You are on page 1of 1

Cauldron Caters

YN D YN F OD UAN !

Mae CEMAS a Taste Wales, BBaCh yn Rhondda Cynon Taf, wedi cydweithio i ddatblygu Cauldron Caters.
Nod yr app yw addysgu plant am bwysigrwydd bwytan iach. Mae dwy elfen gychwynnol iddo, gm arddio lle mae plant yn dysgu am y tymhorau, cnydau a sut mae ffrwythau a llysiau yn tyfu. Unwaith y bydd defnyddwyr wedi cynhaeafur cnydau, bydd her newydd iddynt yn y gegin lle bydd angen iddynt baratoi pryd penodol. Pan gaiff y prydau iach eu paratoi, caiff y rysit lawn ei datgloi, a bydd y plant wedyn yn gallu coginior prydau gartref gydau rhieni. Mae gwyddoniadur hefyd er mwyn addysgu plant am fwydydd da a drwg. Mae Taste Wales, y cwmni syn gyfrifol am yr app, yn rhedeg busnes gwerthu ffrwythau a llysiau sydd r nod tymor hir o gael mwy o bobl i fwytan iach, meddwl am bwysigrwydd bwyd iach ac yna prynu eu cynnyrch yn lleol gan Taste Wales.

Mae CEMAS wedi cefnogir prosiect hwn drwy weithio ar y cam cyntaf, sef y gm (garddio/coginio). Nid yn unig y maent wedi darparur rhaglennu, maent wedi bod yn wych o ran rhoi cymorth a chynnig cefnogaeth a syniadau ar yr ochr greadigol hefyd. Heb CEMAS, fyddwn ni byth wedi gallu gwireddur prosiect oherwydd cyfyngiadau ariannol. Nawr bod y cam hwn wedii gwblhau, gallaf chwilio am fuddsoddwyr i ddatblygu fy mhrosiect yn llawn.

Nicola Knight

Cyfarwyddwr Taste Wales

Gallwch ddysgu mwy am Taste Wales a Cauldron Caters drwy fynd i:

www.tastewales.co.uk www.twitter.com/TasteWales www.facebook.com/TasteWales

ffn. 01443 654265 e-bost. cemas@southwales.ac.uk twitter. @CEMAS_USW gwefan. www.cemas.mobi

You might also like