Cyfle i Weithwyr Diwylliant Creadigol ac Entrepreneuriaid i werthuo a chynllunio tyfiant oi busnes, gan ddefnyddio dylunio.
BETH
Mae Hothaus yn cynnwys pedwar diwrnod o weithgareddau dwys yn seiliedig ar y 'Creative Enterprise Toolkit', a ddatblygwyd gan NESTA. Maer cwrs wedii gyllido felly maen rhad ac am ddim i gyfranogwyr.
Mae'r gweithdai yn defnyddio modelu creadigol, cynllunio a thechnegau dylunio i helpu entrepreneuriaid creadigol i ddelweddu eu busnes a datblygu gweithredoedd cam wrth gam i gyflawni eu huchelgeisiau.
Mae'r pecyn offer yn darparu cyngor, gweithgareddau, taflenni gwaith ac astudiaethau achos i herio unigolion i ddenu ar eu cryfderau creadigol a phersonol.
Bydd gweithgareddau yn eich helpu chi i feddwl yn greadigol am y cyfleoedd a'r posibilrwydd o'ch cynnyrch a helpu chi i adeiladu model busnes ymarferol a chynaliadwy. PAM
Gall tyfu busnes sydd wedi'i adeiladu ar angerdd am ymarfer creadigol fod yn werthfawr iawn, yn bersonol yn ariannol; ond nid bob tro. Efallai y bydd angen newid mewn ffocws, o ymarfer creadigol i ddatblygiad busnes strategol, er mwyn gwireddu potensial diwydiannau creadigol cychwynnol.
Gall twf o'ch busnes ofyn am newid mewn ystyriaeth: o weithio'n greadigol yn y busnes, i weithio'n strategol ar y busnes.
Bydd Hothaus yn darparu offer ac arbenigedd a fydd yn eich helpu i ganolbwyntio ar y busnes.
SUT
Mae Hothaus TESLA yn seiliedig ar y 'Creative Enterprise Toolkit', a ddatblygwyd a gynhyrchwyd gan NESTA.
Byddwch yn:
Darganfod ac alinio'r gwerthoedd sy'n gyrru eich practis neu busnes. Crynhoi'r effeithiau yr ydych ei eisiau greu trwy eich practis creadigol a'ch busnes. Dangos beth fydd llwyddiant yn edrych fel er mwyn llywio strategaeth fusnes. Gwerthuso'n fanwl pwy sy'n prynu eich cynnyrch neu wasanaeth a pham. Modelu'r elfennau sy'n rhan o'ch busnes a'i hamgylchedd. Cynllunio gweithgareddau marchnata ar gyfer eich busnes a dyfeisio strategaeth. Archwilio modelu ariannol, gan gynnwys y rl hanfodol o lif arian parod. Sicrhau bod eich busnes yn gwneud digon o arian i barhau i fasnachu a tyfu yn y cyfeiriad yr ydych yn dymuno. Am fwy o wybodaeth am y pecyn offer, ewch i wefan NESTA. PWY
Chi: Ymarfer creadigol yw hanfod eich busnes. Jyglo gofynion prynwyr, cyflenwyr, cydweithredwyr ac ymarfer creadigol, dim ond ychydig o amser sydd ar l i ystyried datblygaeth busnes strategol. Ond efallai eich bod chi'n teimlo y dylech.
Hyfforddwr: Percy Emmett, hyfforddwr arbenigol a strategydd profiadol iawn ym mhob maes o fewn y diwydiannau creadigol a diwylliannol. A phrofiad ganddo o sefydlu a chynnal busnesau creadigol ag incwm blynyddol o 1.7m, maen arbenigwr mewn datblygu busnes a mentora, or syniad hyd at y cychwyn, yn ogystal ag ym maes rheoli newid, gan ymdrin phob agwedd ar fedrau personol a phroffesiynol, diagnosteg busnes, cynllunio busnesau, a chyllid. PRYD
6 - 9 Hydref, 2014. (0930 1630)
Darperir lluniaeth a chinio bwffe. LLEOLIAD
Ystafell Penrhyn, Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, DU. ARCHEBU A CHYSYLLTU I archebu lle, ewch i http://hothauscreative.eventbrite.co.uk Os oes gennych chi unrhyw gwestiynnau, e-bostiwch lowri.owen@bangor.ac.uk