall yn y
Deyrnas Unedig.

Cyhoeddodd y Llywodraeth hefyd gynlluniau i ddiwygio’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn Awst


1999 er mwyn sicrhau ei bod yn adlewyrchu ac yn cefnogi dulliau modern o ddarparu
triniaeth a gofal yn ogystal â sicrhau bod diogelwch y cyhoedd a gofalu am gleifion yn cael
eu hystyried ochr yn ochr fel agweddau allweddol.

Cyhoeddwyd cynlluniau eraill hefyd yn ymwneud â phobl sy’n beryglus ac sydd ag


anhwylder personoliaeth difrifol. Bwriad y rhain yw sicrhau na fydd y rhai sy’n cael eu
hasesu fel pobl beryglus o ganlyniad i anhwylder personoliaeth difrifol yn cael eu rhyddhau
hyd nes y bo’n ddiogel i wneud hynny. Cafwyd cefnogaeth gref i’r cynlluniau hyn gan y
Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref ac mae cynlluniau peilot yn cael eu cynnal yn awr mewn
nifer o garchardai.

Mae’r newidiadau deddfwriaethol hyn, gyda’i gilydd, yn golygu cynnydd sylweddol yng
nghyfrifoldebau’r GPC yng nghyswllt rheoli’r troseddwyr mwyaf difrifol a pheryglus o bosib
yn y gymuned. Yr unig ffordd o sicrhau eu bod yn cael eu rheoli a’u hadsefydlu’n ddiogel
yw trwy gael lefelau newydd o gydweithredu a chydweithio rhwng y gwasanaeth prawf, y
gwasanaeth carchardai, yr heddlu a darparwyr lleol ym maes tai, gwasanaethau
cymdeithasol a gofal iechyd yn fwyaf arbennig. Rhaid sefydlu mwy o drefniadau
rhanbarthol a chenedlaethol hefyd fel bod modd trosglwyddo a chyfnewid troseddwyr o’r

11
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

fath yn ddiogel a sicrhau cyfrifoldebau goruchwylio pan fo angen. Disgwylir i fyrddau


I

prawf lleol gydweithio llawer iawn, gan dderbyn arweiniad yr Uned Troseddwyr Peryglus yn
A M C A N

y Gyfarwyddiaeth Genedlaethol, a rhannu cyfrifoldeb oddi mewn i fframwaith sy’n cynnig


mwy o arolygiaeth a chyfeiriad ar lefel genedlaethol. Dyma un o nifer o feysydd gwaith lle
gwneir defnydd cadarnhaol o’r fframwaith cenedlaethol newydd ar gyfer y gwasanaeth
prawf er mwyn sicrhau mwy o ddiogelwch yn y gymuned.

Bydd Grwp Llywio Troseddwyr Peryglus yr Uned Brawf yn cael ei adolygu yn 2001 a bydd
penderfyniadau’n cael eu gwneud gydag asiantaethau eraill (e.e. yr heddlu a charchardai) ac
adrannau’r Swyddfa Gartref (e.e. yr Uned Iechyd Meddwl) ynghylch y math o drefniadau
sydd eu hangen yn y canol er mwyn cefnogi gwaith y gwasanaethau gweithredol.

Yn ystod cyfnod y fframwaith strategol hwn bydd y GPC yn targedu’r meysydd


canlynol ar gyfer gwelliant penodol:

• Bydd trefniadau rhyngasiantaethol lleol pob un o’r 42 ardal ar gyfer asesu a rheoli
troseddwyr a allai fod yn beryglus yn cael eu hailarfarnu ar sail safonau a bennwyd yn
2001. Disgwylir i bob un gymryd camau i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau hyn. Yr
amcan yw sefydlu strategaeth rheoli risg a fydd yn gwbl effeithiol ac yn gyson drwy’r wlad.

• Bydd pob un o’r 42 ardal yn cyhoeddi manylion trefniadau o’r fath yn unol â chyfarwyddyd
yr Ysgrifennydd Cartref yn 2002.

• Bydd y trefniadau presennol ar gyfer rhoi gwybod i’r Gyfarwyddiaeth Genedlaethol am


ddigwyddiadau difrifol yn cael eu hadolygu yn 2001, yna bydd canllawiau newydd yn
cael eu darparu i nodi sut y dylid gwneud adolygiadau rheoli lleol. Bydd hyn yn cyfuno
â tharged i sicrhau erbyn 2004 nad oes unrhyw ddigwyddiadau difrifol lle gwelir bod y
GPC wedi gwneud penderfyniadau na ellir eu hamddiffyn wrth reoli ei achosion.

• Nodi’r meysydd hynny lle mae protocolau yn ymwneud â lleoli troseddwyr a allai fod yn
beryglus wedi eu trafod yn effeithiol gyda darparwyr lleol a phennu targed er mwyn i’r
42 bwrdd ardal allu gwneud yr un peth erbyn 2002.

• Ehangu’r defnydd o gyrffyw sy’n cael ei orfodi trwy arolygu electronig fel dedfryd a
roddir gan y llysoedd neu fel amod wrth ryddhau o garchar.

• Ymestyn galluoedd sector hosteli cymeradwyedig y GPC.

• Defnydd mwy corfforaethol o’r ddarpariaeth yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Mae 100 o hosteli prawf a mechnïaeth cymeradwyedig yn Lloegr a Chymru ar hyn o bryd,
13 ohonynt yn cael eu rheoli gan fudiadau sector gwirfoddol ac 87 gan y gwasanaethau
prawf. Mae cyfanswm y gwelyau sydd ar gael ar hyn o bryd yn 2,257. Mae’r Trysorlys wedi
cymeradwyo adeiladu 5/6 o hosteli newydd erbyn 2004, pob un yn darparu rhwng 20 a 25 o
lefydd mewn ardaloedd lle na cheir llawer o ddarpariaeth, os o gwbl, ar hyn o bryd. Mae patrwm
o drefniadau hostel yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth hon
yn ategu ac yn cefnogi rhaglenni ymddygiad tramgwyddus ac ailintegreiddio yn y gymuned.

Sefydlwyd fforymau hosteli rhanbarthol y gwasanaethau prawf/carchardai ar ddechrau


2000. Bwriad y rhain yw sicrhau bod yr angen am fwy o hosteli cymeradwyedig yn cael ei
ystyried gyda’r Gwasanaeth Carchardai a gweld i ba raddau y gellir eu darparu ar y cyd. Un
enghraifft o’r fath yw prosiect adsefydlu Wakefield, a fydd yn hostel brawf gymeradwyedig.
Mae’n eiddo i’r Gwasanaeth Carchardai ond bydd yn cael ei ariannu a’i reoli ar y cyd gan
y ddau Wasanaeth.

12
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

Mae’r GPC yn bwriadu ehangu rôl y fforymau rhanbarthol hyn o’r ffocws cyfyng ar eiddo

A M C A N
i rôl fwy strategol. Bydd rheolwyr rhanbarthol newydd y GPC yn chwarae rhan arweiniol yn
y gwaith o ddatblygu eu gallu i ddefnyddio strategaethau llety rhanbarthol yn ymwneud â
hosteli cymeradwyedig a darparwyr eraill. Bydd y manteision yn cynnwys:

• Defnydd mwy hyblyg o’r sector cymeradwyedig er mwyn sicrhau llety priodol i
droseddwyr peryglus.

I
• Datblygu tai symud ymlaen a thai cefnogi ar gyfer troseddwyr risg uchel mewn modd
mwy effeithiol. Byddwn yn ceisio sicrhau bod y cyfrifoldeb am dai cefnogi’n cael ei
drosglwyddo’n effeithiol i awdurdodau lleol dan y rhaglen Cefnogi Pobl fel bod modd
inni barhau i ganolbwyntio’n briodol ar amddiffyn y cyhoedd. Dylai gwella’r trefniadau
hyn sy’n croesi ffiniau ein galluogi, gyda’n gilydd, i sicrhau cynnydd cyffredinol yn nifer
y llefydd aros addas.

Bu’r gwasanaeth prawf yn ymwneud â’r gwaith o adolygu parôl. Mae cydweithio agos â’r
Bwrdd Parôl er mwyn sicrhau bod amodau trwyddedau yn gydnaws â’r asesiad o risg a
pherygl ac anghenion troseddwyr, yn bwysig iawn o safbwynt effeithiolrwydd y GPC. Gall
amodau sy’n cael eu pennu’n ofalus helpu’r swyddog goruchwylio i reoli’r gwaith o
gyflwyno troseddwyr yn ôl i’r gymuned yn ddiogel a’u goruchwylio ar ôl hynny. Disgwylir i
fyrddau ardaloedd prawf sicrhau bod adroddiadau asesu parôl yn cael eu cyflwyno’n
gyflym a’u bod o ansawdd da er mwyn iddynt gyfrannu tuag at effeithlonrwydd ac
effeithiolrwydd eu Gwasanaeth eu hunain a’r Bwrdd Parôl ei hun. Mae’r bartneriaeth hon
wedi cyflawni llawer yn barod, ond rhaid cadw’r safonau perfformio uchel hyn er mwyn
sicrhau mwy o welliannau lle bo hynny’n bosib.

13
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

14
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

A M C A N
AMCAN YMESTYNNOL II
Rhoi mwy o gyswllt a rhan yn y
broses i ddioddefwyr troseddau rhyw

I I
a throseddau treisgar eraill

2. GOFYNION STRATEGOL
Cyn 1 Ebrill 2001 roedd gwaith y Gwasanaeth Prawf o gysylltu â dioddefwyr yn cael ei
arwain gan Siarter y Dioddefwr 1990 a 1996, Cylchlythyr y Gwasanaeth Prawf 61/95 a’r
Safonau Cenedlaethol ar gyfer Goruchwylio Troseddwyr yn y Gymuned. Gellid rhannu’r
cyfrifoldeb i ddwy ran.

• Yn gyntaf, darparu gwybodaeth am y broses o ryddhau o garchar i ddioddefwyr (a/neu


deulu dioddefwr/dioddefwyr) y troseddau rhywiol a threisgar mwyaf difrifol.

• Yn ail, clywed yn uniongyrchol gan y dioddefwr/dioddefwyr am y trosedd a’i effaith a


rhoi ystyriaeth i hyn mewn unrhyw asesiad o risg a pherygl yn y dyfodol ac wrth
gynllunio i ryddhau troseddwyr.

Yn Ionawr 2000 cyhoeddodd Arolygiaeth Prawf ei Mawrhydi adroddiad archwilio thematig


dan y teitl ‘Ensuring the Victim Matters.’ Roedd hwn, ar y cyfan, yn adroddiad cadarnhaol
a oedd yn cydnabod bod y gwasanaeth wedi bod yn cysylltu â dioddefwyr yn y categorïau
lle disgwylid hynny yn y rhan fwyaf o’r ardaloedd. Roedd yn cydnabod sensitifrwydd a
chymhlethdod y maes gwaith newydd hwn ac yn talu teyrnged yn aml i’r safonau a’r
rhagoriaeth a amlygid gan rai staff mewn rhai ardaloedd. Roedd yr adroddiad hefyd, fodd
bynnag, yn dangos bod llawer iawn o waith datblygu i’w wneud eto o ran gweithio gyda
dioddefwyr a bod y gwasanaethau a ddarperid mewn gwahanol rannau o’r wlad yn anghyson.

Mae cydnabod manteision gweithio gyda dioddefwyr, o safbwynt y rhai y troseddwyd yn


eu herbyn, wedi arwain at greu dyletswydd statudol newydd i gysylltu â dioddefwyr, yn
Adran 69 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000. Dan y Ddeddf, o 1 Ebrill
2001 ymlaen, mae’n ddyletswydd statudol ar fyrddau prawf lleol i gysylltu â dioddefwyr a’u
hysbysu ynghylch y trefniadau ar gyfer rhyddhau pob troseddwr a gafwyd yn euog o
drosedd rywiol neu dreisgar a arweiniodd at ddedfryd o garchar am 12 mis neu fwy. Mae’r
ddyletswydd statudol newydd yn welliant sylweddol ar y trefniadau blaenorol (anstatudol).
Dyma’r fframwaith deddfwriaethol cyntaf ar gyfer gweithio gyda dioddefwyr ac o ganlyniad
mae’n gam pwysig tuag at sicrhau bod buddiannau dioddefwyr yn cael eu hystyried yn
bwysig o fewn y broses gyfiawnder troseddol.

Mae Cylchlythyr y Gwasanaeth Prawf 62/2001, a gyhoeddwyd yn Ebrill 2001, yn darparu


cyfarwyddyd i ardaloedd ynghylch gweithredu eu dyletswyddau statudol dan Adran 69
a’r ymarfer gorau wrth weithio gyda dioddefwyr yng ngoleuni adroddiad Arolygiaeth
ei Mawrhydi ‘Ensuring the Victim Matters.’ Mae’n gosod fframwaith ar gyfer darparu
gwasanaeth o safon uwch mewn gwaith cysylltu â dioddefwyr trwy sicrhau bod dull
gweithredu mwy effeithiol a chyson yn cael ei ddatblygu trwy’r Gwasanaeth Prawf
Cenedlaethol yn ei gyfanrwydd yng nghyswllt dioddefwyr troseddau difrifol. Mae’r
cyfarwyddyd yn garreg filltir bwysig i waith cysylltu â dioddefwyr, ac yn dangos sut y mae
mwy o flaenoriaeth yn cael ei rhoi i rôl dioddefwyr yn y broses gyfiawnder troseddol, a bydd
y gofyniad hwn yn cael ei adlewyrchu yng ngwaith y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol.

15
I I F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

Bydd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol ac Ardaloedd Lleol yn gweithio mewn cysylltiad


agos â’i gilydd er mwyn datblygu’r rhaglen newidiadau bwysig hon. Mae defnyddio
A M C A N

adnoddau’n effeithiol a hyfforddi staff i allu gweithredu yn unol â’r trefniadau newydd,
ynghyd ag arolygu perfformiad, yn hanfodol i lwyddiant y newidiadau hyn.

Rhaid deall, wrth gwrs, na ellir ymyrryd fel hyn onid oes modd gwybod pwy yn union yw’r
dioddefwr/dioddefwyr, cysylltu â hwy a chael eu caniatâd i wneud y gwaith hwn. Ni ellir
gorfodi hyn, ac ni fydd yn cael ei orfodi ar unrhyw ddioddefwyr na’u teuluoedd.

2.1: Cyfraith Sarah (h.y. Adran 69 yn Neddf Cyfiawnder Troseddol


a Gwasanaethau Llys 2000)
Mae Cyfraith Sarah wedi gwneud cysylltu fel hyn yn ddyletswydd statudol ar y
GPC ac wedi nodi hefyd y dylai’r gwasanaeth ofyn i ddioddefwyr neu eu teuluoedd
a fyddent yn dymuno i’r gwasanaeth prawf gysylltu â hwy ynghylch y trefniadau
ar gyfer rhyddhau troseddwyr rhyw a throseddwyr treisgar eraill a ddedfrydwyd i
ddeuddeng mis neu fwy mewn carchar.

Pan fônt yn gofyn am hynny, bydd dioddefwyr neu eu teuluoedd yn cael eu hysbysu
ynghylch trefniadau rhyddhau’r troseddwr, y mis a’r lleoliad cyffredinol, a manylion am unrhyw
amodau trwydded sy’n cyfyngu ar symudiadau’r troseddwr mewn ffyrdd a allai effeithio
arnynt hwy. Cyfeiriwyd eisoes, er enghraifft, at y gorchymyn cau allan a fydd yn seiliedig ar
system arolygu electronig a fydd yn cael ei gyflwyno dan yr un darpariaethau. Yn yr achosion
hyn a rhai achosion eraill bydd angen holi beth yw barn y dioddefwr a chael ei gydsyniad.

Mewn rhai achosion bydd yn rhaid i’r dioddefwr (a’i deulu) gael ei gynnwys yn y broses o
benderfynu ynghylch yr agweddau hynny ar y cynllun goruchwylio sy’n ymwneud yn
uniongyrchol â’i ddiogelwch ef/hi neu, o leiaf, gael gwybod pa benderfyniadau sydd wedi
eu gwneud. Rhaid i’r GPC sicrhau bod mwy o’r dioddefwyr hyn yn cael gwybod am
brosesau cyfiawnder troseddol allweddol ac yn cael cefnogaeth yn ystod y prosesau hyn ar
ôl cyflwyno’r ddedfryd o garchar.

Er nad yw hwn yn faes newydd i weithio ynddo, bydd ymestyn y camau presennol fel hyn
yn ychwanegu llawer at swm a chwmpas y gwaith y mae’r GPC yn ei wneud gyda dioddefwyr.
Bydd y staff yn ceisio gwella’r gwaith o ddod o hyd i ddioddefwyr a chysylltu â hwy, gan
gynnal y cyfweliad cyntaf a pharhau i gyfathrebu. Mae cofnodi a defnyddio’r wybodaeth
hon mewn adroddiadau ac argymhellion i reolwyr carchardai a’r Bwrdd Parôl ac mewn
gwaith uniongyrchol gyda throseddwyr, heb roi’r dioddefwr mewn mwy o risg nac achosi
mwy o niwed, yn waith sensitif a manwl.

Rhoddwyd cyfarwyddyd i bob Gwasanaeth yn nodi y dylent gynllunio i weithredu’r


ddyletswydd statudol ym mhob ardal yn unol â’r canllawiau ar drefniadau newydd ac
ymarfer effeithiol a gyhoeddwyd yng Ngwanwyn 2001. Mae gofynion arolygu canolog yn
ffurfio rhan annatod o’r cyfarwyddyd hyn ond Byrddau’r Ardaloedd fydd yn penderfynu
ynghylch eu hadnoddau a’u lefelau staffio.

Mae’r heddlu, Cymorth i Ddioddefwyr ac asiantaethau eraill sy’n gweithio gyda dioddefwyr
yn hanfodol i lwyddiant y GPC yn y maes hwn. Mae angen protocolau lleol effeithiol gyda
gwasanaethau’r heddlu er mwyn cynhyrchu gwybodaeth yn gyflym am enwau a
chyfeiriadau dioddefwyr. Mae’r asiantaethau sydd â phrofiad ym maes adsefydlu
dioddefwyr yn barod wedi cynghori a chefnogi rhai ardaloedd prawf unigol o fewn
protocolau lleol cytunedig. Disgwylir i bob un o’r 42 bwrdd prawf sicrhau ymarfer da yn y
modd hwn.

16
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

2.2: Adnoddau

A M C A N
Rhyddhawyd adnoddau ychwanegol o £1.76m yn 2001/2, £1.76m yn 2002/3 a £2.44m yn
2003/4 yn barod er mwyn gweithredu’r ddyletswydd statudol newydd a’r ymarfer gorau y
tynnwyd sylw ato yn yr adroddiad archwilio thematig. Bydd ceisiadau eraill yn cael eu
cyflwyno i’r Trysorlys ar gyfer y buddsoddiad ychwanegol sydd ei angen o hyd er mwyn
gweithredu’r newidiadau sy’n cael eu rhagweld ar y raddfa lawn.

I I
Nid yw’r arian wedi ei gorlannu ond mae wedi ei ddarparu ar yr un cyfartaledd fel rhan o’r
dyraniad cyffredinol i ardaloedd. Disgwylir i Fyrddau Prawf Lleol felly ddyrannu’r adnoddau
sydd eu hangen i waith cysylltu â dioddefwyr er mwyn sicrhau bod y Safonau Cenedlaethol
yn cael eu cyrraedd a bod pob dioddefwr sy’n gymwys yn cael cynnig gwasanaeth sensitif
a phriodol, yn unol â’r gofynion statudol newydd a blaenoriaethau’r Ysgrifennydd Cartref.

2.3: Targedau ac Arolygu


Cyflwynwyd trefniadau cenedlaethol ar gyfer arolygu gwaith cysylltu â dioddefwyr, am y
tro cyntaf, yn Ebrill 2001. Dan y trefniadau hyn, roedd yn ofynnol i ardaloedd lleol gasglu
a chyflwyno data lleol i’r Gyfarwyddiaeth Genedlaethol yn chwarterol. Bydd y data’n
galluogi’r Gyfarwyddiaeth i asesu i ba raddau y mae ardaloedd yn cydymffurfio â Safon
Genedlaethol C3 – h.y. cynnig ysgrifenedig o gysylltiad wyneb yn wyneb i’w anfon at y
dioddefwr neu at deulu’r dioddefwr cyn pen dau fis ar ôl dedfryd.

Mae’r targedau isod yn nodi beth y mae angen i’r GPC ei wneud er mwyn cydymffurfio â’r
Safon Genedlaethol:

• 2001-2002 cysylltiad i’w wneud o fewn yr amser a bennwyd fel targed mewn 85%
o’r achosion o droseddau rhywiol a throseddau treisgar lle bo’r troseddwr
wedi ei ddedfrydu i bedair blynedd neu fwy;

• 2002-2003 cysylltiad i’w wneud o fewn yr amser a bennwyd fel targed mewn 85%
o’r achosion ym mhob achos rhywiol a threisgar lle bo’r troseddwr wedi
ei ddedfrydu i 12 mis neu fwy;

• Erbyn 2004 bydd gwaith cysylltu â dioddefwyr yn dod yn rhan o asesiad perfformiad
prif swyddogion a byrddau ardaloedd prawf.

Yn ychwanegol at hyn, bydd y GPC yn gwneud arolwg cenedlaethol o fodlonrwydd dioddefwyr


maes o law er mwyn canfod beth yw barn y defnyddwyr am y gwasanaeth a gawsant.

2.4: Sicrhau ymagwedd sy’n canolbwyntio mwy ar y


dioddefwyr: cyfiawnder adferol
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o ardaloedd prawf wedi ceisio datblygu sgiliau
yn ymwneud â chanfod achosion unigol lle mae dod â’r dioddefwr a’r troseddwr ei hun i
gysylltiad uniongyrchol wedi cael effaith gadarnhaol, adferol ar y naill a’r llall. Mae’r gwaith
wedi canolbwyntio’n uniongyrchol ar ddatrys gwrthdaro a chael y troseddwr i wneud rhyw
fath o iawn. Mae eraill wedi chwarae rhan uniongyrchol mewn patrymau cyfiawnder
adferol mwy ffurfiol.

Rhoddir anogaeth gadarnhaol i bob dull gweithredu o’r fath yn y strategaeth fframwaith
hon a byddant yn cael lle i ddatblygu yng ngwaith y Gyfarwyddiaeth Genedlaethol.
Byddant yn cael eu harfarnu er mwyn gweld a yw’r dulliau hyn o fudd gwirioneddol i
ddioddefwyr ac a ydynt yn helpu i leihau aildroseddu. Bydd penderfyniadau ynghylch

17
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

ehangu dulliau cyfiawnder adferol, neu beidio â’u hehangu, yn cael eu gwneud ar sail y
I I

dystiolaeth hon.
A M C A N

Disgwylir i bob ardal brawf ddatblygu’r cysyniad o wneud iawn, yn enwedig yn eu gwaith
gyda throseddwyr ifanc, gan ychwanegu at sylfaen sgiliau eu staff yn y modd hwn ac
annog ymarfer creadigol.

Rhaid i staff y gwasanaeth prawf bob amser fod yn ymwybodol o’r niwed y gall
troseddwyr ei achosi, a’r niwed y maent wedi ei achosi, a defnyddio’r wybodaeth
a’r profiad hwn fel sylfaen i’w hasesiadau risg. Bod yn ddolen gyswllt rhwng y
dioddefwr a’r troseddwr, gan sicrhau yr un pryd nad ydynt yn colli eu
proffesiynoldeb gyda’r naill na’r llall, yw un o’r datblygiadau anoddaf y bydd staff
y gwasanaeth prawf yn ei wynebu yn eu gwaith yn ystod y tair blynedd nesaf.

Mae angen ailystyried yr effaith y bydd hyn yn ei gael ar staff o fewn ein fframwaith cefnogi
a dysgu ni ein hunain yn y sefydliad. Mae hefyd yn waith sydd angen llawer o adnoddau ac
mae angen gwneud llawer iawn mwy o waith dadansoddi busnes er mwyn ystyried sut y
gallai, ac y dylai’r GPC ymestyn y ddarpariaeth hon i feysydd eraill lle darperir gwasanaeth.

Mae gan bob rhaglen achredig fodiwlau sy’n ymwneud ag ymwybyddiaeth o ddioddefwyr
a newid agweddau troseddwyr tuag at ddioddefwyr, e.e. newid y ffordd y mae pobl sydd
wedi cam-drin plant yn rhywiol yn gweld anghenion a dymuniadau plant.

Y bwriad felly yw datblygu fframwaith polisi ac ymarfer wedi ei gydlynu gan y GPC ar gyfer
gweithio gyda dioddefwyr a hwnnw’n cael ei gefnogi gan achos busnes cryf, erbyn 2002/3.
Dwy thema sydd i’w hadlewyrchu yn y fframwaith yw cyflawni dyletswyddau sy’n deillio o
Gyfraith Sarah a thystiolaeth a dysgu o fentrau cyfiawnder adferol. Bydd pa mor gyflym y
gellir gweithredu’r fframwaith, ac i ba raddau y bydd yn cael ei weithredu yn dibynnu
wedyn ar swm y buddsoddiad sydd ar gael.

18
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

A M C A N
AMCAN YMESTYNNOL III
Cynhyrchu a darparu rhaglenni
troseddwyr sydd â hanes o lwyddiant

I I I
o ran gostwng lefel aildroseddu

3. GOFYNION STRATEGOL
Wrth oruchwylio troseddwyr, rhaid i ymyriadau bob amser fod yn seiliedig ar y dystiolaeth
orau posib o’r hyn a fydd yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd y troseddwr hwnnw’n troseddu eto.
Erbyn hyn ceir tystiolaeth ymchwil sylweddol o sawl rhan o’r byd sy’n nodi pa fath o gynnwys
a chynllun sy’n fwy tebygol o fod yn effeithiol mewn rhaglenni ymddygiad troseddol.

Mae’r GPC wedi ymrwymo i ymarfer ar sail tystiolaeth a chyhoeddodd ei “Strategaeth Beth
sy’n Gweithio i’r Gwasanaeth Prawf” ar 18 Awst 2000. Mae staff y gwasanaeth prawf yn
ceisio gweithredu’r strategaeth hon yn ganolog ac mewn ardaloedd lleol.

Mae canlyniadau cyntaf y rhaglenni peilot newydd hyn yn galonogol. Dangosodd tystiolaeth
ymchwil a ryddhawyd yn ddiweddar i raglen hyfforddi newid agwedd ymosodol a brofwyd
yn Wiltshire er enghraifft, fod gwahaniaeth o 14% yn y cyfraddau ailgollfarnu mewn un
flwyddyn, o gymharu â grwp cyfatebol. Mae rhaglen troseddwyr rhyw Gorllewin Canolbarth
Lloegr wedi sicrhau gostyngiad o 7.4% yn nifer y troseddau rhyw yn erbyn plant a gostyngiad
o 22% yng nghyfanswm yr holl droseddau.

Ni ellir gor-bwysleisio pwysigrwydd strategol y rhaglenni hyn sy’n seiliedig ar


dystiolaeth o ran eu potensial i greu argraff sylweddol ar gyfraddau ailgollfarnu,
diogelwch yn y gymuned ac adsefydlu troseddwyr – ac i fod yn gost-effeithiol
iawn yn y tymor hir.

Rhennir yr agenda hon â’r Gwasanaeth Carchardai. Mae rhai rhaglenni’n brosiectau sy’n
cael eu datblygu ar y cyd, tra bo eraill yn cael eu datblygu ar wahân gan ddibynnu a
ddisgwylir iddynt gael eu defnyddio mewn carchar ynteu yn y gymuned. Bydd gwaith yn
cael ei gynllunio ar y cyd yn y dyfodol er mwyn llenwi bylchau a ganfuwyd yn y
ddarpariaeth. Lle bo’r ddedfryd yn un o garchar, mae ymyrraeth y GPC yn adeiladu ar waith
a ddechreuwyd tra yn y ddalfa. Mae’n rhaglen waith gydweithredol iawn, yn ymestyn
ymhell y tu hwnt i’r ddau wasanaeth mewn rhai achosion, i ddatblygu ar y cyd â’r heddlu,
iechyd, addysg, darparwyr tai a chyflogaeth, a phartneriaid a mentorau cymunedol eraill yn
y sector gwirfoddol.

Y targed a osodwyd gan y Llywodraeth yw gostwng nifer yr achosion o aildroseddu ymhlith


pobl sy’n camddefnyddio cyffuriau’n rheolaidd trwy gynyddu nifer y troseddwyr sydd ar
Orchmynion Trin a Phrofi am Gyffuriau (a fydd yn dal i gael eu hariannu yn 2001/2). Dangosodd
canlyniadau cynlluniau peilot cyntaf y Gorchmynion Trin a Phrofi am Gyffuriau fod gwariant
wythnosol troseddwr ar gyffuriau wedi gostwng o £400 i £25 a bod nifer y troseddau wedi
gostwng o tua 126 y mis i naw – gyda 63% o’r grwp rheoli hwn yn dweud nad oeddent
yn troseddu o gwbl ar y pryd.

Y brif her sy’n wynebu’r GPC yn awr yw ‘bwrw ’mlaen’ â’r gwaith o ddatblygu’r
rhaglenni uchod yn ei waith bob dydd gyda’r bwriad o sicrhau canlyniadau sydd
cyn agosed ag sy’n bosib at ganlyniadau’r cynlluniau peilot.

19
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

Y ffactorau sy’n cael eu hystyried yn holl bwysig yma er mwyn sicrhau llwyddiant yw nodi’r
I I I

angen yn genedlaethol/lleol, asesu a thargedu troseddwyr yn gymwys, a chadw dilysrwydd y


rhaglenni. Bydd yn rhaid i’r gwaith hwn gael ei wneud ar y cyd â’r Asiantaeth Driniaeth
A M C A N

Genedlaethol a Thimau Gweithredu ar Gyffuriau.

3.1: Darparu cwricwlwm craidd cenedlaethol cynhwysfawr


o raglenni a sicrhau bod trefniant lleol priodol yn cael
ei ddewis ohono ar gyfer y gwaith darparu
Mae Bwrdd Prosiect Rhaglenni Ymddygiad Troseddol y GPC (cynrychiolir y Gwasanaeth
Carchardai ar hwn) a Bwrdd Strategaeth Ehangu Rhaglenni Achredig y Gwasanaeth
Carchardai (cynrychiolir y GPC ar hwn) yn gyfrifol am nodi’r angen ar lefel genedlaethol a
datblygu rhaglenni addas. Mae hwn yn ymarfer cydweithredol lle defnyddir gwasanaethau
gweithredol fel ‘arweinwyr’ yn y gwaith hwn cyn gweithredu rhaglenni peilot. Bydd y
Gyfarwyddiaeth Genedlaethol, wrth ryddhau’r rhaglenni hyn, yn darparu dogfennau
cefnogol, hyfforddiant i diwtoriaid a rheolwyr, meddalwedd rheoli a hyfforddiant. Dyfernir
yr achrediad terfynol gan Gyd-banel Achredu y Gwasanaeth Carchardai/Prawf.

Ceir mwy o fanylion am faterion sy’n ymwneud ag amrywiaeth ym maes darparu


gwasanaeth yn nes ymlaen yn y ddogfen dan Amcan Ymestynnol VII.

Ar adeg ysgrifennu hyn mae deg rhaglen wedi derbyn achrediad llawn neu amodol:

• 4 rhaglen gyffredinol yn ymwneud ag ymddygiad troseddol – Meddwl yn Gyntaf, Sgiliau


Meddwl Gwell, Rhesymu ac Adsefydlu a rhaglen Un i Un Priestley

• 2 raglen ar gamddefnyddio sylweddau – ASRO a PRISM (amodol)

• 1 rhaglen yfed a gyrru

• 2 raglen yn ymwneud â throseddwyr rhyw

• 1 rhaglen troseddwyr treisgar

Lluniwyd y rhestr lawn o flaenoriaethau sydd i’w datblygu a’u gweithredu yn 2001/4
yn unol â strategaeth Beth sy’n Gweithio y GPC. Neilltuwyd £101.7m ar gyfer darparu
rhaglenni achredig rhwng 2001/4, ynghyd â £18m ar gyfer hyfforddiant rhanbarthol.

Ailintegreiddio yn y gymuned. Mae’r gwaith hwn yn cael ei dargedu trwy ddatblygu:

• rhaglen gyflogaeth. Mae’r GPC a’r Gwasanaeth Carchardai yn gweithio ar y cyd â’r Adran
Waith a Phensiynau a’r Gwasanaeth Cyflogaeth er mwyn sicrhau bod y dasg o ddod o hyd
i swyddi ar gyfer troseddwyr yn cael ei gwneud yn fwy effeithiol. Gwneud troseddwyr yn
fwy cyflogadwy yw un o flaenoriaethau’r Ysgrifennydd Cartref. Mae arweinydd cyflogaeth
yn cael ei ddatblygu dan y fenter Beth sy’n Gweithio a bydd yn dechrau yn gynnar yn
2001 yn ardaloedd prawf Llundain a Gorllewin Swydd Efrog. Mae’r prosiect hwn yn
canolbwyntio ar droseddwyr sydd ar orchmynion goruchwyliaeth gymunedol neu ar ôl
eu rhyddhau o’r carchar, a thrwy hynny’n ategu menter y carchardai, O Garchar i Waith.

• rhaglen Sgiliau Sylfaenol. Mae gan y Gwasanaeth Prawf a’r Gwasanaeth Carchardai
dargedau er mwyn cynyddu nifer y troseddwyr sydd â sgiliau sylfaenol digonol. Targed
y GPC yw cynyddu nifer y troseddwyr sy’n cyrraedd Cyfnod Allweddol Lefel 2 yn eu
Sgiliau Sylfaenol i 12,000 erbyn 2004. Mae’r ddau Wasanaeth yn gweithio gyda’i gilydd
er mwyn sicrhau bod ganddynt safonau cyffredin a bod modd parhau ag addysg sgiliau
sylfaenol a ddechreuwyd mewn carchardai dan oruchwyliaeth y gwasanaeth prawf ar ôl
iddynt gael eu rhyddhau.

20
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

A M C A N
• rhaglen troseddwyr rheolaidd. Mae’r gwasanaeth prawf, yr heddlu a’r carchardai’n
datblygu trefniadau a fydd yn sicrhau bod y rhai sy’n troseddu amlaf yn cael eu goruchwylio
a’u rheoli’n fwy arddwys ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r carchar. Y nod yw mynd i’r afael
â’u hymddygiad tramgwyddus a lleihau ymddygiad o’r fath trwy raglenni achredig ond,
lle bo hynny’n methu, canfod unrhyw aildroseddu’n gynt nag a fyddai’n digwydd fel arall,
a sicrhau trwy hynny nad yw llawer o droseddau’n cael eu cyflawni. Mae goruchwyliaeth

I I I
a rheolaeth arddwys wedi eu treialu trwy nifer bychan o brosiectau ledled y wlad.

Bydd canlyniadau’r Arolwg Gwariant yn awr yn caniatáu darpariaeth ar gyfer 1,500 o


droseddwyr mynych iawn yn ystod 2002/4, 80% (1,200) ohonynt yn cael eu goruchwylio
ar ôl cael eu rhyddhau o’r carchar yn gynnar. Os bydd canlyniadau’r arfarniad yn dangos
bod hyn yn gweithio, bydd cais yn cael ei wneud am fwy o arian er mwyn ehangu llawer
mwy ar y dull gweithredu, ar ôl 2004. Gwnaethpwyd darpariaeth hefyd ar gyfer sgiliau
sylfaenol a chyflogaeth, ac mae’n debygol y bydd yn derbyn hwb ariannol gan yr Adran
Addysg a Chyflogaeth ar ffurf arian cyfatebol.

Arweinwyr adsefydlu. Mae’r rhain yn bwysig iawn o safbwynt strategol wrth leihau
aildroseddu. Mae troseddwyr sy’n cael eu dedfrydu i garchar am lai na 12 mis yn wynebu yr
un math o broblemau adsefydlu â charcharorion tymor hwy ac mae eu cyfraddau ailgollfarnu’n
annerbyniol o uchel. Er hyn, ni chyflwynir rhaglenni ymddygiad troseddol iddynt yn aml mewn
carchardai a chânt eu rhyddhau heb unrhyw oruchwyliaeth gan y gwasanaeth prawf.

Deilliodd yr arweinwyr adsefydlu o ddiddordeb mewn allgáu cymdeithasol a lleihau troseddau,


yn enwedig cysylltiadau rhwng diweithdra, camddefnyddio cyffuriau, problemau llety a drws
‘troi’ y carchar. Gallai gwaith effeithiol gyda’r carcharorion hyn arwain at ostyngiad sylweddol
mewn troseddu, yn enwedig o safbwynt y targedau ar gyfer maint y gostyngiad mewn troseddu.

Mae’r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â mudiadau’r sector gwirfoddol –
sef, NACRO, SOVA a CRI. Mewn tair o’r rhaglenni hyn bydd y gwasanaethau prawf yn
gweithio mewn partneriaeth agos â charchardai. Mae pob un yn cynnig darpariaeth adsefydlu
gyflawn gan eu bod wedi eu llunio i ddechrau’r gwaith gyda’r troseddwyr pan fônt yn y
carchar a pharhau â’r gwaith a’i gwblhau yn ddiweddarach pan fônt yn y gymuned.

Mae rhaglenni’r sector gwirfoddol yn ymwneud yn bennaf ag anghenion ymarferol fel tai,
cyflogaeth a chamddefnyddio sylweddau. Mae rheoli cyllid personol, cysylltiadau teuluol a
rhwydweithiau cefnogi lleol yn bwysig iawn hefyd. Mae rhaglenni’r Gwasanaeth Prawf, er
eu bod hwythau’n ymdrin ag anghenion ymarferol, yn cynnwys gwaith sy’n ymwneud â
chymhelliant troseddwyr, sgiliau datrys problemau a sicrhau nad yw troseddwyr yn mynd
yn ôl i’w hen arferion.

Mae’r cwestiwn a ddylai carcharorion tymor byr ddal i gael eu rhyddhau heb oruchwyliaeth
yn rhan o gylch gorchwyl yr adolygiad ffurfiol o ddedfrydu sy’n cael ei wneud ar hyn o
bryd. Bydd y GPC yn chwarae ei ran lawn yn y gwaith o weithredu pa newidiadau bynnag
y penderfynir arnynt.

Mae gan yr Uned Allgáu Cymdeithasol hefyd ddiddordeb arbennig yn y rhaglenni hyn gan
ei bod yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar droseddwyr sy’n cael dedfrydau o garchar am
gyfnod byr. Cynrychiolir y GPC ar y Grwp Llywio Strategol a bydd yn cymryd rhan ym mhob
agwedd ar y gwaith hwn.

Gorchymyn Cosbau Cymunedol. Mae defnyddio’r un dull o ddatblygu rhaglenni a’r


meini prawf achredu arferol yng nghyswllt cosbau cymunedol yn waith anodd iawn.

Yn wahanol i’r rhaglenni uchod, sydd wedi eu llunio’n bennaf er mwyn lleihau aildroseddu,

21
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

mae gan gosbau cymunedol hefyd elfennau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chosbi a
I I I

gwneud iawn ac ni ddylai’r rhain gael eu gwanhau. Mae elfennau o’r fath yn bwysig iawn
o safbwynt strategol oherwydd eu cysylltiad â’u hymwneud uniongyrchol â chymunedau
A M C A N

lleol ac maent yn rhan holl bwysig o nod y GPC o sicrhau bod pobl leol yn chwarae mwy
o ran yn y gwaith o benderfynu sut y dylid darparu’r gwasanaeth.

Mae mwy a mwy o ardaloedd, er enghraifft, wedi pennu targedau lleol o hyd at 80% o
oriau cosb gymunedol i’w darparu trwy waith a nodwyd gan fforymau diogelwch yn y
gymuned, gan adrodd yn ôl yn uniongyrchol iddynt am y cynnydd sydd wedi ei wneud dan
drefniadau atebolrwydd lleol. Bydd y dull gweithredu hwn yn sylfaen ar gyfer targedau
perfformiad diogelwch yn y gymuned i’r GPC o 2002 ymlaen. Disgwylir i ardaloedd prawf
sicrhau cyfraniad cyson i bartneriaethau troseddau ac anhrefn a bydd gorchmynion cosbau
cymunedol yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r cynlluniau lleol hyn.

Er hyn, mae cwblhau’r prosiectau arweinwyr cosbau cymunedol presennol a sicrhau bod y
rhaglenni hyn yn cael eu hachredu yn 2001/2 yn elfen greiddiol o’r strategaeth Beth sy’n
Gweithio.

Mae’n bwysig nad yw’r Cwricwlwm Craidd Cenedlaethol yn datblygu’n gynt nag y
gall ardaloedd lleol ei weithredu a’i ddarparu. Yma eto, mae’r cysyniad o dîm
integredig cenedlaethol yn bwysig a bydd rheolwyr rhanbarthol Beth sy’n
Gweithio yn helpu i ddatblygu ymarfer.

Mae deialog barhaus er mwyn sicrhau bod cynlluniau cenedlaethol a threfniadau darparu
lleol yn cael eu hintegreiddio yn y modd mwyaf cost-effeithiol yn ganolog i effeithiolrwydd.
Byddai diffyg addasrwydd canolog/lleol yn gwastraffu adnoddau prin ac yn torri calon
datblygwyr rhaglenni a staff gweithredol. Mae’n bwysig hefyd bod y rhaglenni sy’n cael eu
dewis ar gyfer eu datblygu a’u lledaenu ar ôl iddynt gael eu hachredu, yn cyfateb mewn
gwirionedd i broffiliau troseddu a throseddwyr y boblogaeth eang sy’n cael ei goruchwylio gan
y GPC fel bod modd sicrhau cymaint o ostyngiad ag sy’n bosib yn y cyfraddau ailgollfarnu.

Y byrddau prawf lleol, gan ymgynghori â’r Gyfarwyddiaeth Genedlaethol, sydd â’r hawl i
benderfynu ar ffurf y rhaglenni achredig sydd i’w darparu yn eu hardaloedd. Dylai’r rhain
fod yn unol â’r proffiliau troseddwyr a throseddu yn yr ardal leol, gan roi ystyriaeth briodol
i’r fforwm diogelwch yn y gymuned leol a chynlluniau a blaenoriaethau lleihau troseddu.
Mae Cyfarwyddiaeth Ymchwil, Datblygu ac Ystadegau y Swyddfa Gartref yn gwneud
dadansoddiad o broffiliau risg er mwyn gweinyddu hyn a bydd yn cyflwyno adroddiad yn
gynnar yn haf 2001.

Rhaid i benderfyniadau sy’n ymwneud â darparu ar lefel genedlaethol a lleol gael eu


dylanwadu gan y cyfraddau a bennwyd ar gyfer y GPC fel targedau cwblhau rhaglenni.

Mae targedau’r Cytundeb Darparu Gwasanaeth ar gyfer 2004 yn nodi:

• cwblhau 30,000 o’r rhaglenni ymddygiad troseddol achredig, gan gynnwys 6,000 o
raglenni sy’n ymwneud â chyffuriau.

• rhaid i 30,000 ddod o raglenni gorchmynion cosbau cymunedol achredig a gwblhawyd.

• 12,000 o ddyfarniadau sgiliau sylfaenol Cyfnod Allweddol Lefel 2. Mae partneriaethau


gweithredol gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a’r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol yn
bwysig iawn yma.

• Cyhoeddir targed cyflogaeth yn 2001.

22
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

3.2: Rôl y Cyd-banel Achredu ac Arolygiaeth Prawf ei

A M C A N
Mawrhydi yn y gwaith o archwilio rhaglenni achredig
Ni ellir sicrhau’r lleihad sydd ei angen mewn aildroseddu onid yw rhaglenni achredig y Cyd-
banel Achredu yn cael eu gweithredu’n ofalus gan wasanaethau lleol. Gwelwyd bod
ansawdd y gweithredu’n bwysig iawn i lwyddiant rhaglenni sy’n ymwneud â lleihau

I I I
aildroseddu, ac mae’r Panel Achredu’n gyfrifol am ddiffinio’r safonau sydd i’w cyrraedd.
Dyma’r targedau ar gyfer lleoedd, cyfraddau cwblhau ac ansawdd gweithredu ar gyfer
rhaglenni ymddygiad troseddol achredig yn ystod y tair blynedd nesaf:

Gorchmynion adsefydlu,
gorchmynion cosbi ac
adsefydlu, trwyddedau 2001/2002 2002/2003 2003/2004

Dechrau 124,390 129,011 132,686

Lleoedd ar raglenni 22,418 37,555 45,380

faint ohonynt sy’n ymwneud


â chamddefnyddio sylweddau 4,095 5,272 6,240

% dechrau 18% 29% 34%

Targed ar gyfer cyfraddau cwblhau 65% 70% 75%

Nifer a gwblhawyd 14,571 26,288 34,035

Targed ar gyfer Cyfraddau


Ansawdd Gweithredu 70% 75% 90%

Targed ar gyfer cwblhau Cytundebau


Darparu Gwasanaeth 10,200 19,716 30,631

Mae Arolygiaeth Prawf ei Mawrhydi yn gyfrifol am archwilio ansawdd y gwasanaeth a ddarperir


ar ran y Panel Achredu a phenodwyd Rheolwr Archwilio i lunio a sefydlu system archwilio
annibynnol ar gyfer rhaglenni achredig sy’n cael eu darparu gan y gwasanaethau prawf.

Bydd angen i wasanaethau sefydlu eu trefniadau archwilio eu hunain, a fydd yn seiliedig


gan mwyaf ar hunan-asesiad ac asesu cymheiriaid gyda dimensiwn rhanbarthol, ynghyd â’r
rôl rheoli triniaeth er mwyn sicrhau dilysrwydd y rhaglen. Bydd archwiliad annibynnol
Arolygiaeth Prawf ei Mawrhydi yn cael ei wneud fel dilysiad allanol o’r trefniadau hyn.

Mae’n hanfodol bod y trefniadau archwilio hyn yn cael eu defnyddio er mwyn sicrhau
gwelliant parhaus mewn ansawdd, mewn ffordd sy’n ennyn ymrwymiad pob un sy’n
ymwneud â’r gwaith. Bydd y pwyslais ar hunan-adolygu ac adolygu cymheiriaid (gyda
dilysiad allanol) yn helpu i sefydlu arfer o’r fath. Bydd cydweithredu rhanbarthol yn
caniatáu i wasanaethau osod meincnodau ar gyfer ansawdd y gwasanaethau a ddarperir
ganddynt hwy eu hunain, a rhannu’r dysgu a’r arferion gorau.

3.3: Mynd i’r afael â chamddefnyddwyr cyffuriau sy’n


troseddu’n rheolaidd
Disgwylir i ardaloedd prawf wneud cyfraniad sylweddol i strategaeth ddeng mlynedd y
Llywodraeth ar gyfer delio gyda chamddefnyddio cyffuriau, yn enwedig wrth ddatblygu
triniaeth gyson a chydweithredol i’r rhai hynny sy’n cyflawni troseddau sy’n gysylltiedig â
chyffuriau. Dylai cymryd rhan mewn Timau Gweithredu ar Gyffuriau fod yn rhan bwysig o’u
partneriaethau diogelwch yn y gymuned.

Cyflwynwyd y Gorchymyn Trin a Phrofi am Gyffuriau fel rhan o Ddeddf Troseddu ac


Anhrefn 1998. Ei brif nod yw cael troseddwyr i roi’r gorau i droseddu, gan anelu yn y tymor
hir at atal pob defnydd o gyffuriau.

23
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

Cyflwynwyd tystiolaeth bod nifer bychan o gamddefnyddwyr cyffuriau yn gyfrifol am gyfran


I I I

sylweddol o’r troseddau. Mae’r Gorchymyn Trin a Phrofi am Gyffuriau wedi ei dargedu felly at
gamddefnyddwyr cyffuriau problemus 16 oed neu drosodd sy’n cyflawni trosedd er mwyn cael
A M C A N

arian i brynu cyffuriau, sy’n dangos awydd i gydweithredu â thriniaeth ac sydd gerbron y llys
am drosedd sy’n ddigon difrifol i gael dedfryd o oruchwyliaeth yn y gymuned. Mae’n rhwymo’r
troseddwr i dderbyn triniaeth mewn man penodol (canolfan breswyl neu fel claf allanol tra’n
parhau i fyw yn y gymuned) am gyfnod penodedig, a all amrywio o chwe mis i dair blynedd.

Cynhaliwyd cynlluniau peilot rhwng 1 Hydref 1998 a 31 Mawrth 2000 dan reolaeth
Gwasanaethau Glannau Mersi, De-ddwyrain Llundain a Swydd Gaerloyw a gwnaethpwyd
arfarniad manwl ohonynt. Dangosodd y canlyniadau cadarnhaol iawn (a nodwyd yn
gynharach yn y rhan hon o’r fframwaith strategol) fod Gorchmynion Trin a Phrofi am
Gyffuriau wedi llwyddo i sicrhau gostyngiad sylweddol mewn gwariant ar gyffuriau
anghyfreithlon ac yn nifer y troseddau a gyflawnwyd gan droseddwyr dan y gorchymyn.

Yng ngoleuni’r canfyddiadau cadarnhaol hyn cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref ar


15 Mai 2000 y byddai’r Gorchymyn Trin a Phrofi am Gyffuriau yn cael ei ledaenu i bob
llys yn Lloegr a Chymru o 1 Hydref ymlaen y flwyddyn honno. Neilltuwyd £40 miliwn
dan yr Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr, ar gyfer cost flynyddol y Gorchymyn Trin a
Phrofi am Gyffuriau a’i gorlannu i’r diben hwnnw. Gan gymryd bod yr amcangyfrif
presennol o gost Gorchmynion Trin a Phrofi am Gyffuriau oddeutu £6,000, targed
y GPC yng nghyswllt darparu yw gwneud 6,000 o atgyfeiriadau bob blwyddyn.

O Ebrill 2001 ymlaen, mae’r elfen ar gyfer triniaeth yng nghyllideb y Gorchmynion Trin a
Phrofi am Gyffuriau wedi ei rhoi gydag arian arall gan y Swyddfa Gartref a’r Adran Iechyd
yn yr Asiantaeth Driniaeth Genedlaethol, Awdurdod Iechyd Arbennig sydd wedi ei sefydlu
er mwyn cael gwell rheolaeth ar y gwaith o gomisiynu a darparu triniaeth yng nghyswllt
cyffuriau. Trwy gyfrannu tuag at y gyllideb gyfun ac fel arall, mae’r Gwasanaeth Prawf
Cenedlaethol yn chwarae rhan allweddol mewn timau gweithredu ar gyffuriau.

Mae Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 yn darparu ar gyfer cyflwyno
gorchmynion ymwrthod â chyffuriau ac amodau ymwrthod â chyffuriau mewn gorchmynion
goruchwyliaeth gymunedol eraill. Gallai hyn olygu goblygiadau sylweddol i oruchwylio troseddwyr
ac i faich gwaith y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol. Disgwylir y bydd treialon yn dechrau mewn
tair ardal brawf yn 2001. Gwneir arfarniad llawn o’r rhain, fel gyda’r Gorchmynion Trin a Phrofi
am Gyffuriau, a bydd eu lledaeniad yn amodol ar yr arfarniad hwn ac ar drefnu adnoddau.

Mae’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a charchardai hefyd yn edrych ar y gwasanaethau


sydd ganddynt ar gyfer troseddwyr sydd â phroblemau alcohol, ac maent yn bwriadu dod
â’r rhain at ei gilydd mewn strategaeth gydlynol er mwyn gwella’r gwasanaeth a ddarperir.

3.4: Troseddwyr mynych


Amcangyfrifir bod tua 100,000 o droseddwyr yn gyfrifol am tua hanner y troseddau yn
Lloegr a Chymru. Mae’r troseddwyr mynych hyn felly wedi eu nodi fel blaenoriaeth gan yr
Ysgrifennydd Cartref.

Mae cwricwlwm craidd y GPC yn cynnwys nifer fawr o raglenni neu gyfuniadau o raglenni
sy’n addas ar gyfer gweithio gyda throseddwyr sy’n debygol iawn o fynd yn ôl i’w hen
arferion: y cwestiwn felly yw pa bryd y mae’n briodol ychwanegu goruchwyliaeth ddilynol
gan yr heddlu at y ddarpariaeth hon?

Mae dadl hefyd dros gadw troseddwyr mynych ar raglenni am ddigon o amser i ddylanwadu
arnynt a chyn iddynt droseddu eto. Mae’n bwysig sicrhau hefyd, o ganlyniad, bod y Gwasanaeth
Carchardai yn darparu rhaglenni addas yn ystod y ddedfryd, ac edrych ar bosibiliadau arolygu

24
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

electronig a ffyrdd eraill o gyfyngu ar bobl er mwyn rheoli troseddwyr am ddigon o amser

A M C A N
iddynt wneud yr hyn sydd ei angen.

Mae nifer o gynlluniau ar y cyd rhwng y gwasanaeth prawf a’r heddlu ar y rhestr fer dan y
cynllun a dargedwyd ar gyfer cadw trefn – a bydd y GPC yn dal i sicrhau bod cyfraniad y
gwasanaeth prawf tuag at y rhain yn defnyddio rhaglenni achredig sydd â phrawf o’u
llwyddiant. Ceir darpariaeth ar gyfer sefydlu cynlluniau newydd yn SR2000 a byddwn yn

I I I
arfarnu’r rhain yn ofalus: mae’r adnoddau ychwanegol ar gyfer caniatáu i’r achos gael ei
reoli ar y cyd â’r heddlu – mae elfen y rhaglen eisoes wedi ei chostio mewn ffyrdd eraill.
Mae’r cyllid arfaethedig yn £275,000 yn 2002/3 a £535,000 yn 2003/4, fel bod modd
datblygu 50 o gynlluniau i ddelio gyda 500 o droseddwyr yn 2002/3 a 1,000 o droseddwyr
yn 2003/4, ar sail tair awr ychwanegol i bob troseddwr bob wythnos. Mae angen arian
cyfatebol gan yr heddlu a bydd camau i drafod hyn yn cael eu cymryd yn awr.

Byddwn yn cysylltu’r datblygiadau hyn â gwaith y mae Bwrdd Cyfiawnder yr Ifanc hefyd yn
ei wneud gyda throseddwyr ‘mynych’. Mae angen diffiniad manylach o’r grwp targed
erbyn hyn a bydd y GPC yn galw am hyn ac yn gweithio tuag ato.

Bydd y GPC yn chwarae ei ran yn llawn, gydag asiantaethau allweddol eraill, mewn
dadansoddiadau pellach o fylchau yn y ddarpariaeth arfaethedig, cynllunio ar gyfer y
dyfodol, sicrhau adnoddau a darparu gwasanaeth er mwyn gwella’r gwaith hwn.

3.5: Asesu cywirach a thargedu troseddwyr tuag at


raglenni priodol
Mae asesu troseddwyr yn dibynnu ar hyn o bryd ar gyfryngau fel OGRS 2, ACE ac LSI-R a bwriedir
dechrau defnyddio OASys o 2001 ymlaen, fel y nodwyd uchod. Awgryma’r dystiolaeth gyfredol
nad yw rhai ardaloedd yn llwyddo i ddod o hyd i’r rhaglenni cywir ar gyfer troseddwyr (h.y. yn
ôl y diffiniad yn nhystiolaeth y proffiliau troseddwr/troseddu y bydd y rhaglen yn gweithio orau
ar eu cyfer). Bydd angen gwneud newidiadau i’r arferion hyn wrth i’n cyfryngau asesu ni wella,
a dylai byrddau prawf ardaloedd bennu targedau lleol i’r diben hwn. Gallai’r dadansoddiad
o’r proffil risg cenedlaethol fesul ardal hefyd effeithio ar dargedau lleol ac mae’n bosib y
bydd angen eu hadlewyrchu trwy newidiadau yn y fformiwla ar gyfer uchafswm yr arian.

Efallai y bydd yr adolygiad o ddedfrydu sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd yn gallu cynnig
newidiadau i’r fframwaith dedfrydu a fydd yn sicrhau gwelliant sylweddol mewn targedu
a’r defnydd a wneir o’r rhaglenni hyn gan y llysoedd trwy gynnwys yr egwyddor risg yn y
fframwaith. Bydd y GPC yn dal i ymwneud â’r Adolygiad mewn modd cadarnhaol ac, yn y
diwedd, yn anelu tuag at weithio o fewn y fframwaith newydd pan wneir penderfyniad yn
ei gylch a phan fo’n datblygu’n ymarferol.

Rhan bwysig arall o’r gwaith o sicrhau bod troseddwyr yn cael eu cyfeirio at y rhaglenni
mwyaf addas yw helpu’r GPC i arfarnu a deall y canlyniadau.

Mewn rhaglen o gontractau ymchwil allanol a fydd yn cael ei gosod a’i rheoli gan
Gyfarwyddiaeth Ymchwil, Datblygu ac Ystadegau y Swyddfa Gartref, mesurir pob ymyriad
er mwyn nodi canlyniadau ar ddwy lefel:

• newidiadau mewn nodweddion personol neu amgylchiadau cymdeithasol y gwyddys eu


bod yn gysylltiedig â’r risg o aildroseddu (mesurau o’r canlyniad canolraddol); a

• newidiadau yn y gwir gyfraddau ailgollfarnu.

Bydd byrddau ardaloedd lleol hefyd yn gwneud arfarniad gofalus o ffactorau eraill fel
cyfraddau methiant rhaglenni lleol a thor-amodau troseddwyr gyda’r bwriad o ddeall beth
sy’n digwydd yn well a chymryd camau i wneud iawn.

25
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

Ar bob lefel yn y GPC mae’n hanfodol cael chwilfrydedd mawr ynghylch y rhaglenni
I I I

newydd hyn. Mae’n waith arloesol, sy’n torri tir newydd a rhaid i’r canlyniadau felly gael
eu hystyried yn agored ac yn onest heb agwedd amddiffynnol. Mae unrhyw arbrofion
A M C A N

sy’n torri tir newydd yn y maes hwn yn galw am y gallu i ddysgu o astudiaeth ofalus o’r
canlyniadau a rhoi cynnig arall ar ôl newid arferion yng ngoleuni dealltwriaeth newydd.
Nid yw’r cyhoedd yn gwybod llawer am yr arferion newydd hyn ar hyn o bryd a bydd y
GPC yn ceisio ennyn mwy o ddiddordeb a chael mwy o sylw, ac arwain a chwarae rhan
allweddol mewn trafodaeth sy’n seiliedig ar ffeithiau gyda’r cyhoedd.

3.6: Cadw gonestrwydd y rhaglenni


Dangoswyd bod rhaglenni’n gweithio orau os ydynt yn cael eu darparu yn unol â manylion
penodol. Mae hyn yn galw am staff sy’n gallu darparu gwasanaethau yn fedrus, yn drwyadl
ac yn ddisgybledig. Mae hyn yn ymwneud yn aml â hyfforddiant a faint y mae’r staff yn ei
ddeall am y rhaglen y maent yn ei darparu a sut y mae’n gweithio. Gwelwyd mai’r ffordd
fwyaf effeithiol o sicrhau ansawdd yr agwedd hon ar ddarparu rhaglen oedd trwy
ddefnyddio camera fideo i recordio pob sesiwn gwaith, a bydd Arolygwyr Prawf ei
Mawrhydi yn chwarae’r rhan arweiniol yn y gwaith o archwilio dilysrwydd y rhaglen yn y
dyfodol. Bydd yr archwiliad yn nodi cyfradd ar gyfer ansawdd gweithredu’r rhaglen, a
gosodwyd targedau ar gyfer 70% yn 2001/2, yn codi i 90% yn 2003/4. Dengys profiad yn
y Gwasanaeth Carchardai bod y ffigyrau hyn yn realistig ac o fewn cyrraedd.

Mae trefniadaeth a rheolaeth fedrus ar reng flaen y rhaglenni yn hanfodol er mwyn cynnal
y mewnbwn a’r ddarpariaeth, ynghyd â rheolaeth fwy uniongyrchol dros absenoldeb staff
er mwyn sicrhau eu bod ar gael trwy gydol y rhaglen ac er mwyn sicrhau cyfnodau priodol
o orffwys ac absenoldeb. Mae dal gafael ar staff sydd wedi eu hyfforddi i ddarparu’r
rhaglen yn bwysig iawn er mwyn cael y gorau o’r buddsoddiad a datblygu arbenigedd.

Ar hyn o bryd mae tua 50% o’r troseddwyr yn methu â chydymffurfio â gofynion mynychu
rhaglenni a bydd pob bwrdd ardal brawf yn cymryd camau i archwilio’r mater ac asesu pam bod
hyn yn digwydd, gan osod targedau ar gyfer gwelliannau sylweddol. Mae’r rhesymau sy’n cael eu
dyfynnu’n barod yn amrywiol ac, o ganlyniad, mae angen cyfres o gamau gweithredu cadarnhaol.
Mae’r rhain yn cynnwys sicrhau bod troseddwyr yn cael eu cyfeirio at y rhaglenni priodol, paratoi
troseddwyr yn well ar gyfer yr hyn y mae’r rhaglenni’n ei olygu ac, weithiau, rhoi mwy o
gefnogaeth i unigolion er mwyn eu cynnal trwy’r profiadau anodd a heriol hyn. Gosodwyd targed
o 65% wedi cwblhau’r rhaglen ar gyfer 2001/2, yn codi i 75% yn 2003/4.

Un o’r camau pwysicaf yw sicrhau bod troseddwyr yn deall o’r dechrau y bydd camau tor-
amod yn cael eu cymryd yn dilyn absenoldeb annerbyniol. Dangoswyd bod mynd ar ôl y
mater hwn yn fuan os a phan y mae’n digwydd yn helpu i bennu’r ffiniau y mae ar
droseddwyr eu hangen er mwyn teimlo cymhelliant i fynychu’n ddibynadwy. Mae gwaith
ysgogol hefyd yn rhan o’r rhaglenni eu hunain ond y broblem fwyaf yw’r gyfradd a gollir
rhwng dechrau’r gorchymyn a dechrau’r rhaglen.

Mae’r trefniadau ar gyfer darparu’r rhaglenni hyn yn ymarferol yn gymhleth ac yn gostus.


Bydd angen i staff a byrddau prawf fod â dealltwriaeth lawn o’u daearyddiaeth a’u
demograffeg leol, yn ogystal â lleoliad troseddwyr yn eu hardaloedd, os ydynt i wneud
penderfyniadau pendant ynghylch lleoliadau rhaglenni ac amser y cyfryw raglenni a sicrhau
eu bod yn gallu derbyn y nifer mwyaf o droseddwyr. Dylid gwneud defnydd llawn o bwerau
newydd a roddwyd i’r byrddau trwy Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys
2000 i ffurfio cysylltiadau prynwr/darparwr gwahanol gyda byrddau cyfagos, yn enwedig
lle na fyddai nifer rhai mathau o droseddwyr yn ei gwneud yn gost-effeithiol i gynnig
rhaglenni sy’n canolbwyntio ar droseddau penodol yn lleol. Disgwylir i fyrddau ardaloedd
prawf ddangos, yn eu cynlluniau blynyddol, eu bod wedi ystyried pob un o’r dewisiadau
hyn cyn penderfynu’n derfynol faint yn union y maent am geisio’u darparu a sut.

26
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

A M C A N
AMCAN YMESTYNNOL IV
Ymyrryd yn fuan i dywys pobl ifanc
oddi ar lwybr troseddu

I V
4. GOFYNION STRATEGOL
Mae’r rhan fwyaf o’r bobl ifanc sy’n troseddu yn rhoi’r gorau iddi bron ar unwaith, ond mae canran
fechan yn debygol iawn o droseddu eto a’r grwp hwn sy’n peri’r pryder mwyaf. Ym mhob ardal, mae
niferoedd cymharol fach o droseddwyr ifanc, yn aml iawn, yn gyfrifol am nifer fawr o’r troseddau.

Y gofyniad strategol i’r GPC yw gweithio gydag eraill er mwyn ymyrryd yn effeithiol ym
mywydau plant ac oedolion ifanc sy’n troseddu cyn i ymddygiadau troseddol sefydlu eu hunain.

Mae dau amcan cyffredinol, sef:

• cryfhau perthynas y GPC gyda Bwrdd Cyfiawnder yr Ifanc ac adnewyddu ein


hymrwymiad i Dimau Troseddau Ieuenctid; a

• bod yn benderfynol o gyflwyno’r strategaeth Beth sy’n Gweithio i oedolion


ifanc sy’n troseddu a cheisio cael mwy o adnoddau er mwyn llenwi unrhyw
fylchau a nodir yn y ddarpariaeth arfaethedig.

Mae cysylltiad cryf yn y grwpiau oedran hyn rhwng diweithdra, gwaharddiad o strwythurau
addysg ffurfiol, digartrefedd neu lety annigonol, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, salwch
neu anhwylder meddyliol, byw mewn tlodi neu ar drothwy tlodi – a throseddu. Mae rhai o’r
rhain, os nad y cyfan, yn nodweddion amlwg ym mywydau llawer o droseddwyr ifanc sy’n
troseddu’n fynych. Wrth fynd i’r afael â’u hymddygiad troseddol rhaid ceisio cynyddu eu
cyfleoedd yn ogystal â chanolbwyntio ar bolisïau addysgol a pholisïau lleihau niwed. Mae
gwaith ymchwil diweddar a gwblhawyd gan y GPC yn nodi diffygion gwybyddol fel ffactor y
dylid rhoi cryn bwys iddo mewn oedolion ifanc sy’n troseddu’n fynych ac, o ganlyniad, rhaid
rhoi cryn dipyn o sylw i sgiliau meddwl/datrys problemau wrth lunio rhaglenni goruchwylio.

O ganlyniad, bydd staff y GPC ar bob lefel yn gweithio gydag asiantaethau allweddol eraill
a Bwrdd Cyfiawnder yr Ifanc er mwyn sicrhau dylanwad strategol a gweithredol wrth
ddarparu’r adnoddau hyn.

Bydd y GPC yn ceisio darparu, yn uniongyrchol neu mewn partneriaeth gydag eraill,
amrywiaeth o gefnogaeth mechnïaeth, ymyriadau cymunedol a gwasanaethau
adsefydlu sydd wedi eu cynllunio neu eu hasesu i fod yn addas ar gyfer y grwp
oedran hwn. Rhaid defnyddio’r un dull proffesiynol a llym sy’n seiliedig ar dystiolaeth
wrth ddatblygu ymarfer ym mhob agwedd ar ddarparu gwasanaeth o fewn y GPC.

Yn fwyaf arbennig, rhaid i staff y gwasanaeth prawf gadw mewn cysylltiad ag arferion Bwrdd
Cyfiawnder yr Ifanc a’r canlyniadau sydd i’w gweld dan gyfarwyddyd y Bwrdd, a gwneud
profiad a chanlyniadau’r Gwasanaeth ei hun o weithio gydag oedolion ifanc yn agored ac ar
gael iddynt hwythau yn eu tro. Fel hyn, gallwn i gyd ddysgu gan y naill a’r llall a sicrhau bod
y buddsoddiad mewn arferion a chyfryngau newydd yn ategu gwaith yn hytrach na’i ddyblygu
neu ei ddad-wneud, a’u bod yn datblygu sylfaen dda o wybodaeth ym maes troseddwyr ifanc.
Er enghraifft, cynlluniwyd OASys fel cyfrwng i wneud yr asesiad cyntaf o oedolion ifanc, yn
ddynion ac yn ferched. Mae Bwrdd Cyfiawnder yr Ifanc wedi datblygu system wahanol, ASSET,
i’w defnyddio gyda phlant dan 18 oed a rhaid gweithredu’r system hon o fewn y GPC hefyd
fel bod modd ei defnyddio gyda’r grwp oedran hwn. Gall Bwrdd Cyfiawnder yr Ifanc, yn ei
dro, ddysgu o brofiad y gwasanaeth prawf a’r gwasanaeth carchardai o weithio gyda’r grwp

27
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

oedran hwn ac oedolion ifanc dros nifer o flynyddoedd, ac o’r hyn a ddysgwyd wrth ddatblygu
I V

ymarfer ac ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn y rhaglen Beth sy’n Gweithio.


A M C A N

Y gofynion strategol felly yw sicrhau bod:

• gwaith y GPC a Bwrdd Cyfiawnder yr Ifanc yn ychwanegu gwerth y naill at y llall;

• byrddau ardaloedd prawf i gyd yn buddsoddi swm yn eu Timau Troseddau Ieuenctid lleol
sy’n cyfateb i’w cyllideb gyffredinol a’r blaenoriaethau eraill a bennwyd ar eu cyfer gan yr
Ysgrifennydd Cartref. Ar hyn o bryd, mae’r symiau a fuddsoddir gan fyrddau ardaloedd
yn eu Timau Troseddau Ieuenctid lleol yn amrywio’n fawr. Bydd yr arfer cenedlaethol
hwn yn cael ei ystyried yn 2001/2 gyda’r bwriad o gytuno ar drefniadau ariannu
newydd yn y dyfodol ar lefel genedlaethol gyda’r GPC a Bwrdd Cyfiawnder yr Ifanc;

• y GPC yn cymryd camau i sicrhau bod gwasanaethau i oedolion ifanc sy’n troseddu yn
cael eu darparu mewn ffyrdd sy’n cydblethu cymaint ag sy’n bosib â gwaith eu Timau
Troseddau Ieuenctid lleol;

• y GPC yn datblygu strategaeth genedlaethol ar y cyd â Bwrdd Cyfiawnder yr Ifanc.

4.1: Sicrhau bod gan oedolion ifanc sy’n troseddu “eu lle eu
hunain” yn nhrafodaethau’r sefydliad, wrth gynllunio
asesiadau perfformiad ac yn y strwythurau darparu
Mae gwella’r gwasanaeth a ddarperir i oedolion ifanc sy’n troseddu yn un o’r
meysydd ymestynnol ar gyfer y GPC yn ystod y tair blynedd nesaf.

Bwriedir cael dull gweithredu cysonach sydd wedi ei gydlynu’n well trwy Loegr a Chymru. Mae
ailarfarniad sylweddol o wasanaethau ar gyfer oedolion ifanc sy’n troseddu yn cael ei wneud ar
hyn o bryd ac mae’r System Cyfiawnder Troseddol yn genedlaethol yn rhoi blaenoriaeth iddo.
Mae’r GPC yn chwarae rhan lawn yn y gwaith. Mae pob rhan o’r rhaglen “Beth sy’n Gweithio”
eisoes yn berthnasol i’r grwp oedran hwn ond bydd dadansoddiad pellach o’r bwlch sy’n bodoli’n
dangos beth arall y mae angen ei wneud er mwyn cyflawni disgwyliadau cyffredinol y llywodraeth.

Bydd y GPC, yn dilyn hyn, yn cymryd camau cadarnhaol gyda chyrff eraill er mwyn datblygu
strategaeth ar gyfer oedolion ifanc sy’n troseddu. Bydd cryn dipyn o sylw’n cael ei roi i’r
strategaeth integredig hon a fydd yn delio gyda phroblemau tymor hir. Darperir arweiniad
canolog a gwasanaeth cydlynu gan y Gyfarwyddiaeth Genedlaethol a bydd cynllun busnes
yn cael ei ddatblygu yn 2001/2 ar ôl ymgynghori gyda phartneriaid allweddol fel Bwrdd
Cyfiawnder yr Ifanc, Carchardai ac asiantaethau pwysig eraill sy’n bartneriaid.

Disgwylir i Fyrddau Ardaloedd Prawf ddangos yn eu cynlluniau blynyddol eu bod yn


ailarfarnu eu perfformiad mewn perthynas ag oedolion ifanc sy’n troseddu ac yn cymryd
camau i ddarparu’r amgylchedd gweithio, y cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd eu hangen
er mwyn sicrhau’r canlyniadau angenrheidiol.

Dylid cyflwyno gwybodaeth sy’n ymwneud â’r grwp hwn ar wahân bob amser a rhaid iddynt
ddod yn grwp targed penodol sy’n sefyll ar ei ben ei hun yn holl gynlluniau buddsoddi,
adroddiadau ac adolygiadau’r GPC. Dim ond wedyn y gallwn wneud asesiad priodol o
berfformiad y GPC a llunio’r cynlluniau gweithredu sydd eu hangen er mwyn dylanwadu mwy ar
feddylfryd ac ymddygiad oedolion ifanc a cheisio sicrhau na cheir hwy’n euog o droseddu eto.

4.2: Atal troseddau ieuenctid


Er bod gwaith statudol y GPC yn ymwneud â phobl ifanc sydd eisoes wedi cyflawni troseddau,
rhaid i’r sefydliad ymestyn y tu hwnt i hyn ac ystyried atal troseddau. Dylai atal a lleihau nifer y
troseddau a gyflawnir gan ieuenctid ac oedolion ifanc felly gael blaenoriaeth yng nghynlluniau
diogelwch yn y gymuned y byrddau fel bod llai o bobl ifanc yn troi at droseddu yn y lle cyntaf.

28
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

A M C A N
AMCAN YMESTYNNOL V
Gorfodaeth

V
5. GOFYNION STRATEGOL
Mae hyder gweinidogion a’r cyhoedd yn y GPC yn dibynnu llawer iawn ar y graddau y mae
staff yn gorfodi telerau ac amodau gorchmynion statudol a thrwyddedau. Mae hyn yn
mynd at graidd cosb briodol a threfn y gyfraith trwy ategu awdurdod y llysoedd a’r Bwrdd
Parôl wrth iddynt ddedfrydu a gwneud penderfyniadau ynghylch rhyddhau’n gynnar.
Hefyd, yn fwy sylfaenol, pan nad yw troseddwyr yn cadw mewn cysylltiad, ni all rhaglenni
prawf gael unrhyw effaith ar eu hymddygiad troseddol, ac ni all y Gwasanaeth Prawf helpu
i amddiffyn y cyhoedd yn well.

Oherwydd y rhesymau hyn, mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi nodi mai gorfodaeth
fydd prif flaenoriaeth y GPC yn 2001/4. Mae’r rhan fwyaf o’r ardaloedd prawf wedi
gwneud gwelliannau sylweddol yn barod ac mae’r gyfradd orfodaeth gyffredinol wedi
codi o 44% yn 2000 i 70% ar ddechrau 2001. Gwelwyd cyfradd o 100% yn archwiliadau
diweddaraf rhai ardaloedd ac mae’r rhain i’w canmol. Roedd perfformiad ardaloedd
eraill, fodd bynnag, ar adeg ysgrifennu hyn cyn ised ag 20% a 27%.

Y gofyniad strategol yw cynnal perfformiad da lle mae’n digwydd yn barod a gwella


perfformiad pob ardal brawf arall, fel bod y Dangosydd Perfformiad Allweddol (DPA) ar
gyfer pawb gyda’i gilydd yn cyrraedd y Safon Genedlaethol mewn 90% o’r achosion.

5.1: Cyrraedd y Safon Genedlaethol


Er mwyn dangos pa mor bwysig yw’r maes ymestynnol hwn, rhoddwyd y pwyslais mwyaf
yn fframwaith rheoli perfformiad y GPC ar orfodaeth, hynny yw 40% o’r cyfanswm yn
2001/2 (gweler Amcan IX). Mae hyn yn golygu bod gan fyrddau ardaloedd prawf
gymhelliant uniongyrchol, trwy’r fformiwla cyfyngiad ariannol ar ddyrannu arian, i sicrhau
a chynnal safonau uchel yn y maes hwn.

Disgwylir i fyrddau ardaloedd prawf adlewyrchu’r flaenoriaeth hon yn eu cynlluniau


blynyddol, gan ystyried y ffaith bod y Safon Genedlaethol newydd yn mynnu mwy o lymder
a safonau uwch fyth yng nghyswllt gorfodaeth. Y safon sydd wedi ei gosod yn awr yw bod
camau tor-amod i’w cymryd ar yr ail fethiant annerbyniol neu cyn hynny gyda dedfrydau
cymunedol, ac ar y trydydd methiant annerbyniol neu cyn hynny gydag achosion
trwyddedau. Cyflwynwyd cosbau llymach gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a
Gwasanaethau Llys 2000. Bydd y rhain yn cael eu gweithredu cyn gynted ag y bydd
amgylchiadau – yn enwedig lleoedd mewn carchardai – yn caniatáu.

29
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

30
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

A M C A N
AMCAN YMESTYNNOL VI
Darparu gwybodaeth a gwasanaethau
cyn-treial da i’r llysoedd

V I
6. GOFYNION STRATEGOL
Mae’r GPC yn un o’r prif gyrff sy’n darparu gwasanaethau i ynadon a Llysoedd y Goron yng
Nghymru a Lloegr. O ganlyniad mae’n ofynnol i’r Gwasanaeth helpu’r llysoedd i fod yn
effeithlon ac yn effeithiol trwy ddarparu gwybodaeth, gwasanaethau cyn-treial a rhestrau o’r
gorchmynion goruchwyliaeth gymunedol y gellid eu hystyried ochr yn ochr â dewisiadau eraill
ar gyfer dedfrydau yn y gymuned neu mewn carchar, a’r cyfan yn fuan ac o safon uchel. Dylid
cyflwyno gwybodaeth y gofynnir amdani gan y llysoedd yn gyflym a dylai’r wybodaeth
alluogi’r llysoedd i wneud penderfyniadau buan ac effeithiol ynghylch aildraddodi a dedfrydu.

Rhaid i’r GPC geisio sicrhau deialog newydd, ar bob lefel, gyda dedfrydwyr a Chlercod yr
Ustusiaid er mwyn sicrhau bod gwaith y Gwasanaeth a’r hyn sydd ei angen arno er mwyn
bod yn effeithlon ac yn effeithiol hefyd yn cael eu deall a’u darparu, fel bod modd cytuno
ar y ffordd orau o dargedu’r adnoddau hyn a sicrhau’r budd gorau posib i’r naill a’r llall.
Mae’r rhan fwyaf o’r ardaloedd prawf eisoes wedi buddsoddi llawer o arian yn y gwaith o
gyfathrebu gyda dedfrydwyr a chlercod lleol a’u gwneud yn ymwybodol o’r gwasanaethau
a’r rhaglenni sydd ar gael ar eu cyfer. Mae angen edrych yn ofalus i ba raddau y mae’r
Gwasanaeth yn gyffredinol yn llwyddo i gyflawni’r hyn sydd ei angen, trwy astudio nifer y
cynigion mewn adroddiadau cyn-dedfrydu sy’n cael eu derbyn.

Mae ennyn hyder dedfrydwyr yn un o brif ofynion strategol y GPC yn 2001/4 ac mae angen
buddsoddi, ar lefel leol a chenedlaethol, er mwyn gwneud hyn.

Bydd angen i’r GPC ymateb i benderfyniadau pellgyrhaeddol sy’n debygol o gael eu
gwneud mewn ymateb i ddau adolygiad sylweddol sy’n cael eu gwneud yn barod.

Mae’r Arglwydd-Ustus Auld, y Barnwr Llywyddol Arweiniol, yn gwneud adolygiad o’r llysoedd
troseddau ar hyn o bryd. Disgwylir iddo gyflwyno adroddiad yn 2001. Ymhlith y materion sy’n
berthnasol i’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a allai godi o’r adolygiad hwn y mae newid
yng nghydbwysedd llysoedd y Goron a llysoedd ynadon, y posibilrwydd o gyflwyno rhai
llysoedd arbenigol (e.e. llysoedd cyffuriau) a newidiadau i’r hawliau ymddangos mewn llys.

Mae John Halliday, un o uwch swyddogion y Swyddfa Gartref, wedi gwneud adolygiad o’r
fframwaith dedfrydu sydd yn Neddf Cyfiawnder Troseddol 1991, Making Punishment
Work. Ymhlith y materion posib yma y mae llinell lai pendant rhwng dedfrydau o garchar
a dedfrydau digarchar a chyflwyno dedfryd newydd ‘caethiwed a mwy’, newidiadau i
drefniadau ar gyfer tor-amod a galw’n ôl, a chyfnodau goruchwylio gwahanol.

Mae canlyniadau’r adolygiad hwn yn debygol o gael effaith sylweddol ar y GPC yn ystod cyfnod
y fframwaith hwn. Cafodd y gwaith newydd hwn ei hepgor yn benodol o gyllid SR2000 a bydd
angen adnoddau ychwanegol gyda’r ddeddfwriaeth er mwyn gallu’i chyflwyno a’i gweithredu.

Wrth gwrs, ni allwn ond dyfalu ynghylch yr enghreifftiau uchod. Ond beth bynnag yw’r
canlyniadau, bydd angen i’r GPC allu ymateb yn gadarnhaol. Bydd y Gyfarwyddiaeth Genedlaethol
yn rhoi blaenoriaeth uchel i’r gwaith o gynhyrchu strategaeth yn fuan ar gyfer datblygu’r twf
a’r gallu hwn o fewn y Gwasanaeth mewn pryd ar gyfer y dyddiad gweithredu terfynol.

31
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

6.1: Gwella perfformiad


V I

Bydd byrddau’r ardaloedd prawf i gyd yn ailarfarnu eu trefniadau ar gyfer cysylltu â


A M C A N

dedfrydwyr yn 2001/2 ac yn cytuno ar gynllun gweithredu gyda llysoedd er mwyn gwneud


y cysylltiad holl bwysig hwn gydag ynadon a barnwyr. Dylid sefydlu trefniadau lleol ar gyfer
lefel y gwasanaeth er mwyn gosod y sylfaen ar gyfer cysylltu â dedfrydwyr, lefel a natur y
gwasanaethau sydd i’w cynnig gan y GPC i lysoedd a’r camau sydd i’w cymryd gan y
llysoedd, yn eu tro, er mwyn hwyluso’r trefniadau hyn a sicrhau cymaint ag sy’n bosib o
gydweithio a gwneud y ddwy ochr yn effeithiol.

Mae’r GPC yn anelu, yn ystod y cyfnod hwn, at sicrhau bod cyfleusterau gwybodaeth am
fechnïaeth yn y llysoedd yn gallu ymdrin â mwy o faterion a gweithio gyda’r Gwasanaeth
Carchardai er mwyn sicrhau bod cynlluniau mewn llysoedd ac mewn carchardai yn
gweithredu mewn ffordd ategol ac effeithlon. Yn fwyaf arbennig, dylai adroddiadau
gwybodaeth am fechnïaeth (tuag 20,000 y flwyddyn) gynnwys gwybodaeth am unrhyw risg
o aildroseddu neu berygl yn ogystal â gwybodaeth gadarnhaol i gefnogi mechnïaeth er mwyn
helpu llysoedd i benderfynu a ddylid cadw troseddwr yn y ddalfa neu ganiatáu mechnïaeth.

Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi cyhoeddi pwyslais newydd ar fechnïaeth a dylai’r


GPC felly ailarfarnu ei ddarpariaeth fechnïaeth yn ei chrynswth a llunio
strategaethau newydd gyda chyrff eraill er mwyn ehangu’r ddarpariaeth.

Bydd amseriad ac ansawdd adroddiadau cyn-dedfrydu yn effeithio’n uniongyrchol ar


fodlonrwydd dedfrydwyr, gan gyfrannu tuag at Gytundeb Gwasanaeth Cyhoeddus (CGC)
8 sy’n anelu at leihau erbyn 2004 y cyfnod rhwng arestio a dedfrydu neu benderfyniad arall
trwy leihau’r amser rhwng cyhuddiad a phenderfyniad ar gyfer pob diffynnydd.

Targedau’r GPC yn y cyswllt hwn yw cyflwyno adroddiadau i lysoedd yn gynt trwy:

• gynyddu cyfran yr adroddiadau cyn-dedfrydu (ACD) sy’n cael eu cwblhau o fewn y


safon genedlaethol o 15 diwrnod i 90%; a

• chynyddu cyfran yr adroddiadau i’r llys (h.y. ACD ac adroddiadau dedfryd benodol
(ADB)) sy’n ADB i 20% yn 2002/2 ac i 25% yn 2003/4.

Mae’r camau hyn yn berthnasol ar lefel byrddau ardaloedd prawf. Erys gagendor sylweddol
yn ymwybyddiaeth a dealltwriaeth dedfrydwyr o strategaeth Beth sy’n Gweithio y GPC a’r
ymgyrch i ddefnyddio’r gwahanol raglenni achredig yn unol â’r targed. Bydd pontio’r
gagendor hwn yn faes arall i ganolbwyntio arno ar bob lefel yn y GPC. Mae tîm canolog y
strategaeth Beth sy’n Gweithio wedi llunio “Testun Beth sy’n Gweithio” er mwyn helpu
ardaloedd lleol i gyfathrebu gyda llysoedd a dedfrydwyr yn y cyswllt hwn. Mae’n egluro’r
prif negeseuon a’r amserlen ar gyfer y prosiectau amrywiol, yn ogystal â rhoi sylw i faterion
cysylltiedig fel y rheolau newydd ar gyfer gorfodi cosbau cymunedol. Mae’n pwysleisio
effeithiolrwydd yr ymyriadau hyn a sut y maent i’w harfarnu.

Dylai byrddau ardaloedd prawf, yn eu trefniadau cysylltu lleol, gynnwys deialog a


thrafodaeth agored gyda dedfrydwyr, ynghylch y cyfraddau sydd wedi ymuno â rhaglenni,
ynghyd â chydymffurfiant, canlyniadau tor-amod a mesuryddion perfformiad eraill. Mae
deialog gref, sy’n seiliedig ar ganlyniadau yn fwy tebygol o ennyn hyder dedfrydwyr yn
ogystal â’u cael i ddweud beth allai’r GPC ei wneud i gynyddu eu hyder. Dylid gosod
targedau lleol ar gyfer nifer y cynigion sy’n cael eu derbyn gyda’r bwriad o gynyddu cyfradd
y cynigion hyn sy’n cael eu derbyn. Mae’n bwysig bod byrddau ardaloedd prawf yn cadw
golwg gyson ar ansawdd yr adroddiadau a baratoir gan eu staff ar gyfer llysoedd.

32
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

A M C A N
AMCAN YMESTYNNOL VII
Gwerthfawrogi a sicrhau amrywiaeth yn
y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a’r

V I I
gwasanaethau y mae’n eu darparu

7. GOFYNION STRATEGOL
Mae’r Llywodraeth hon wedi mynegi ei hymrwymiad i adeiladu cymdeithas decach a mwy
cynhwysol, ac mae wedi cyflwyno gofynion sylweddol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus sy’n
disgwyl iddynt ddangos cyfle cyfartal i staff sy’n gweithio yn y sefydliadau hyn ac i bobl sy’n
defnyddio’u gwasanaethau. Os yw’r weledigaeth hon i’w gwireddu yn y Gwasanaeth Prawf yna
mae’n hanfodol bod gwerthfawrogi a sicrhau amrywiaeth yn ffurfio rhan annatod o’r sefydliad
newydd – ym mhob agwedd ar ei harweinyddiaeth, ei strwythurau, ei pholisïau a’i hymarferion.

Yn ymarferol, mae hyn yn golygu sicrhau bod:

• y sefydliad newydd ei hun, a’r

• gwasanaethau y mae’n eu darparu, ar gael ac yn dderbyniol i bawb.

Mae cysylltiad agos iawn rhwng y ddau uchod.

Mae tri gofyniad strategol yn gysylltiedig â’r maes ymestynnol hwn ar gyfer y GPC:

• cyfiawnder syml – ni ddylai neb gael ei gau allan o’r GPC nac o’r gwasanaethau y
mae’n eu darparu oherwydd ei ryw, ei hil neu ei ethnigrwydd, ei gredoau crefyddol, ei
anabledd na’i dueddfryd rhywiol.

• effeithiolrwydd busnes – mae angen i’r GPC allu recriwtio, cadw a hybu’r staff gorau
posib ac mae hyn trwy ddiffiniad yn golygu bod yn agored i amrediad ac amrywiaeth
llawn y boblogaeth ehangach. Yn yr un modd, ni all busnes creiddiol y Gwasanaeth fod
yn effeithiol os nad yw’n sicrhau bod ei wasanaethau craidd ar gael i bob grwp targed
o ddioddefwyr a throseddwyr ac os nad yw’n darparu’r gwasanaethau hynny mewn
ffyrdd sy’n dderbyniol iddynt hwy.

• ennyn hyder y cyhoedd y mae’n eu gwasanaethu. Mae angen i bob rhan o’n cymunedau
allu edrych ar y GPC a gweld eu hunain a’u buddiannau yn cael eu hadlewyrchu yno
trwy gyfansoddiad y Byrddau Prawf a staff y GPC. Mae angen iddynt hefyd weld
tystiolaeth bod y gwasanaeth ar gael iddynt hwy a’i fod yn briodol i’w hanghenion hwy.

Bydd y GPC yn defnyddio’r rhaglen ddiwygio i wau’r gwerthoedd a’r disgwyliadau hyn i
bob agwedd ar ei ddatblygiad a’i gynlluniau ar gyfer darparu gwasanaeth. Mae angen i ni
wneud y newid diwylliannol a dechrau gweld amrywiaeth nid fel “problem” ond fel rhywbeth
i’w werthfawrogi fel rhan o gryfder y Gwasanaeth.

Bydd strategaeth cydraddoldeb hiliol yr Ysgrifennydd Cartref yn ganolog i’r holl drefniadau
newydd a bydd y GPC yn bwrw ’mlaen â’i waith ar wasanaethau i ferched sy’n troseddu
mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Carchardai. Ond maes arall ddylai gael ei ystyried yn
ofalus yw anabledd gan mai hon ar hyn o bryd yw’r agwedd sydd wedi ei datblygu leiaf yn
strategaeth amrywiaeth y GPC.

33
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

7.1: Cynnydd ar sail targedau cyflogaeth/staffio


V I I

Ymatebodd y Gwasanaeth Prawf yn fuan i strategaeth cydraddoldeb hiliol yr Ysgrifennydd


Cartref. Cyhoeddwyd adroddiad yn dwyn y teitl “Race Equality – Developing Minority
A M C A N

Ethinc Representation in Probation Services” yn Awst 1999 ac roedd yn cynnwys


argymhellion a chynllun gweithredu manwl. Rhoddwyd y cyfrifoldeb am weithredu
argymhellion yr adroddiad hwn a chyflwyno adroddiadau rheolaidd am y cynnydd a
wnaethpwyd i grwp gweithredu cydraddoldeb hiliol.

Mae’r Gwasanaeth Prawf wedi bod yn gymharol dda am recriwtio staff o leiafrifoedd
ethnig. Dengys ystadegau staffio ar gyfer Rhagfyr 1999 bod nifer y staff o leiafrifoedd
ethnig sy’n dal i gael eu cyflogi gan y Gwasanaeth yn uwch na’r gyfran sydd yn y
boblogaeth genedlaethol a bod canran gyffredinol y staff o leiafrifoedd ethnig yn 9.9% o
gymharu â tharged yr Ysgrifennydd Cartref ar gyfer y Gwasanaeth, sef 8.3% (ar y blaen i
asiantaethau eraill yn y system gyfiawnder troseddol o bell ffordd). Er hyn, awgryma
tystiolaeth bod y cyfraddau ar gyfer dal gafael ar staff o leiafrifoedd ethnig yn is na’r
cyfraddau ar gyfer cydweithwyr gwyn a bydd gwaith yn cael ei wneud er mwyn ceisio deall
pam bod hyn yn digwydd a chywiro’r sefyllfa.

Elfen arall sy’n peri pryder yw’r ffaith fod canran y staff o dras Asiaidd, sef 1.5%, yn llawer
is na’r disgwyl. Bydd gwaith penodol yn cael ei wneud felly er mwyn ennyn ymddiriedaeth
cymunedau Asiaidd a hyrwyddo’r GPC fel cyflogwr credadwy yn y cymunedau hyn.

Mae’n braf gwybod bod canran y staff o leiafrifoedd ethnig ar lefelau rheolwyr rheng ganol
wedi cynyddu o 3.4% yn Rhagfyr 1997 i 5.6% yn Rhagfyr 1999. Mae hyn yn golygu bod y
targed o 5.5% ar gyfer 2004 wedi ei gyrraedd yn barod ac mae’r ganran yn dal i gynyddu.

Roedd penodi’r prif swyddog cyntaf o leiafrif ethnig yn Rhagfyr 2000 yn gam pwysig
ymlaen i’r Gwasanaeth hwn ac mae’n neges gadarnhaol i gydweithwyr o leiafrifoedd
ethnig. Fodd bynnag, mae nifer yr uwch reolwyr sydd o leiafrifoedd ethnig yn dal i fod yn
annerbyniol o isel. Yn 1997 roedd gan y Gwasanaeth bum aelod o staff o leiafrif ethnig ar
raddfa Prif Swyddog Cynorthwyol ac yn 1999 roedd y nifer yn dal i fod yn bump. Mae
angen mwy o reolwyr rheng flaen ac uwch reolwyr du ac Asiaidd yn y Gwasanaeth a mwy
o amrywiaeth yn y cyswllt hwn yng ngraddfeydd y Prif Swyddogion. Mae angen cynnydd
yn ddi-oed yn y maes hwn. Mae prosiect peilot ar ganolfannau datblygu a chynlluniau
mentora wedi ei sefydlu.

Dan y rhaglen foderneiddio, wrth benodi byrddau ardaloedd prawf newydd, gwnaethpwyd
llawer iawn o waith i sicrhau bod nifer dda o bobl o leiafrifoedd ethnig yn ymgeisio i fod
yn aelodau ac yn gadeiryddion. Bu’r broses hon yn llwyddiannus iawn a chychwynnodd y
Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol ar ei daith ar 1 Ebrill 2001 gydag 20% o gadeiryddion y
42 bwrdd ardal yn dod o grwpiau lleiafrifoedd ethnig.

Gosodwyd targedau penodol er mwyn hybu ac arolygu cynnydd y GPC ar sail targedau
cyflogaeth cydraddoldeb hiliol yr Ysgrifennydd Cartref (a gyhoeddwyd yng Ngorffennaf
1999) a oedd yn anelu at godi lefelau cynrychiolaeth, cadw a datblygiad gyrfa pobl o
grwpiau lleiafrifoedd ethnig.

Dyma’r targedau:

Cynrychiolaeth

Mae’r targedau rhanbarthol ar gyfer cynrychiolaeth o leiafrifoedd ethnig mewn


gwasanaethau prawf i’w gweld mewn print tywyll yn y tabl isod.

34
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

A M C A N
Rhanbarthau Cyfran y bobl % Lefel lleiafrifoedd ethnig Rhagfyr 19973
Swyddfeydd o leiafrifoedd Targed 2
% ar raddfa % heb fod % o’r holl
y Llywodraeth ethnig ym swyddogion ar raddfa staff
mhoblogaeth prawf swyddogion
weithio’r prawf
rhanbarth1

V I I
Gogledd-ddwyrain Lloegr 1.4% 1.4% 1.6% 0.5% 1.0%

Gogledd-orllewin Lloegr 4.3% 5.4% 7.3% 3.7% 5.4%

Swydd Efrog a Glannau


Humber 5.1% 5.1% 6.0% 4.3% 5.0%

Dwyrain y Canolbarth 4.7% 7.2% 8.0% 6.6% 7.2%

Gorllewin y Canolbarth 9.0% 11.6% 13.6% 10.2% 11.6%

Dwyrain Lloegr 3.4% 4.9% 3.5% 5.9% 4.9%

Llundain 24.2% 26.5% 21.9% 30.6% 26.5%

De-ddwyrain Lloegr 3.4% 3.6% 3.5% 3.6% 3.6%

De-orllewin Lloegr 1.3% 2.6% 2.6% 2.6% 2.6%

Cymru 1.4% 1.7% 2.1% 1.5% 1.7%

Lloegr a Chymru 7.0% 8.6% 8.1% 8.3%


1
Arolwg Gweithlu (1996-8 12 Chwarter).
2
Targedau a nodwyd yn ymwneud â chyfanswm y staff ym mhob rhanbarth.
3
Ystadegau Prawf y Swyddfa Gartref yn Lloegr a Chymru 1997.

Cadw staff

Y targed cenedlaethol yw sicrhau bod y cyfraddau ymddiswyddo fesul graddfa yr un fath


ar gyfer staff o leiafrifoedd ethnig ac ar gyfer staff gwyn.

Datblygu Gyrfa

Cyfran y staff o leiafrifoedd ethnig ar lefelau (i) uwch swyddogion prawf, (ii) prif swyddogion
prawf cynorthwyol/rheolwyr ardal a (iii) dirprwy brif swyddogion/prif swyddogion.

Y targed cenedlaethol yw: erbyn diwedd 2001/2 i’r cyfrannau fod yn 5.1%, 3.6% ac 1.4%
o leiaf yn y drefn honno; ac erbyn diwedd 2003/4 yn 5.5%, 3.6% a 2.9% o leiaf.

Merched
Yn 1989 roedd canran y swyddogion prawf benywaidd yn 40% o’r cyfanswm. Cynyddodd
y gyfran hon i 50% erbyn 1993 ac i 56% erbyn Mehefin 2000. Ymhlith graddfeydd
swyddogion prawf sy’n uwch na’r brif raddfa mae’r gyfran sy’n ferched wedi codi hyd yn
oed yn gynt, o 27% yn 1989 i 44% erbyn diwedd Mehefin 2000. Roedd tua 71% o’r
swyddogion prawf dan hyfforddiant a gyflogid ar ddiwedd Mehefin 2000 yn ferched.

Ond dim ond 17 o’r 54 Prif Swyddog Prawf a gyflogid ar ddiwedd Mehefin 2000 oedd yn
ferched. Er mai dyma’r nifer uchaf a gofnodwyd yn y gorffennol mae’n amlwg nad yw’n
gymesur â nifer y merched ar raddfeydd eraill yn y Gwasanaeth. Llwyddodd y broses newydd
ar gyfer recriwtio a phenodi Prif Swyddogion i ailsefydlu cydbwysedd rhwng y ddau ryw ar
y lefel hon. Mae’r gymhareb merched: dynion yn y grwp prif swyddogion bellach yn 18:24.

35
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

Anabledd
V I I

Nid oes gan y GPC ar hyn o bryd ddata dibynadwy sy’n cael eu cynhyrchu’n rheolaidd i
ddarparu proffil cymharol o anabledd. Dan arweiniad y Pennawd Strategol Adnoddau
A M C A N

Dynol yn y Gyfarwyddiaeth Genedlaethol bydd hwn yn dod yn faes i roi blaenoriaeth iddo
o safbwynt datblygu o 2001/2 ymlaen.

7.2: Darparu gwasanaeth


Mae gwerthfawrogi a sicrhau amrywiaeth yn gyfystyr ag ymarfer da ac yn hanfodol i waith
creiddiol y GPC gyda throseddwyr, dioddefwyr a chymunedau. Felly, os na fydd yn cael ei
integreiddio i bob agwedd ar waith y Gwasanaeth ni fydd yn cyflawni ei ddyletswydd.

Ym Mai 2001, lluniwyd strategaeth atodol Beth sy’n Gweithio ar y pwnc hwn er mwyn
cydnabod y strategaeth amrywiaeth newydd, ac mae’n cynnwys ymchwil, prosiectau peilot
a phartneriaethau gyda chymunedau lleol.

Bydd y GPC yn anelu yn awr at gynhyrchu’r math o ddata proffilio sydd ei angen er mwyn
gallu penderfynu a yw’r gwasanaethau yn cael eu cynnig mewn gwirionedd a hynny mewn
ffordd hawdd cael gafael arnynt i’r boblogaeth gyflawn sydd wedi ei thargedu gan y GPC,
yn ddioddefwyr a throseddwyr. Rhaid sicrhau felly bod trefniadau arolygu cynhwysfawr yn
cael eu datblygu a’u sefydlu mewn modd dibynadwy fel mater o flaenoriaeth. Bydd angen
i holl ystadegau ac asesiadau perfformiad staff y GPC, troseddwyr a dioddefwyr gyflwyno
adroddiadau mewn ffyrdd sy’n dangos grwpiau o leiafrifoedd ethnig, merched a phobl
anabl ar wahân. Rhaid i’r dosbarthiadau hefyd fod yn gydnaws â rhannau eraill o’r system
gyfiawnder troseddol ac mae dosbarthiadau hil ac ethnigrwydd y gwasanaeth prawf allan
ohoni ar hyn o bryd. Bydd camau’n cael eu cymryd i gywiro’r anghysonder hwn yn 2001/2.

Hil
Dangosodd adroddiad thematig diweddar Arolygiaeth Prawf ei Mawrhydi ar gydraddoldeb
hiliol fod llawer iawn o anghysonderau ac ymarfer gwael mewn rhai agweddau a
mynegwyd cryn bryder ynghylch ansawdd adroddiadau a goruchwyliaeth troseddwyr o
leiafrifoedd ethnig gan y GPC. Ers hynny, mae cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol wedi
ei ddatblygu a bydd y cynllun hwn yn cael ei weithredu yn awr fel mater o flaenoriaeth.
Mae cylch gorchwyl y Grwp Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol eisoes wedi ei ymestyn er
mwyn goruchwylio cynnydd mewn perthynas â’r ddau argymhelliad a wnaethpwyd yn yr
adroddiad “Increasing minority representation in Probation Services” yn ogystal ag
argymhellion yn ymwneud â darparu gwasanaeth a wnaethpwyd yn yr adroddiad thematig.
Mae gweithgor darparu gwasanaeth sy’n seiliedig ar gydraddoldeb hiliol wedi ei sefydlu er
mwyn bwrw ’mlaen â’r gwaith manwl hwn a bydd yn cydweddu â datblygiadau ar gyfer
pob maes ymestyn darpariaeth gwasanaeth sydd wedi ei nodi yn y ddogfen fframwaith hon
a’r strategaeth amrywiaeth Beth sy’n Gweithio.

Sefydlodd y tîm Beth sy’n Gweithio Grwp Amrywiaeth yn ddiweddar er mwyn rhoi
cyfarwyddyd i ardaloedd ynghylch datblygu gwasanaethau ar gyfer troseddwyr o
leiafrifoedd ethnig, merched a grwpiau lleiafrifol eraill. Mae hefyd wedi comisiynu
adolygiad o gynnwys y pedair rhaglen achredig ar gyfer troseddau cyffredinol er mwyn
sicrhau eu bod o fewn cyrraedd a’u bod yn ymateb i’r holl wahanol fathau o droseddwyr
sydd wedi eu targedu. Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud gyda’r Cyd-banel Achredu
trwy gyflwyniadau ym Mawrth a Hydref 2001, a bydd pob rhaglen newydd sy’n cael ei
datblygu yn cyfuno gwaith ar faterion amrywiaeth o’r dechrau.

36
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

Merched

A M C A N
Yn dilyn yr ymrwymiad yn Joining Forces to Protect the Public, mae’r Llywodraeth wedi
cyhoeddi Strategy for women offenders (Hydref 2000), fel dogfen ymgynghorol, yn
ymwneud â gwaith y Gwasanaeth Carchardai a’r Gwasanaeth Prawf ar gyfer merched sy’n
troseddu, gan ganolbwyntio ar y dull o leihau aildroseddu a gofnodwyd yn Beth sy’n
Gweithio. Mae’r ddogfen yn nodi bod angen rhaglenni sy’n gweithio ar gyfer merched, a

V I I
gwell cysylltiadau rhwng rhaglenni’r gwasanaethau cywiro a rhaglenni cymunedol ar gyfer
merched hawdd eu niweidio. Mae’r strategaeth yn cynnwys ymrwymiad gan y Llywodraeth
y bydd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol newydd yn neilltuo adnoddau canolog newydd
er mwyn sicrhau bod yr arferion gorau ar gyfer merched sy’n troseddu’n cael eu dosbarthu
i bob rhan o’r gwasanaeth cenedlaethol. Gellir gweld y rhaglen waith ar gyfer merched sy’n
troseddu, unwaith eto, o fewn strategaeth Beth sy’n Gweithio y GPC.

Bydd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol hefyd yn cyfrannu tuag at y gwaith o ddatblygu dull
gweithredu strategol cydgysylltiedig er mwyn mynd i’r afael â throseddau merched trwy:

• neilltuo adnoddau canolog ar gyfer y broblem hon;

• ymdrin â rhaglenni, ymchwil a materion adsefydlu ar y cyd â’r Grwp Polisi Merched yn
y Gwasanaeth Prawf; ac

• ystyried yr angen am gynlluniau polisi ac ymarfer newydd mewn perthynas â hosteli


mechnïaeth, cysylltiadau â darpariaeth ar gyfer merched yn y gymuned, a’r angen am
dargedau ar wahân mewn perthynas â lleihau troseddau merched.

Dioddefwyr
Dylid cofio hefyd bod nifer y merched sy’n ddioddefwyr yn aml iawn yn fwy na nifer y
dynion sy’n ddioddefwyr yn enwedig gyda rhai mathau o droseddau, fel trais rhywiol a
thrais yn y cartref.

Targedir rhai dioddefwyr hefyd oherwydd eu hil neu eu hethnigrwydd.

Mae casglu tystiolaeth i ddangos a yw’r GPC yn llwyddo i gyflawni ei ddyletswyddau


statudol mewn perthynas â phob grwp o ddioddefwyr yn flaenoriaeth yn y maes hwn. Bydd
gweithredu sy’n seiliedig ar gywiro yn cael ei dargedu yn unol â’r dystiolaeth hon.

37
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

38
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

A M C A N
AMCAN YMESTYNNOL VIII
Adeiladu sefydliad rhagorol sy’n addas
ar gyfer ei bwrpas

V I I I
8. GOFYNION STRATEGOL
Y gofyniad strategol yw ein bod yn adeiladu sefydliad sydd â’r gallu i gyflwyno
blaenoriaethau a chanlyniadau angenrheidiol yr Ysgrifennydd Cartref, sef y portffolio
darparu gwasanaeth a amlinellwyd mewn rhannau cynharach o’r papur hwn. Rhaid paratoi
pob rhan o’r GPC ar gyfer y pwrpas hwn, gan ddefnyddio ymarfer sy’n seiliedig ar
dystiolaeth fel y brif egwyddor gynllunio. Mae hyn yn golygu bod angen i’r egwyddor
ymestyn y tu hwnt i lunio rhaglenni ar gyfer troseddwyr a dioddefwyr, a bod yn rhan o
strwythurau cyfundrefnol, y sefydliadau a’r prosesau busnes. Mae’r Model Rhagoriaeth
Ewropeaidd (MRhE) yn rhoi cyfrwng hunan-asesu empirig i ni ac yn dangos sut mae sicrhau
rhagoriaeth o fewn sefydliad. Cawn ein hatgoffa trwyddo mai dim ond pan fo galluogwyr
allweddol fel arweinyddiaeth a pholisïau a gofal am bobl wedi eu sefydlu’n gadarn fel rhan
o wir arferion a gwead y sefydliad y gellir sicrhau perfformiad a chyrhaeddiad da. Mae
cymhwyso’r model yn debygol o arwain at raglen sylweddol o welliannau.

Mae rhaglen ddiwygio ac ailadeiladu’r Gwasanaeth Prawf wedi ei dechrau’n barod (rhaglen
foderneiddio/trawsnewid) ond, oherwydd graddfa a dyfnder y newid, bydd y rhaglen hon
yn parhau trwy gydol y cyfnod hwn. Yn fwyaf arbennig, mae angen cyfuniadau newydd o
bobl a sgiliau er mwyn adlewyrchu’r newidiadau sydd eu hangen mewn arferion a rhoi i’r
GPC yr arweiniad cadarn, y rheolaeth gymwys a’r gefnogaeth weinyddol ac arbenigol
fedrus sydd ei hangen er mwyn sicrhau’r canlyniadau disgwyliedig. Ochr yn ochr â’r
ailarfarniad hwn o’r adnoddau dynol sydd eu hangen bydd prosesau busnes newydd sy’n
ceisio darparu isadeiledd cadarn ar gyfer cyllido a buddsoddi, systemau stadau a
chyfleusterau a gwybodaeth a TG sy’n cefnogi anghenion busnes newydd y GPC.

Mae unrhyw raglen sy’n cynnwys llawer o newidiadau mewn perygl o ansefydlogi sefydliad
a’i bobl. Mae’n bwysig iawn felly bod y newidiadau hyn yn cael eu cynllunio a’u rheoli’n
ofalus, eu bod yn cael eu rheoli a’u gweithredu gan arbenigwyr, a bod y prosesau a’r
penderfyniadau yn agored, yn eglur a bod y staff yn gysylltiedig â hwy. Mae gwella
cyfathrebu mewnol, yn ogystal ag allanol, yn flaenoriaeth felly yn 2001/2.

Mae’r newid disgwyliedig yn nulliau gweithredu’r GPC yn bellgyrhaeddol a bydd y


newidiadau’n digwydd yn gyflym; o ganlyniad mae angen trefniadau pendant ar gyfer
rheoli ac asesu risg yn ystod pob cam.

Mae dilyniant busnes a gofal am staff yn bwysicach na dim.

8.1: Buddsoddi mewn Pobl


Er mwyn bod yn effeithiol rhaid i’r GPC sefydlu ei hun fel cyflogwr o’r radd flaenaf. Mae
hyn yn golygu dangos y bydd yn buddsoddi mewn datblygu a chefnogi ei staff a chreu
fframwaith ar gyfer dysgu parhaus yn y sefydliad. Mae’n golygu cyfleu o ddifri ei fod yn
gwerthfawrogi ei staff presennol a’i fod yn ymrwymedig i ddatblygu eu cymhelliant a’u
sgiliau yn ogystal â dod â chydweithwyr newydd i mewn a all ychwanegu mwy at sylfaen
sgiliau bresennol y sefydliad.

39
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

Prif nodweddion rhaglen ddysgu’r GPC fydd ei gallu i ddarparu fframwaith sy’n cynnwys
V I I I

pob swydd sydd yn y Gwasanaeth, nodi sylfaen hyfedredd pob un, gosod y rhain mewn
gwe gyflawn o safonau a chymwysterau galwedigaethol a darparu hyfforddiant sy’n
datblygu gwybodaeth a sgiliau staff. Mae’r GPC yn anelu at ddarparu mwy o gyfleoedd i’w
A M C A N

staff. Yn draddodiadol mae staff wedi bod yn symud yn eu blaenau o fewn y sefydliad trwy
swyddi rheoli. Byddwn yn datblygu llwybrau newydd ar gyfer ymarferwyr, rheolwyr a staff
cefnogi gan gydnabod awdurdod proffesiynol pob un a’r cyfraniad gwerthfawr y maent yn
ei wneud i berfformiad a llwyddiant y Gwasanaeth.

Bydd y Gyfarwyddiaeth Genedlaethol yn cynnwys tîm adnoddau dynol cryf, y


bwriadwyd iddo arwain a datblygu strategaeth adnoddau dynol helaeth ar gyfer
y GPC. Bydd hyn yn cynnwys:

• deall ac atal y duedd bresennol i golli profiad a sgiliau mewn rhai meysydd
gwasanaeth. Yn ogystal ag adeiladu strategaeth ymadael gref ar gyfer y dyfodol bydd
hyn yn cynnwys arolwg ôl-syllol uniongyrchol o staff a gollwyd yn ddiweddar fel bod
modd defnyddio gwybodaeth ffeithiol, yn hytrach na damcaniaeth, er mwyn
ailarfarnu’r broblem hon a sicrhau bod camau cadarnhaol yn cael eu cymryd.

• cynllunio gweithlu. Yn 1999 gwnaethpwyd yr arolwg cynllunio gweithlu cyntaf gan y


Swyddfa Gartref, Cymdeithas y Prif Swyddogion Prawf a’r CPC. Roedd yr arolwg hwn
yn canolbwyntio ar staff darparu gwasanaeth a chawsom y darlun cenedlaethol cyntaf
o’r modd yr oedd gwasanaethau’n cynllunio ar gyfer gofynion eu staff darparu
gwasanaeth yn y dyfodol, yng ngoleuni’r agenda a oedd yn datblygu ar gyfer Beth sy’n
Gweithio. Mae’r ail arolwg yn cael ei wneud ar hyn o bryd, a gofynnwyd i wasanaethau
ragamcanu faint o staff y bydd arnynt eu hangen yn ystod y tair blynedd nesaf ar sail
cytundeb SR 2000, gan ganolbwyntio unwaith eto ar staff darparu gwasanaeth.

Disgwyliwn y bydd hyn yn rhoi darlun cliriach i ni o’r modd y mae gwasanaethau’n
bwriadu cyflawni eu gofynion staffio fel y mae’r rhaglenni achredig yn cael eu lledaenu
ac yn dechrau ailfeddwl am rolau swyddi traddodiadol. Bydd y wybodaeth a geir yn cael
ei defnyddio fel sylfaen ar gyfer swyddogion prawf a swyddogion y gwasanaeth prawf
yn fwyaf arbennig wrth iddynt ystyried gofynion recriwtio a hyfforddi.

Mae angen gwneud mwy o waith er mwyn nodi anghenion tebyg mewn perthynas â
staff cefnogi a staff arbenigol eraill yn y sefydliad.

• buddsoddiad sylweddol yn y gwaith o ddatblygu a diweddaru sgiliau staff


presennol a dysgu sgiliau i staff newydd. Mae’r adnodd a nodwyd i’r diben hwn
wedi ei ddyblu ar gyfer blwyddyn gyntaf y Gwasanaeth newydd, a bydd yn cynyddu eto
ym Mlwyddyn 2. Yn ogystal â sicrhau hyfforddiant o safon, canolbwyntir ar “gadw’r
effaith” wrth ddychwelyd i’r swydd, gyda rheolwyr yn sicrhau’r lle a’r amgylchedd i’r
dysgu hwn ddigwydd mewn ymarfer go iawn. Hefyd, fel y mae staff newydd gyda
gwahanol sgiliau’n cael eu recriwtio, rhaid cofio bod arnynt hwythau hefyd angen
cyflwyniad a sylfaen, gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o’r Gwasanaeth y maent yn
gweithio iddo a chyd-destun eu swydd neu eu rôl benodol hwy yn y gwaith.

• buddsoddi mewn arweinyddiaeth a rheolaeth gymwys. Mae llawer iawn o


adnoddau gwasanaeth wedi eu neilltuo yn ystod y cyfnod o drawsnewid er mwyn
recriwtio byrddau prawf newydd a sicrhau bod y GPC yn dechrau gyda thîm o brif
swyddogion eiddgar a chymwys. Mae trefniadau wedi eu gwneud i aildrefnu uwch
dimau rheoli a thimau rheoli rheng flaen yn ystod 2001/2. Mae’n bwysig iawn bod y
GPC yn gwneud adolygiad sylweddol o’i anghenion rheoli ac yn buddsoddi llawer o
arian mewn recriwtio a chadw staff, yn ogystal â hyfforddi a chefnogi ei reolwyr. Mae

40
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

camau wedi eu cymryd ar y dechrau er mwyn sicrhau bod aelodau’r byrddau,

A M C A N
cadeiryddion a phrif swyddogion yn cael eu cyflwyno’n effeithiol, a bod rhaglen ddysgu
a buddsoddi’n cael ei datblygu ar gyfer y dyfodol. Mae’r gofynion i reolwyr rheng flaen
ac uwch reolwyr hefyd wedi newid llawer a bydd ailarfarniad manwl o’r rolau, y
cymwyseddau a’r anghenion hyfforddi hyn yn dechrau yn 2001/2.

• arfarnu swyddi. Yn sgil y rhaglen newidiadau, mae’n amlwg bod ar y GPC angen

V I I I
cynllun arfarnu swyddi cadarn a dibynadwy. Derbyniwyd fel ateb tymor byr, y dylid
“addasu ychydig” ar y cynllun statws unigol sydd gan lywodraeth leol fel bod modd ei
fabwysiadu fel cynllun enghreifftiol ar gyfer y Gwasanaeth cyfan. Bwriedir i hyn helpu’r
sefydliad trwy’r broses drawsnewid yn unig. Yn y tymor canolig byddir yn edrych
unwaith yn rhagor ar rôl arfarnu swyddi yng ngoleuni gwaith sy’n cael ei wneud yn awr
mewn perthynas â materion cyflogau a graddfeydd.

Bydd y camau dros dro’n barod i gael eu defnyddio gan wasanaethau yn 2001 a bydd modd
arfarnu pob rôl weithredol. Bydd yr hyn a ddysgir o’r broses hon a’r cynllun arfarnu
swyddi dros dro yn ffurfio llwyfan ar gyfer newidiadau a datblygiadau yn y dyfodol.

• ailarfarnu’r systemau cyflogau a gwobrwyon presennol. Yr unig ffordd y gellir


recriwtio a chadw gweithlu sydd â sgiliau da a digon o frwdfrydedd yw trwy sicrhau
bod y strategaeth adnoddau dynol yn cael ei chefnogi gan system briodol ar gyfer
cyflogau a gwobrwyon. Mae hwn yn faes sydd i gael blaenoriaeth yn 2001/2.

• polisïau recriwtio – yn unol â’r strategaeth ar gyfer hybu, annog a chadw staff. Mae’r
rhain yn bwysig iawn ar adeg pan fo proffil sgiliau a hyfedredd y sefydliad yn newid.
Bydd sylfaen wybodaeth y GPC er enghraifft, yn symud yn bellach oddi wrth waith
cymdeithasol tuag at seicoleg a throseddeg. Mae gwir angen mwy o graffter cyllid a
busnes, ynghyd â sgiliau technoleg gwybodaeth, gwybodaeth, arfarnu ac ymchwil i
enwi dim ond rhai yn y GPC. Amcangyfrifir y bydd angen cynnydd o tua 4,500 yn nifer
y staff erbyn 2004 er mwyn cyflwyno’r rhaglen Beth sy’n Gweithio – i gynnwys
darparwyr rhaglenni, rheolwyr achosion a’r staff gweinyddol i’w cefnogi.

• dyletswydd i ofalu. Mae diwygiadau i bolisïau ac i’r sefydliad, yn ogystal â


newidiadau sylweddol mewn arferion gweithio, yn rhoi staff ar bob lefel dan gryn
bwysau. Bydd yr ymrwymiad i fframwaith y “Cytundeb ar y Cyd” y cytunwyd arno yn
ddiweddar rhwng y Swyddfa Gartref, CPC, Cymdeithas y Prif Swyddogion Prawf a’r
undebau llafur yn parhau. Bydd ymrwymiad y GPC iddo’n parhau. Ond mae’n hanfodol
sefydlu ffordd gyffredin o fesur baich gwaith.

Gosodwyd targed cenedlaethol ar gyfer y GPC o leihau absenoldeb oherwydd salwch


yn y Gwasanaeth i gyfartaledd o naw diwrnod ar gyfer pob aelod o’r staff yma erbyn
2004 a chadw’r gwelliant hwn yn dilyn hynny. Bydd camau’n cael eu cymryd er mwyn
casglu mwy o wybodaeth am salwch staff fel sylfaen ar gyfer polisïau’r dyfodol.

Mae partneriaeth ddynamig, sy’n edrych tua’r dyfodol gyda’r undebau llafur yn hanfodol i
lwyddiant y rhaglen newid hon ac mae angen adolygu y trefniadau cyd-drafod rhwng staff
lleol ac ochr y cyflogwr.

Yn ychwanegol at hyn, bydd y Gyfarwyddiaeth Genedlaethol yn ceisio sicrhau partneriaeth


gadarnhaol gyda sefydliad newydd y cyflogwr, Cymdeithas y Byrddau Prawf wrth iddi
gyflawni ei rôl o gefnogi byrddau prawf â’u swyddogaeth fel cyflogwyr.

41
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

8.2: Craffter mewn cyllid a busnes


V I I I

Mae hwn yn faes sy’n galw am gyfuniad pwerus o gynllunio busnes a meddylfryd strategol
er mwyn gwneud cais a llwyddo i ddenu’r buddsoddiad sydd ei angen mewn gwasanaeth
yn y dyfodol, ac ar yr un pryd gweithredu yn gywir ac yn onest fanylion cyfrifyddiaeth a
A M C A N

rheolaeth ariannol dydd i ddydd.

Mae hwn yn faes a fydd yn cael ei ymestyn gryn dipyn o fewn y sefydliad yn ystod y
blynyddoedd sydd i ddod wrth i ni symud oddi wrth doriadau y naill flwyddyn ar ôl y llall
at fuddsoddiad a thwf newydd sylweddol.

Mae ymarfer effeithiol yn y meysydd newid isod yn hanfodol er mwyn sicrhau lles a
chywirdeb cyllidol y GPC yn y dyfodol:

• symud cyfrifon y GPC o reoliadau cyfrifyddiaeth awdurdodau lleol i ofynion cyfrifyddiaeth


llywodraeth ganolog

• gweithredu a gwella’r fformiwla cyfyngiad ariannol newydd

• paratoi’r Gwasanaeth ar gyfer gweithredu’r trefniadau archwilio newydd:

i) archwiliad allanol i’w ddarparu fel a ganlyn, h.y. y Swyddfa Archwilio Genedlaethol
i archwilio’r Gyfarwyddiaeth Genedlaethol a’r Comisiwn Archwilio i archwilio’r 42
bwrdd prawf – gan gytuno ar gynlluniau archwilio blynyddol;

ii) archwiliad mewnol i fod yn gyfrifoldeb i Uned Archwilio a Sicrwydd y Swyddfa Gartref
erbyn 1 Ebrill 2002 a bydd yr union drefniadau’n cael eu pennu yn dilyn yr adolygiad
Gwasanaethau o Ansawdd Gwell. Bydd y cynllun archwilio mewnol cyntaf ar gyfer
y GPC, fodd bynnag, yn cael ei baratoi ar gyfer ei weithredu o 1 Ebrill 2001 ymlaen.

• sefydlu prosesau busnes cyffredin lle mae’n cyfri ym mhob rhan o’r GPC.

Mae’n bwysig iawn bod yr adnodd newydd a neilltuwyd yng nghytundeb SR2000 yn cael
ei fuddsoddi a’i dargedu yn unol â’r canlyniadau disgwyliedig.

Mae angen cryn dipyn o ymestyn yn y GPC yng nghyswllt sicrhau contractau, rheoli risg,
cynllunio busnes, rheoli prosiectau/rhaglenni, a rheoli archwiliadau ac atebolrwydd. Bydd y
rhain yn cael eu cynnwys yn yr ystyriaethau hyfforddi cynnar ar gyfer y Gwasanaeth newydd.

8.3: Buddsoddi mewn systemau gwybodaeth a thechnoleg


gwybodaeth
Mae angen gwybodaeth o safon ar ymarferwyr, rheolwyr a gwasanaethau cefnogi er mwyn
eu helpu i wneud penderfyniadau yn ogystal â galluogi’r GPC i roi cyfrif i eraill ac aros
mewn busnes. Rhaid i’r GPC geisio bod yn sefydliad sy’n meddu ar sgiliau cyfrifiadurol da
ac sy’n manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil y dechnoleg newydd i gefnogi ei brif
swyddogaethau busnes. Mae’r Gyfarwyddiaeth Genedlaethol a’r 42 bwrdd prawf wedi
ymrwymo’u hunain gant y cant i ddefnyddio TG a sicrhau llwyddiant yn y dyfodol.

Rydym yn adeiladu ar y gwersi a nodwyd gan Arolygiaeth Prawf ei Mawrhydi a’r Swyddfa
Archwilio Genedlaethol, ac ar yr argymhellion yn adroddiad Swyddfa’r Cabinet, “Successful IT:
Modernising Government in Action”, mewn rhaglen gynhwysfawr i ddarparu TG effeithiol er
mwyn cefnogi’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol newydd yn ei waith o leihau aildroseddu,
cynnig gwell amddiffyniad i’r cyhoedd, a sicrhau bod troseddwyr yn cael cosb briodol.

42
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

Mae’r rhaglen yn rhan annatod o’r rhaglen newidiadau Camau Newydd a bydd yn dilyn y

A M C A N
prif elfennau isod:

• Datblygu, hybu a chynnal strategaethau, polisïau a safonau cenedlaethol ar gyfer


gwybodaeth a thechnoleg, gan gynnwys diogelwch gwybodaeth a gwarchod data.

• Dewis, datblygu a gweithredu modiwlau cymhwyso cenedlaethol er mwyn cefnogi prif

V I I I
swyddogaethau busnes y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol.

• Sicrhau contractau cefnogi rhan 1 a rhan 2 er mwyn darparu isadeiledd a’r systemau
cefnogi y naill ar ôl y llall ar gyfer y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol hyd 2010, gan
gymryd lle contract presennol yr NPSISS sy’n dod i ben yn Rhagfyr 2001.

• Swyddogaeth rheoli gwasanaeth er mwyn rheoli contractau cefnogi a sicrhau bod y


gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r manylion a’i fod yn cynnig gwerth am arian.

Bydd y gwaith tactegol yn cynnwys:

• Cyswllt NPSISS-POISE, er mwyn uno’r rhwydweithiau hyn a galluogi’r ardaloedd a’r


Gyfarwyddiaeth i gyfathrebu â’i gilydd

• Gwelliannau i CRAMS

• Cymwysiadau dros dro ar gyfer Beth sy’n Gweithio a rheoli risg (IAPS ac OASys)

• Atebion ar gyfer uno gwasanaethau

Yn y rhaglen hon rhoddir sylw i:

Arweinyddiaeth a chyfathrebu

• Mae rheolwr TG sydd â phrofiad o strategaeth TG, sicrhau contractau a darparu


gwasanaeth wedi ei benodi fel aelod allweddol o Dîm Rheolaeth Strategol y
Gyfarwyddiaeth Genedlaethol. Dechreuodd ar ei swydd ar 2 Ionawr 2001 ac ers hynny
mae staff profiadol eraill sydd â sgiliau cymwys wedi ymuno ag ef. Mae’r Grwp TG yn
cael ei ehangu i 50 o swyddi, er mwyn darparu ffocws cryf a medrus ar gyfer
arweinyddiaeth a chyfathrebu ledled y gwasanaeth.

• Sefydlwyd Bwrdd Rhaglenni Systemau Gwybodaeth newydd ar ddiwedd 2000, gyda’r


aelodau’n dod o blith yr holl brif fuddianwyr, er mwyn goruchwylio’r rhaglen a sicrhau
bod datblygiadau Gwybodaeth a Thechnoleg yn gwbl gydnaws â’r strategaeth brawf
genedlaethol integredig. Y bwrdd hwn bellach yw bwrdd Gwybodaeth a Thechnoleg y GPC.

• Mae TG yn cael ei weld fel rhan annatod o fusnes y gwasanaeth prawf, ac yn lle prosiectau
TG rydym yn meddwl yn nhermau prosiectau newid busnes gydag elfen bwysig o TG.

Rheoli Prosiectau

• Bydd y rhaglen TG yn cynnwys prosiectau sydd wedi eu diffinio’n glir, sydd ag adnoddau
cymwys ac sy’n cael eu rheoli’n dda, gan ddefnyddio dulliau sydd wedi eu sefydlu ar
gyfer prosiectau.

• Bydd Swyddfa Masnach y Llywodraeth yn gwneud adolygiad cynhwysfawr “Gateway


Review” ar gerrig milltir pwysig er mwyn sicrhau bod y prosiectau’n cael eu rheoli’n dda.

43
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

Rheoli Risg a Dulliau Gweithredu Modiwlaidd ac Ychwanegol


V I I I

• Bydd y Rhaglen TG a’i phrosiectau yn seiliedig ar asesiad llawn o risgiau a chynlluniau


wrth gefn a bydd y rhain yn dal i gael eu hadolygu.
A M C A N

• Rhoddir ystyriaeth lawn i’r negeseuon pendant sy’n deillio o’r profiad mai un ffordd effeithiol
o leihau risg yw trwy rannu prosiectau mawr yn gydrannau llai, a haws eu rheoli.

Mesur a Sylweddoli Manteision

• Un o’r prif bwyntiau a nodir fel beirniadaeth ar NPSISS yw ei hanallu, yn ystod cyfnod
y prosiect, i adolygu ei llwyddiant ar sail yr achos busnes gwreiddiol. Daeth gweithredu’r
caledwedd a’r meddalwedd i’w weld fel diwedd ynddo’i hun.

• Bydd y rhaglen TG yn cynnwys prosesau ffurfiol er mwyn pennu manteision y prosiectau


newydd ac adolygu faint o gynnydd sydd wedi ei wneud.

Gwell Rhyngweithio gyda Chyflenwyr

• Fel rhan o’r rhaglen TG mae’r Swyddfa Gartref wedi sefydlu swyddogaeth Rheoli
Darpariaeth Gwasanaeth er mwyn rheoli’r modd y darperir TG i’r Gwasanaethau Prawf.
Cynhelir cyfarfodydd dwyffordd rheolaidd ar wahanol lefelau, hyd at a chan gynnwys y
Prif Weithredwr.

• Yn fwy cyffredinol, mae Bwrdd yr Uned Integreiddio Busnes a’r System Wybodaeth (IBSG)
dan gadeiryddiaeth y Gweinidog, wedi dechrau cynnal fforwm rheolaidd gyda chyflenwyr
yr asiantaethau cyfiawnder troseddol fel rhan o strategaeth ar gyfer y Llywodraeth gyfan
er mwyn annog cydweithrediad mwy aeddfed.

Pobl a Sgiliau

• Rydym yn ceisio dod â’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i mewn i’r tîm er mwyn
cyflwyno’r rhaglen. Gwneir hyn trwy gyfuniad o hyfforddiant ffurfiol, ymgynghoriad
tymor byr yn ymwneud â throsglwyddo sgiliau, mentora a recriwtio staff parhaol. Mae
ffyrdd newydd o gynnwys staff sy’n gweithio yn yr ardaloedd yn cael eu cyflwyno,
megis comisiynu gwaith ar gyfer y Gwasanaeth Cenedlaethol i’w gyflwyno gan staff yn
yr ardaloedd. Rydym yn cyflwyno trefniadau llymach ar gyfer rheoli prosiectau a
rhaglenni, rheoli a gweithredu darpariaeth gwasanaeth. Ar gyfer y gwasanaeth yn ei
gyfanrwydd, mae angen mwy o safoni a chysonder, ynghyd â rheolau llymach dros
ddatblygu a’r gallu i rannu rheolaeth ac ymarfer TG da yn well.

• Ni fydd yn hawdd cael y cyfuniad cywir o sgiliau a phrofiad i reoli’r Rhaglen. Mae’r Uned
Fasnach a Chaffael yn ein cynghori ar y mater hwn ac yn helpu i lunio ffyrdd effeithiol
o ddod â phobl i mewn. Bydd y grwp TG yn dal i fod yn gyfuniad o staff parhaol, staff
wedi eu secondio, ymgynghorwyr a chontractwyr a fydd yn elwa o’r amrywiaeth hwn
o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad.

8.4: Rheoli Eiddo


Y prif amcan wrth reoli ein heiddo helaeth yw sicrhau bod yr adeiladau’n addas ar gyfer eu
pwrpas ac yn hyblyg ar gyfer y newidiadau yng ngofynion busnes y gwasanaeth prawf.
Bydd yn bwysig sicrhau hefyd bod safon yr adeiladau’n briodol, a’u bod yn llefydd diogel,
cyfforddus a chyfleus sy’n galluogi’r staff i roi o’u gorau, ac eto’n cadw’r cydbwysedd cywir
rhwng cost rheoli eiddo a phwysau pwysig arall ar ein hadnoddau.

44
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

Pan drosglwyddwyd yr eiddo i ddwylo’r Ysgrifennydd Gwladol, cytunwyd y byddai’r trefniadau

A M C A N
rheoli eiddo lleol yn aros mewn grym hyd o leiaf 31 Mawrth 2002.

Cynigir yn awr bod hyn yn cael ei ddilyn gan gyfnod rheoli eiddo a chyfleusterau interim,
a fydd yn para am ryw dair blynedd. Bydd union ddarpariaeth a strwythur y trefniadau hyn
yn dilyn adolygiad o’r Gwasanaethau o Ansawdd Gwell a bydd Swyddfa Masnach y
Llywodraeth yn ymwneud â’r gwaith.

V I I I
Y cyngor strategol yw bod angen gwella a rhesymoli’r anghenion sy’n gysylltiedig ag eiddo,
a bod llawer o gyfleoedd i sicrhau effeithlonrwydd yn bodoli. Byddai cyfle yn y dyfodol i
ffurfio partneriaeth fwy strategol – gyda chyrff eraill o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat,
pe bai hyn o fudd i’r GPC ac i’r trethdalwr.

Gellir ymdrin â hosteli ar wahân, gan eu bod yn llefydd aros arbenigol, a bydd ystyriaeth
yn cael ei rhoi i gynlluniau tymor hir y llywodraeth ar gyfer yr ‘eiddo canolraddol’.

8.5: Gwneud i’r strwythurau cenedlaethol newydd weithio


Mae’r GPC wedi ei adeiladu fel tîm cenedlaethol integredig, sy’n rhannu pwer ac yn
ysgwyddo’r cyfrifoldeb am sicrhau’r canlyniadau angenrheidiol ar y cyd.

Mae’n dîm o 43, h.y. Cyfarwyddiaeth Genedlaethol fel prif swyddfa’r GPC a 42 bwrdd ardal
sy’n gyfrifol am reoli, cyflogi a darparu gwasanaeth yn lleol. Bydd prif swyddogion a
chadeiryddion byrddau prawf ardaloedd yn gyfrifol am berfformiad lleol yn unol â’r
fframwaith cenedlaethol ar gyfer disgwyliadau a chanlyniadau.

Lluniwyd deg rhanbarth i ychwanegu gwerth at y tîm creiddiol hwn trwy ddarparu
cysylltwyr effeithiol rhwng y canol ac ardaloedd lleol yn ogystal â gweithio gyda byrddau i
sicrhau gwell perfformiad. Byddant yn helpu i gyflwyno a gwneud y defnydd gorau o’r
Model Rhagoriaeth Ewropeaidd, yn ffurfio cysylltiadau cryf gyda charchardai a rheolwyr
ardaloedd ac yn sicrhau bod gwaith y Gwasanaeth Prawf yn dod yn rhan o waith
Rhanbarthau Swyddfeydd y Llywodraeth. Bydd trefniadau hyfforddi cenedlaethol hefyd yn
dod yn rhan o’r strwythur rhanbarthol hwn, ar ôl cynnal trafodaethau ac ystyried yn ofalus
pa bryd a sut y gellir gwneud hyn yn y modd mwyaf effeithiol. Mae’r pwyslais ar wella
perfformiad a sicrhau bod y galluogwyr wedi eu sefydlu er mwyn i ardaloedd allu gwneud
hyn. Bydd cydweithredu rhanbarthol/cenedlaethol yn bwysig iawn er mwyn gallu darparu
gwasanaeth effeithiol.

Mae’n debyg hefyd, gydag amser, y bydd y rhanbarthau’n chwarae rhan bwysig yn y
gwaith o sicrhau’r arbedion maint sy’n bosib yn awr trwy bwerau newydd a roddwyd i
Fyrddau yn y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys. Bydd angen yr arbedion
a wneir trwy ‘brynu ar raddfa fawr’ (e.e. cyfleustodau) er mwyn cyflawni’n nod o ddarparu
gwasanaethau’n lleol. Bydd deg rheolwr rhanbarthol yn cysylltu’n uniongyrchol â Thîm
Rheolaeth Strategol y Gyfarwyddiaeth Genedlaethol.

Mae’r Uned Gydlynu Ranbarthol yn ceisio gwella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus trwy
archwilio modd y mae’r Llywodraeth yn nodi blaenoriaethau rhanbarthol ac yn datblygu polisïau
sy’n effeithio ar ranbarthau. Mae hyn yn berthnasol i holl adrannau’r Llywodraeth (ac yn
cynnwys y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol). Ceir Cynllun Gweithredu sy’n nodi nifer o feysydd lle
bwriedir gweithredu’n fuan. Disgwylir i wasanaethau cyfiawnder troseddol y Swyddfa Gartref
ychwanegu gwerth at Droseddau a Chyffuriau (gan weithio gyda Chyfarwyddwyr Troseddau
Rhanbarthol a’r Gwasanaeth Ymgynghorol er Atal Cyffuriau) ac Adnewyddu Cymdogaeth trwy
ymwneud â Phartneriaethau Strategol Lleol. Bydd Asiantaethau Datblygu Rhanbarthol yn
darparu’r strwythurau perthnasol y dirprwyir cyllid a chyfrifoldebau o’r fath iddynt.

45
V I I I F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

Mae’r penderfyniad i gynnwys ‘dimensiwn rhanbarthol’ yn strwythur y Gwasanaeth Prawf


Cenedlaethol hefyd yn adlewyrchu ymateb y GPC i’r disgwyliadau hyn. Yn ychwanegol at
hyn, mae’r penderfyniad yn ymateb i’r patrwm rhanbarthol a fabwysiadwyd gan
asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill, yn enwedig y Gwasanaeth Carchardai. Mae hefyd
A M C A N

yn galluogi byrddau prawf lleol i gydweithredu’n strategol o fewn fframwaith rhanbarthol


a gwireddu potensial arbedion maint. Bydd y Rheolwyr Rhanbarthol yn hwyluso cyfathrebu
rhwng y Gyfarwyddiaeth a’r prif swyddogion a chadeiryddion byrddau.

Bydd pob un o arweinwyr strategol y Gyfarwyddiaeth Genedlaethol yn gyfrifol am


rwydweithiau gweithredu sy’n cael eu harwain yn ganolog, a thrwy hynny’n cysylltu ac yn
sicrhau sylw arbenigol a daearyddol yn yr holl brif gynlluniau cenedlaethol.

Bydd y rhwydweithiau gweithredu hyn yn ffurfio rhywfaint o’r isadeiledd cynhwysiant holl
bwysig ar gyfer cynnwys, ymgynghori a chyfathrebu oddi mewn ac oddi allan i’r GPC.

46
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

G W A S A N A E T H
Gwasanaeth Unedig Cenedlaethol
RHANBARTHAU AC Cyfarwyddiaeth Genedlaethol
ARDALOEDD PRAWF: 42 ardal 10 rhanbarth

GORLLEWIN
CANOLBARTH LLOEGR:
West Mercia, Gorllewin y

U N E D I G
Canolbarth, Swydd Stafford, DWYRAIN

GOGLEDD DDWYRAIN Swydd Warwick CANOLBARTH LLOEGR:

LLOEGR: Swydd Derby, Swydd

Durham, Northumbria, Lincoln, Swydd Nottingham,


^ a Rutland,
Swydd Gaerl yr
Glannau Tees (Cleveland)

C E N E D L A E T H O L
Swydd Northampton

DE-ORLLEWIN
GOGLEDD-ORLLEWIN:
LLOEGR:
Cumbria, Swydd
Dyfnaint a Chernyw,
Gaerhirfryn, Sir Gaer,
Avon a Gwlad yr Haf,
Manceinion Fwyaf,
Dorset, Swydd
Glannau Mersi
Gaerloyw, Wiltshire
CYFARWYDDIAETH
GENEDLAETHOL

DE-DDWYRAIN LLOEGR:
LLUNDAIN:
Hampshire, Caint,
Llundain
Surrey, Sussex,
Dyffryn Tafwys

SWYDD GAEREFROG
DWYRAIN LLOEGR:
A GLANNAU HUMBER:
Swydd Bedford,
Gorllewin Swydd Gaerefrog,
Swydd Gaergrawnt, Essex,
Glannau Humber, Gogledd
Swydd Hertford,
Swydd Gaerefrog, De
CYMRU: Norfolk, Suffolk
Swydd Gaerefrog
Dyfed-Powys, Gwent,
Gogledd Cymru,
De Cymru

47
2 0 0 3 / 4 F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

Gwariant y Gwasanaeth Prawf


2001/2002 hyd 2003/2004
H Y D
2 0 0 1 / 0 2

Arall £33m

Arall £31m

Hyfforddiant £42m
Arall £31m
Hyfforddiant £52m
P R A W F

Hyfforddiant £36m Cyfalaf £28m

Arall £10m Cyfalaf £32m

Hyfforddiant £17m Cyfalaf £30m


G W A S A N A E T H

Hosteli £45m
Cyfalaf £14m Hosteli £44m
Hosteli £43m Hosteli £43m
Y
G W A R I A N T

Refeniw Refeniw Refeniw Refeniw


Grant Grant Grant Grant
£458m £500m £522m £562m

Llinell Sylfaen 2001/2002 2001/2002 SR2000 2002/2003 SR2000 2003/2004 SR2000

Cyfansymiau £542m £640m £681m £713m

48
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

A M C A N
AMCAN YMESTYNNOL IX
Adeiladu fframwaith rheoli
perfformiad effeithiol

I X
9. GOFYNION STRATEGOL
Rhaid i’r GPC gael isadeiledd rheoli perfformiad clir ac effeithiol er mwyn gallu nodi’r prif
ganlyniadau, a rhaid iddo allu adolygu cynnydd yn rheolaidd a dangos perfformiad a
chyrhaeddiad. Mae Fframwaith Rheoli Perfformiad y GPC yn nodi’r gwahanol gydrannau
sydd yn y model hwn sydd wedi’i deilwrio’n arbennig.

9.1: Model Rhagoriaeth Ewropeaidd (MRhE) a’r Strategaeth


Gwasanaethau o Ansawdd Gwell (GAG)
Amcan y prosiect rheoli perfformiad presennol yw datblygu fframwaith rheoli perfformiad
ar gyfer y GPC sy’n cynnwys hunan-asesu ar sail y MRhE ac sy’n cwrdd â gofynion
Gwasanaethau o Ansawdd Gwell (GAG).

Cynhaliwyd cynlluniau peilot hunan-asesu a oedd yn seiliedig ar y MRhE mewn naw


Gwasanaeth Prawf i ddechrau. Prif amcanion y cynlluniau peilot oedd helpu’r Gwasanaeth
i ddatblygu cyfarwyddyd priodol ynghylch y broses hunan-asesu a helpu i sefydlu i ba
raddau y byddai hunan-asesu ar sail y MRhE yn bodloni holl feini prawf y GAG – yn ogystal
â nodi pa adnoddau fyddai eu hangen ar gyfer yr isadeileddau perfformiad newydd hyn.
Mae arweiniad i’r defnydd o Fodel Rhagoriaeth y Sefydliad Rheoli Ansawdd Ewropeaidd
(EFQM) yn y GPC wedi ei gyhoeddi erbyn hyn ac mae rhai o’r 42 ardal a’r Gyfarwyddiaeth
Genedlaethol yn gwneud hunan-asesiadau bob blwyddyn, gan ddefnyddio’r canlyniadau i
ddarparu gwybodaeth ar gyfer elfen welliant parhaus y cynllun blynyddol.

Bydd y GPC yn cael adolygiad GAG o Ebrill 2001 ymlaen ar sail cylch pedair blynedd.

Mae model GAG ar gyfer y GPC wedi ei gymeradwyo gan Swyddfa’r Cabinet ac un agwedd
ar y prosiect perfformiad felly yw cyflwyno’r rhaglen hon yn y Gwasanaeth. Disgwylir,
ymhen amser, y bydd hyn yn creu economi gymysg ddatblygedig iawn yn y Gwasanaeth
sy’n darparu gwelliannau sylweddol mewn effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

9.2: Cyswllt Perfformiad y GPC


Penderfynwyd y dylid cael cymhelliant ariannol yn y fformiwla cyfyngiadau ariannol er
mwyn annog Byrddau Prawf lleol i wella perfformiad a chyfrannu tuag at y targedau
cenedlaethol y cytunwyd arnynt fel rhan o’r cytundeb SR2000. Mae swm o £10 miliwn
wedi ei glustnodi ar gyfer y cyswllt perfformiad, sy’n cyfateb i 2% o’r cytundeb ariannol
cenedlaethol. I ddechrau, ym Mlwyddyn 1, bydd hwn yn cael ei ddosbarthu i fyrddau lleol
yn gymesur â’r fformiwla cyfyngiadau ariannol heb ei wanychu. Erbyn 2003, fodd bynnag,
bydd yn cysylltu’n uniongyrchol â symiau cyfyngiadau ariannol a delir i Fyrddau Ardaloedd.

Datblygwyd y cyswllt perfformiad mewn trafodaethau gyda’r Swyddfa Gartref a’r Trysorlys ar:

• y gwahanol ddangosyddion y gellid eu defnyddio

• faint o bwys ddylid ei roi ar ddangosyddion o’r fath

49
I X F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

• y targedau perfformiad a gyrhaeddwyd

• y trefniadau modelu sy’n pennu’r swm a dderbynnir gan bob Bwrdd lleol
A M C A N

Mae cytundeb wedi ei sicrhau gyda’r Trysorlys bellach y bydd y fframwaith perfformiad,
i ddechrau, yn cynnwys:

• casgliad o Safonau Cenedlaethol (pwysiad 50%)

• gorfodaeth (pwysiad 40%)

• faint o amser mae’n ei gymryd i wneud adroddiad cyn-dedfrydu (pwysiad 10%)

Nodir y rhain yn y tabl isod fel Cyswllt Perfformiad y GPC ar gyfer Blwyddyn 1.

Amser i gynhyrchu Casgliad o Fesuryddion Safonau Cenedlaethol Gorfodaeth (Pwysiad


ACD (Pwysiad 10%, (Pwysiad 50%, Targed 90% yr un) 40%, Targed 90%)
Targed 90%)

Cyfran yr ACDau Ar gyfer Gorchmynion Adsefydlu Camau tor-amod i’w


a gwblhawyd • Trefniadau wedi eu gwneud ar gyfer apwyntiad cymryd yn unol â’r
cyn pen y Safon cyntaf cyn pen 5 diwrnod gwaith Safon Genedlaethol
Genedlaethol o • o leiaf 12 apwyntiad wedi eu trefnu o fewn y (ar neu cyn yr ail
15 diwrnod 12 wythnos gyntaf fethiant annerbyniol
• o leiaf 6 apwyntiad wedi eu trefnu o fewn y gyda dedfrydau
12 wythnos nesaf cymunedol, ac ar neu
• apwyntiadau misol ar ôl hynny cyn y trydydd methiant
Ar gyfer Gorchmynion Cosbi annerbyniol gydag
• sesiwn gwaith cyntaf wedi ei drefnu cyn pen achosion trwydded).
10 diwrnod gwaith
• troseddwyr yn cael cynnig isafswm o 3 awr yr
wythnos trwy gydol y gorchymyn
Ar gyfer Gorchmynion Cosbi ac Adsefydlu
• apwyntiad prawf cyntaf wedi ei drefnu cyn pen 3
diwrnod a’r sesiwn gwaith cyntaf wedi ei drefnu
cyn pen 10 diwrnod
• o leiaf 12 apwyntiad prawf ac 11 sesiwn gwaith
dedfryd gymunedol wedi eu trefnu yn ystod y
12 wythnos cyntaf
• o leiaf 6 apwyntiad prawf a 12 sesiwn gwaith
dedfryd gymunedol wedi eu trefnu yn ystod y
12 wythnos nesaf
Ar gyfer trwyddedau
• troseddwr yn cael ei weld cyn pen un diwrnod
gwaith ar ôl ei ryddhau
• ymweliad cartref cyn pen 10 diwrnod gwaith
ar ôl rhyddhau
• cyswllt wythnosol wedi ei drefnu ar gyfer y
4 wythnos gyntaf (yn dilyn y cyfarfod cyntaf)
• cyswllt bob pythefnos wedi ei drefnu ar gyfer
yr ail a’r trydydd mis
• cyswllt misol wedi ei drefnu ar ôl hynny

50
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

Bydd y rhain yn cael eu hailarfarnu bob blwyddyn yn unol â newidiadau o fewn y sefydliad

A M C A N
a newidiadau yn nisgwyliadau darparu’r GPC.

9.3: Gwybodaeth gefnogol


Bydd ar y fframwaith rheoli perfformiad newydd hwn angen systemau TG sylfaenol

I X
effeithiol a bydd y mesuryddion perfformiad a ddefnyddir ar unrhyw adeg yn cysylltu’n
uniongyrchol â gallu’r Gwasanaeth i ddarparu’r wybodaeth. Onid oes ffordd bendant o
gasglu a chysodi gwybodaeth am berfformiad yn electronig bydd yn anodd manteisio i’r
eithaf ar y math hwn o fframwaith cyflawn – er enghraifft, mae gosod meincnodau’n rhan
allweddol o hunan-asesu ond ni fydd yn gweithio’n dda onid oes gennym ddull effeithiol
o gynhyrchu’r data.

Mae un o elfennau’r prosiect perfformiad felly’n canolbwyntio ar hyn o bryd ar ofynion


gwybodaeth. Ei nod yw dod â gofynion gwybodaeth am berfformiad y prif fuddianwyr ym
mhob un o feini prawf y MRhE at ei gilydd mewn un ddogfen electronig. Bydd hyn yn
cynnwys gofynion y Gyfarwyddiaeth Genedlaethol, Arolygiaeth Prawf ei Mawrhydi ac
archwiliad mewnol ac allanol. Mae hwn yn waith cymhleth, ac mae llawer iawn o waith
datblygu i’w wneud eto.

9.4: Canlyniadau
Mae dau brif ganlyniad wedi eu nodi ar gyfer y GPC:

• erbyn 2004 ei fod yn sicrhau gostyngiad o 5% yng nghyfradd aildroseddu troseddwyr


sy’n cael eu goruchwylio; ac

• erbyn 2006 bod y GPC yn cael ei gydnabod fel gwasanaeth cyhoeddus sydd ar y brig
yn ôl meincnodau’r Model Rhagoriaeth Ewropeaidd.

51
F F R A M W A I T H S T R A T E G O L 2 0 0 1 – 2 0 0 4

Byrfoddau

Beth sy’n Gweithio Arferion a ddatblygwyd o’r rhai y profwyd eu bod yn llwyddo i
leihau aildroseddu

CBG Cyfarwyddiaeth Brawf Genedlaethol

CBP Cymdeithas y Byrddau Prawf (sefydlwyd yn Ebrill 2001)

CGC Cytundeb Gwasanaeth Cyhoeddus

CPC Cyngor Profiannaeth Canolog (diddymwyd ym Mawrth 2001)

CPSP Cymdeithas Prif Swyddogion Prawf (diddymwyd ym Mawrth 2001)

DPA Dangosydd Perfformiad Allweddol

EFQM Sefydliad Rheoli Ansawdd Ewropeaidd

GAG Gwasanaethau o Ansawdd Gwell (menter a gyflwynwyd gan y


Llywodraeth yn 1998)

GPC Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol dros Loegr a Chymru

IAPS Meddalwedd Rhaglenni Achredig Interim

IBSG Uned Integreiddio Busnes a Systemau Gwybodaeth (ar y cyd rhwng y


Swyddfa Gartref, Adran yr Arglwydd Ganghellor a Gwasanaeth Erlyn
y Goron)

MRhE Model Rhagoriaeth Ewropeaidd

OASys Trefn Asesu Troseddwyr

POISE Amgylchedd System Gwybodaeth Swyddfa Gynlluniedig


(system gyfathrebu mewnol electronig y Swyddfa Gartref)

52
Dyluniwyd a chynhyrchwyd gan
The Brightside Partnership
11-13 Macklin Street
Llundain WC2B 5NH
020 7831 9995

www.brightsideonline.com

53
Cyhoeddwyd gan y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol dros Loegr a Chymru
a Chyfarwyddiaeth Gyfathrebu’r Swyddfa Gartref
Awst 2001

National Probation Service for England and Wales


Horseferry House, Dean Ryle Street, London SW1P 2AW
020 7273 4000
www.homeoffice.gov.uk

You might also like